Gyda chyhoeddiadau diweddar am gystadlaethau ar gyfer y Jiwbilî Blatinwm a Dinas Diwylliant 2025, sydd â dyddiad cau ym mis Gorffennaf, bydd ein Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ychwanegol yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf, gydag argymhelliad i ddatblygu cais Dinas Diwylliant cam 1, ac archwilio cais am Statws Dinas gan weithio gyda budd-ddeiliaid allweddol i nodi’r manteision.
Gall y ddau gyfle posibl hwn ddarparu manteision sylweddol i Wrecsam. Byddai nodi a rhannu manylion y manteision hyn gyda budd-ddeiliaid dros y misoedd nesaf yn rhan allweddol o’r gwaith ar y prosiectau hyn.
Mae’r Cyngor yn annog cynrychiolwyr lleol, budd-ddeiliaid lleol a chymunedau i fod yn rhan gadarnhaol o’r broses hon dros y misoedd nesaf i gefnogi gwaith sy’n hanfodol i adferiad economaidd y dref a’r ardaloedd cyfagos.
Dywedodd y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae’r ddau gyfle hwn yn cynnig cyfle go iawn i ddangos yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, yr uchelgais sydd gan Wrecsam i gyflawni ei rôl yn iawn fel y brif ganolfan drefol a chalon Gogledd Cymru, ac wrth wneud hynny, darparu manteision sylweddol i breswylwyr lleol.”
Dywedodd y Cyng Terry Evans, Aelod Arweiniol Adfywio Economaidd, “Mae adferiad economaidd yn flaenoriaeth dros y misoedd nesaf a bydd y ddau gyfle hwn yn helpu i ddangos y ffydd sydd gennym i gyd yn Wrecsam, a’r ffydd hwn sy’n creu’r amgylchedd ar gyfer buddsoddiad yn yr ardal.”
Dywedodd y Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Mae gan Wrecsam hanes blaenorol cryf yn y maes hwn, ar ôl cynnal blwyddyn Ddiwylliant 2011. Mae gennym asedau diwylliannol cyfoethog gan gynnwys Tŷ Pawb, y cae pêl-droed rhyngwladol hynaf yn y Byd a Safle Treftadaeth y Byd, i enwi dim ond rhai. Rydym am ddathlu diwylliant unigryw Wrecsam gyda phreswylwyr lleol, ac mae Dinas Diwylliant 2025 yn cynnig cyfle unigryw i wneud hyn.”
O ran Statws Dinas, mae’r adroddiad yn amlinellu ei bod yn debygol y bydd budd-ddeiliaid yn mynegi amrywiaeth o safbwyntiau am oblygiadau cael Statws Dinas, rhai yn seiliedig ar fanteision a ddaw yn sgil hyn a rhai yn seiliedig ar farn pobl am y canfyddiadau sy’n gysylltiedig â ‘thref’ a gyda ‘dinas’.
Cyflwynwyd cais diwethaf y Cyngor am Statws Dinas yn 2012 fel rhan o Anrhydeddau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines. Os rhoddir cymeradwyaeth i archwilio cais, mae’n bwysig sicrhau ymgysylltiad budd-ddeiliad (partneriaid a’r gymuned) yn y cais hwn sy’n seiliedig ar y manteision a ddaw yn sgil statws dinas.
Mae cynyddu manteision economaidd i Wrecsam ar gyfnod o adferiad o Covid 19 yn hanfodol ar gyfer llwyddiant Wrecsam yn y dyfodol. Mae gwaith allweddol gofynnol yn cynnwys gweithio gydag arbenigwyr economaidd i nodi’r manteision ac unrhyw anfanteision sy’n gysylltiedig â statws dinas; ymgysylltu â budd-ddeiliaid am y manteision hyn i gael eu barn; nodi set allweddol o fudd-ddeiliaid a fyddai’n gweithio gyda’r Cyngor ar gefnogi’r cais.
Y dyddiad cau ar gyfer y cais hwn yw mis Rhagfyr 2021.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN