Swyddog Gweithrediadau Cludiant

Rydym ni’n chwilio am Swyddog Gweithrediadau Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol i ymuno â’n tîm presennol i sicrhau bod ein rhwydwaith cludiant Addysg a Gofal Cymdeithasol yn cael ei weithredu’n effeithiol ac effeithlon o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Fel rhan o’r swydd bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • Cadw cofnodion a rhestrau cywir o’r holl gontractau cludiant
  • Cadw cofnodion cywir o drwyddedau gweithredwyr cludiant, cerbydau a gyrwyr a ddefnyddir ar gyfer cludiant hur y Cyngor
  • Cadw cofnod o anghysondebau contractau, a chymryd camau priodol yn erbyn perfformiad gwael, yn unol â’r canllawiau cyfredol
  • Cynllunio a chyfrannu at fonitro contractau cludiant teithwyr
  • Cyfrannu at gynllunio gwasanaethau Cludiant Cyhoeddus a Chludiant o’r Cartref i’r Ysgol diogel ac effeithlon
  • Derbyn a phrosesu ceisiadau am gludiant
  • Helpu i benderfynu a yw plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol neu’r coleg

Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn Nepo Ffordd yr Abaty ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae’r swydd yn addas i unigolyn brwdfrydig a gweithgar sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd prysur sy’n gofyn llawer ac mae profiad mewn swydd debyg o fantais.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar wybodaeth helaeth o’r sir a’r ddealltwriaeth sydd ei hangen i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Mawrth.

Oes gennych chi ddiddordeb? Ymgeisiwch yma

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

TANYSGRIFWYCH