Agorwyd Tŷ Pawb, datblygiad Marchnadoedd, Cymunedau a Celfyddydau newydd Wrecsam, gwerth £4.5 miliwn, yn swyddogol heddiw cyn i’r dathliadiau Dydd Llun Pawb ar Dydd Llun.
Dechreuodd y gwaith ar y cyfleuster newydd ym mis Ionawr 2017 , gydag Wynne Construction yn dechrau ar yr her o drawsnewid yr hen neuadd farchnad yn gyfleuster golau, awyrog a fydd yn ychwanegu at fyd celf ffyniannus Wrecsam, yn ogystal â neuadd fwyd a stondinau marchnad.
Roedd y cyhoedd yn rhan bwysig o’r ddatblygiad trwy’r waith, gyda prosiectau, gweithdai a ddyfeisio enw newydd i’r canolfan – daeth yr enw “Tŷ Pawb” o gwmpas fel ganlyniad o waithdy rhanddeliaid, yn gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned celfyddydol a marchnadoedd yn Wrecsam, a’i ddilynwyd gan etholiad cyhoeddus.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
“Arloesol a chyffrous”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, a ddadorchuddiodd y plac swyddogol: “Rydw i’n falch iawn o fod yma gyda chynrychiolwyr o Gyngor Celfyddydau Cymru, ac aelodau o gymuned celf a marchnadoedd Wrecsam. Rydym wedi gweithio’n galed i gyflwyno Tŷ Pawb i bobl Wrecsam a’r cyffiniau. Mae’n brosiect arloesol a chyffrous ac yn dangos ein hymrwymiad i’n marchnadoedd a’r byd celf ffyniannus yma yn Wrecsam. Hoffwn ddiolch i bawb oedd yn rhan o’r prosiect a dymunaf yn dda iddynt am ddyfodol llwyddiannus. Rhaid diolch yn arbennig i Gyngor Celfyddydau Cymru. Heb eu cefnogaeth ariannol hael, ni fyddai hyn yn bosib, ac rydw i’n falch iawn bod eu cadeirydd, Phil George yma gyda ni heddiw i nodi’r achlysur.”
“Partneriaeth Gadarn”
Roedd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn bresennol yn yr agoriad hefyd, a dywedodd: “Mae’n gyffrous iawn croesawu agoriad yr arloesol Tŷ Pawb, mewn cyfnod heriol ar gyfer arian cyhoeddus, a oedd yn bosib oherwydd partneriaeth gadarn rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru. Rydw i bendant yn credu y bydd y cymysgedd hwn o ofodau celf gyda stondinau’r farchnad yn ddeniadol ac yn effeithiol iawn. Bydd yn bodloni anghenion lleol a hefyd yn cynnig Wrecsam fel lleoliad i ymwelwyr. Bydd adfywiad a dychymyg artistig yn mynd law yn llaw, fel maent yn aml iawn.”
Bydd Tŷ Pawb yn darparu dwy oriel, un i safon genedlaethol ar gyfer arddangosfeydd, nifer o leoedd perfformio a fydd yn hyblyg o ran defnydd, stondinau marchnad, gofod dysgu ac addysg ac ardal fwyd. Ymhlith y nodweddion eraill mae gweithdy Cwt Bugail dodrefn newydd a seddi.
“Canolbwynt i ymwelwyr.”
Crëwyd Wal Pawb, darn mawr o waith celf cyhoeddus gan yr artist Katie Cuddon. Mae’n lliwgar, yn fentrus ac yn chwareus a bydd yn creu canolbwynt ar gyfer ymwelwyr i’r ganolfan newydd. Comisiynwyd dodrefn gan Tim Denton, a oedd yn cydweithio gyda’r gymuned i lunio 90% o’r dodrefn yn y cyfleuster newydd. Darllenwch ragor am hyn yma.
Yn dilyn yr agoriad swyddogol, mae’r sylw nawr yn troi at ddigwyddiad mawr i ddathlu, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer dydd Llun, 2 Ebrill, ac yn dechrau am 12.30pm gyda pharêd o Stryt yr Hôb a arweinir gan Fand Pres Llareggub, y band pres o ogledd Cymru sy’n datgan eu bod yn “fand pres gydag agwedd”. Bydd rhan o’r parêd yn cynnwys 6 cerflun enfawr, a fydd yn cynrychioli 6 agwedd wahanol o hanes a chymuned Wrecsam. Bydd sawl elusen a sefydliad ieuenctid a chymuned yn cael eu cynnwys yn y parêd, a fydd yn ymlwybro drwy ganol y dref hyd at brif fynedfa Tŷ Pawb ar Stryt Y Farchnad.
“Diweddglo mawreddog o dân gwyllt”
Bydd y rhuban yn cael ei dorri pan mae’r parêd yn cyrraedd Tŷ pawb ac yna bydd y gweithgareddau’n parhau tan 9pm gyda diweddglo mawreddog o dân gwyllt.” Bydd gweithgareddau i blant a drefnwyd gan ein Tîm Chwarae hefyd, ac ar Ffordd Caer bydd stondin ffair gyda thema Fictoraidd, llawer o gelf, stondinau bwyd a diod, Planetariwm ‘StarDome’ Techniquest Glyndŵr a cherddoriaeth byw gan artistiaid yn cynnwys ‘The Big Beat’, Côr Cymunedol Wrecsam, ‘Baby brave’ a Chlwb Acordion Parc Du.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.