Mae tîm maethu Cyngor Wrecsam, sydd yn helpu i gydlynu a chefnogi gofalwyr maeth ar draws y Fwrdeistref Sirol, wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan archwilwyr.
Mae adroddiad sydd newydd ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn dweud bod gan y tîm weithwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda, a’i fod yn darparu cefnogaeth a chyfleoedd hyfforddiant da i ofalwyr maeth lleol.
Mae hefyd yn dweud bod y tîm wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol parhaol, ac mae ganddo nodau ac amcanion clir.
Meddai’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Plant: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ifanc a phlant…yn aml pan fo’r angen fwyaf. Mae hi’n hollbwysig felly y gallwn ni roi’r gefnogaeth orau allwn ni iddyn nhw.
“Mae’n tîm maethu yn lwcus bod ganddynt staff angerddol a phroffesiynol sydd yn ymroddedig i gefnogi gofalwyr maeth, ac mae’r adroddiad hwn yn brawf o’u gwaith caled. Maen nhw’n gwneud gwaith gwych.”
Mae’r AGC yn gorff statudol sydd yn monitro safonau ar draws Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru.
Fe ymwelodd archwilwyr â’r tîm yn gynharach eleni, gan dreulio amser gyda staff a siarad gyda gofalwyr maeth am eu profiadau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Walsh: “Rydym ni’n ymroddedig i gefnogi gofalwyr maeth yn Wrecsam, ac rydym ni bob amser yn dymuno denu mwy o bobl i faethu.
“Os hoffech chi wybod mwy, yna cysylltwch. Mae’n rhywbeth arbennig o werthfawr i’w wneud, ac fe allwn ni gynnig llawer o gymorth ac anogaethau – yn cynnwys hyfforddiant, taliad a hyd yn oed gostyngiad o 75% yn nhreth y cyngor.
“Cysylltwch…os gwelwch yn dda, fe fyddai’r tîm yn caru clywed gennych chi.”
Ein llwybr i ddod yn ofalwyr maeth – Newyddion Cyngor Wrecsam