Yng Nghyngor Wrecsam rydym yn falch o ddarparu cartrefi gydol oes o ansawdd ardderchog i’n tenantiaid. Bydd y gwaith a wnawn yn awr, yn ddim byd tebyg i’r hyn a wnaethom o’r blaen. Mae’r eiddo hyn wedi cael eu hadnewyddu yn llwyr o’r top i’r gwaelod, gan gynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, gwaith plastro, gwaith trydanol, gwaith allanol a mwy.
Yn flaenorol, doedden ni ddim mewn sefyllfa ariannol i gynnig eiddo wedi’i adnewyddu i denantiaid newydd ac roeddent yn cael eu cyflwyno yn y cyflwr y gadawyd nhw ynddo, a dim ond gwaith i’w gwneud yn ddiogel oedd yn cael ei wneud cyn i denantiaid symud i mewn. Rydym wedi symud yn bell o hynny erbyn hyn, gan ragori ar y Safon Ansawdd Tai Cymru. Rydym bellach yn cofrestru tenantiaid newydd i eiddo sy’n debyg i ‘gartref arddangos’ y gallant fod yn falch ohono, ac y gallwn ni fod yn falch ohono.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Dywedodd Steve, Saer – Cyngor Wrecsam “Beth allaf ei ddweud, roedd yr eiddo roeddem yn arfer eu rhoi yn ôl yn wael. Dim ond gwasanaeth atgyweirio oeddem y dyddiau hynny a gofynnwyd i ni drwsio pethau. Byddwn yn embaras wrth fynd i mewn a gwneud y gwaith pan oedd y tenantiaid yno, roeddent bob amser yn edrych yn siomedig ein bod ond yn ‘gwneud y pethau sylfaenol’, a byddant yn teimlo y byddai’n dasg enfawr iddynt addurno i safon resymol. Yr adeg hynny, byddent yn cael lwfans addurno a fyddai prin yn talu am y paent ar gyfer lawr grisiau, ond mewn gwirionedd roedd y tŷ cyfan angen mwy na dim ond cot o baent.
Ond erbyn hyn – mae’n drawsnewidiad llwyr. Mae’r eiddo cyfan yn cael ei adnewyddu o’r top i’r gwaelod ac rydym bellach yn defnyddio ein sgiliau i’w potensial llawn, nid dim ond trwsio. Rydym yn darparu cartrefi i bobl y maent yn eu caru ac nid oes rhaid iddynt wneud unrhyw beth iddynt. Rwy’n teimlo’n falch pan welaf ymateb pobl i’w cartrefi newydd, mae’n gwneud i ni deimlo fel bod y gwaith a wnawn i gyd yn werth yr ymdrech. Mae’r boddhad o’r swydd yn hynod. Nawr bod gennym amrywiol sgiliau, mae’n golygu ein bod yn llawer mwy effeithlon ac effeithiol ac y gallwn gynnig gwasanaeth llawer mwy proffesiynol.”
Dywedodd Claire, Swyddfa Ystâd Rhos – Cyngor Wrecsam “mae’n rhoi llawer mwy o foddhad i mi nawr wrth gofrestru tenantiaid newydd, rwy’n falch o gael rhoi’r goriadau iddynt. Pan oeddwn yn cofrestru pobl o’r blaen, byddwn yn ceisio darbwyllo tenantiaid i beidio ag edrych gormod ar y décor, ac ar ôl iddynt addurno, byddai’n teimlo’n llawer mwy cartrefol.”
Dywedodd Miss Roberts, Tenant Cyngor Wrecsam – “Mae fy nhŷ newydd yn fendigedig, mae wedi ei gwblhau i safon mor uchel, y tu mewn a’r tu allan. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i gael cartref mor hyfryd. Mae fy swyddfa ystâd lleol wedi bod mor wych ac wedi fy nghefnogi bob cam o’r ffordd.”
Mae’r cynnyrch o’r safon uchaf a gynigiwn erbyn hyn, trwy fuddsoddiad a oedd gwir ei angen yn ein stoc dai, yn golygu ein bod hefyd yn gostwng cost ein hymateb i geisiadau am waith atgyweirio ac felly mae llai o amharu ar ein tenantiaid hefyd. Rydym hefyd wedi cael y cyfle i gynnig prentisiaethau masnach a swyddi i bobl leol, gan helpu ein heconomi lleol, cefnogi ein cymunedau a’u gwneud yn lleoedd i fod yn falch ohonynt.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths – “Mae’n braf gweld bod y gwaith caled a’r buddsoddiad yn talu ar ei ganfed; boddhad swydd, tenantiaid hapus a chymunedau sy’n ffynnu.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG