Cafwyd adroddiadau yn ddiweddar bod pobl ddiamddiffyn (yn enwedig pobl oedrannus) yn ardal Gogledd Cymru yn cael eu twyllo gan alwyr diwahoddiad sy’n honni eu bod yn gweithio i fanc neu ddarparwr gwasanaeth. Cynghorir trigolion Wrecsam i fod yn wyliadwrus.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod twyllwyr mor bell ag Affrica wedi bod yn ffonio’r bobl ddiamddiffyn i gael gwybodaeth bersonol ganddyn nhw. Mae’r wybodaeth hon yn caniatáu i’r twyllwr gael mynediad at fanylion banc yr unigolyn, neu gymryd rheolaeth ar gyfrifiadur yr unigolyn a’u twyllo.
Mae hwn yn fath hir o dwyll, y gelwir yn aml yn sgâm ‘Nigerian 419’ oherwydd ei darddiad. Daw ‘419’ o adran yng Nghod Troseddol Nigeria sy’n gwahardd yr arfer hwn. Mae sgamiau o’r math hwn bellach yn digwydd dros y byd i gyd.
Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i BEIDIO â sgwrsio ag unrhyw alwyr diwahoddiad sy’n gofyn am wybodaeth bersonol. Rhowch wybod am unrhyw alwadau amheus i Wasanaethau Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu i Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Dyma rai camau y gallwch eu cymryd i beidio â chael eich twyllo…
• Peidiwch BYTH â rhannu manylion personol gyda galwyr diwahoddiad
• Ceisiwch gyngor annibynnol gan rywun rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo os oes gennych chi amheuaeth
• Os bydd rhywun yn dweud ei fod o sefydliad penodol, sicrhewch eich bod yn gwirio eu hunaniaeth drwy ffonio’r sefydliad perthnasol yn uniongyrchol
Nid dim ond dros y ffôn y mae’r sgamiau hyn yn digwydd chwaith…os cewch lythyr, neges e-bost, neges destun, neu hyd yn oed neges ar gyfryngau cymdeithasol, dilynwch y camau cywir i aros yn ddiogel.
Cofiwch, os ydych chi eisiau adrodd am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!