Rydym ni’n llwyr gefnogi ymgyrch wych Cymru yn Ailgylchu i fynd i’r afael â gwastraff bwyd, ac rydym ni wedi llunio rhestr ein hunain o argymhellion i’ch helpu i ailgylchu bwyd yn Wrecsam.
Dyma argymhellion defnyddiol i’ch helpu chi i fanteisio ar ein gwasanaeth ailgylchu…
Peidiwch â gorlenwi eich bag
Un o’r ffyrdd gorau o atal eich bagiau rhag rhwygo yw sicrhau nad ydych chi’n eu gorlenwi.
Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.
Archebu biniau newydd ar-lein yn hawdd
Rydym ni’n cynnig cadis newydd am ddim, felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi gadi cegin neu ymyl ffordd – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.
Gallwch wneud cais am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan , lle gallwch chi hefyd archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r cadis bwyd sy’n cael eu darparu gan Gyngor Wrecsam
Os nad ydych chi’n hoffi edrychiad ein cadis cegin llwyd, nid yw’n orfodol eich bod yn defnyddio ein fersiwn ni. Os yw’n well gennych chi, gallwch brynu eich cadi eich hun sydd yn cydweddu’n well â lliw eich cegin.
Neu fe allwch ei gadw o dan sinc y gegin a’i godi ar y cownter pan fyddwch chi’n plicio llysiau ac ati.
Arferion newydd yn gweithio
Gall cychwyn arferion newydd helpu pan fyddwch chi’n ailgylchu eich sbarion bwyd. Er enghraifft, tra’n gwagio bocsys bwyd y plantos ar ddiwedd y dydd, ceisiwch grafu crystiau sydd heb eu bwyta yn syth i mewn i’r bin yn rhan o’ch trefn. Beth bynnag yw’ch patrwm newydd, mae arferion newydd yn gweithio!
Ceisiwch ddysgu a chofio pa fwydydd y gellir eu hailgylchu
Rydym ni’n gwybod fod yna lawer i’w gofio, ond mae ceisio dysgu a chofio beth sy’n cael ei roi yn y bin bwyd yn ein helpu ni.
Mae rhai o’r pethau yma’n cynnwys:
- Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
- Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
- Esgyrn a phlisgyn wyau
- Reis, pasta, grawnfwydydd a nwdls
- Bara, cacennau, crwst a bisgedi
- Bagiau te a gwaddodion coffi
- Caws, wyau ac iogwrt
- Ffa, cnau, corbys a hadau
- Bwyd sydd heb ei fwyta o’ch plât
Tarwch olwg ar y fideo yma i gael rhagor o wybodaeth.
Cadwch eich cadi’n lân
Mae’n haws nag ydych chi’n ei feddwl i gadw eich cadi’n lân. Rhowch gynnig ar rai o’r pethau yma:
- Gwagiwch y bag yn fwy aml mewn tywydd cynnes
- Gwasgarwch ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y cadi
- Glanhewch unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith
- Cadwch gadi bwyd y gegin allan o olau uniongyrchol yr haul
- Glanhewch/diheintiwch y cadi yn rheolaidd
- Ac yn bwysig iawn, cadwch y caead ar gau
Defnyddiwch ein bagiau cadi am ddim
I gael bagiau newydd ar gyfer eich cadi bwyd, gallwch glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.
Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleustra, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu. Cliciwch yma i weld y rhestr gynhwysfawr.
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu
Ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha – pam na wnewch chi rannu eich awgrymiadau i safio bwyd?