Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch “Fix It Feb” Caffi Trwsio Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 27, 2026 11:50 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Rhesymau dros ymuno ag ymgyrch "Fix It Feb" Caffi Trwsio Cymru
RHANNU

Mae “Fix it Feb” Caffi Trwsio Cymru yn ôl, gyda’r ymgyrch yn hyrwyddo cynaliadwyedd trwy annog pobl i atgyweirio yn hytrach na phrynu eitemau newydd.

Ym mis Chwefror eleni, mae trigolion Wrecsam yn cael eu gwahodd i addo trwsio o leiaf un eitem sydd wedi torri– gan arbed arian, lleihau gwastraff, a chefnogi cynaliadwyedd yn lleol.

Gallai addewidion gynnwys gwnïo botwm, clytio dillad, neu adfer un o’ch hoff eitemau. Os ydych yn teimlo nad yw eich sgiliau trwsio yn ddigon da, peidiwch â phoeni!

Bydd Caffi Trwsio Wrecsam yn cynnal ei ddigwyddiad nesaf ddydd Sadwrn, Mawrth 14, 11am-1pm yng Nghanolfan Parc Caia, Prince Charles Road, LL13 8TH.

Galwch heibio gyda’ch eitem sydd wedi torri neu wedi’i difrodi, a bydd y trwswyr gwirfoddol yn ceisio ei hatgyweirio am ddim.

Gallwch hefyd weld dyddiadau digwyddiadau yn y dyfodol ar wefan Caffi Trwsio Cymru, neu dudalen Facebook Caffi Trwsio Wrecsam y gallwch ei dilyn hefyd ar gyfer y diweddariadau.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd a Hyrwyddwr Hinsawdd: “Rydym yn annog ein trigolion i leihau eu hôl troed carbon trwy gefnogi’r ymgyrch ‘Fix it Feb’. Diolch i waith gwych y caffis trwsio, gall pobl gadw eu heitemau am gyfnod hwy ac arbed arian ar yr un pryd.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Os oes gennych eitem sydd angen ei thrwsio, dewch â hi i’r caffi trwsio nesaf. Mae trwsio rhywbeth yn llawer gwell i’r amgylchedd na phrynu rhywbeth newydd, gan ei fod yn atal gwastraff diangen.”

Ymunwch â’r Mudiad! Rhowch eich cefnogaeth i “Fix It Feb” gan ymweld â gwefan Caffi Trwsio Cymru. Gwnewch eich addewid heddiw a byddwch yn rhan o’r mudiad ar gyfer Cymru fwy cynaliadwy a di-wastraff.

Benthyca a Thrwsio – pam prynu pan allwch chi fenthyg?

Gyda Benthyca a Thrwsio yn Nhŷ Pawb, gallwch gael gafael ar yr hyn sydd ei angen arnoch heb wario gormod. Mae’n ffordd gost-effeithiol ac ecogyfeillgar o gael yr eitemau sydd eu hangen arnoch, yn union pryd y mae eu hangen arnoch.

O beiriannau gwnïo i offer gwersylla, tŵls i gyflenwadau parti, mae yna ddigon o eitemau defnyddiol y gallwch eu llogi am gost fach (o’i gymharu â’r hyn y byddech chi’n ei dalu i brynu’r eitem newydd eich hun).

Gall fod yn ateb gwych os mai dim ond am gyfnod byr y mae angen i chi ddefnyddio rhywbeth. Mae’r cynllun benthyca a dychwelyd yn helpu i leihau gwastraff diangen ac yn osgoi gorfod talu pris llawn am rywbeth na fydd ei angen arnoch yn aml iawn.

Darllenwch fwy am hyn yn ein blog Benthyca a Thrwsio.

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchuamgylcheddenvironmentrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Heart tree - love your environment this Valentine's Day Sut y gallwch chi garu’ch amgylchedd ar Ddydd Sain Folant (14 Chwefror)
Erthygl nesaf Road Helpwch i gadw ffyrdd yn fwy diogel – dywedwch eich dweud!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English