Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchu bwyd – argymhellion defnyddiol…Bydd wych. Ailgylcha.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ailgylchu bwyd – argymhellion defnyddiol…Bydd wych. Ailgylcha.
Y cyngor

Ailgylchu bwyd – argymhellion defnyddiol…Bydd wych. Ailgylcha.

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 22, 2024 2:02 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ailgylchu bwyd - argymhellion defnyddiol…Bydd wych. Ailgylcha.
RHANNU

Rydym ni’n llwyr gefnogi ymgyrch wych Cymru yn Ailgylchu i fynd i’r afael â gwastraff bwyd, ac rydym ni wedi llunio rhestr ein hunain o argymhellion i’ch helpu i ailgylchu bwyd yn Wrecsam.

Cynnwys
  • Peidiwch â gorlenwi eich bag
  • Archebu biniau newydd ar-lein yn hawdd
  • Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r cadis bwyd sy’n cael eu darparu gan Gyngor Wrecsam
  • Arferion newydd yn gweithio
  • Ceisiwch ddysgu a chofio pa fwydydd y gellir eu hailgylchu
  • Cadwch eich cadi’n lân
  • Defnyddiwch ein bagiau cadi am ddim

Dyma argymhellion defnyddiol i’ch helpu chi i fanteisio ar ein gwasanaeth ailgylchu…

Peidiwch â gorlenwi eich bag

Un o’r ffyrdd gorau o atal eich bagiau rhag rhwygo yw sicrhau nad ydych chi’n eu gorlenwi.

Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.

Archebu biniau newydd ar-lein yn hawdd

Rydym ni’n cynnig cadis newydd am ddim, felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi gadi cegin neu ymyl ffordd – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.

Gallwch wneud cais am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan , lle gallwch chi hefyd archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r cadis bwyd sy’n cael eu darparu gan Gyngor Wrecsam

Os nad ydych chi’n hoffi edrychiad ein cadis cegin llwyd, nid yw’n orfodol eich bod yn defnyddio ein fersiwn ni.  Os yw’n well gennych chi, gallwch brynu eich cadi eich hun sydd yn cydweddu’n well â lliw eich cegin.

Neu fe allwch ei gadw o dan sinc y gegin a’i godi ar y cownter pan fyddwch chi’n plicio llysiau ac ati.

Arferion newydd yn gweithio

Gall cychwyn arferion newydd helpu pan fyddwch chi’n ailgylchu eich sbarion bwyd.  Er enghraifft, tra’n gwagio bocsys bwyd y plantos ar ddiwedd y dydd, ceisiwch grafu crystiau sydd heb eu bwyta yn syth i mewn i’r bin yn rhan o’ch trefn. Beth bynnag yw’ch patrwm newydd, mae arferion newydd yn gweithio!

Ceisiwch ddysgu a chofio pa fwydydd y gellir eu hailgylchu

Rydym ni’n gwybod fod yna lawer i’w gofio, ond mae ceisio dysgu a chofio beth sy’n cael ei roi yn y bin bwyd yn ein helpu ni.

Mae rhai o’r pethau yma’n cynnwys:

  • Ffrwythau a llysiau – amrwd ac wedi’u coginio
  • Cig a physgod – amrwd ac wedi’u coginio
  • Esgyrn a phlisgyn wyau
  • Reis, pasta, grawnfwydydd a nwdls
  • Bara, cacennau, crwst a bisgedi
  • Bagiau te a gwaddodion coffi
  • Caws, wyau ac iogwrt
  • Ffa, cnau, corbys a hadau
  • Bwyd sydd heb ei fwyta o’ch plât

Tarwch olwg ar y fideo yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cadwch eich cadi’n lân

Mae’n haws nag ydych chi’n ei feddwl i gadw eich cadi’n lân. Rhowch gynnig ar rai o’r pethau yma:

  • Gwagiwch y bag yn fwy aml mewn tywydd cynnes
  • Gwasgarwch ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y cadi
  • Glanhewch unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith
  • Cadwch gadi bwyd y gegin allan o olau uniongyrchol yr haul
  • Glanhewch/diheintiwch y cadi yn rheolaidd
  • Ac yn bwysig iawn, cadwch y caead ar gau

Defnyddiwch ein bagiau cadi am ddim

I gael bagiau newydd ar gyfer eich cadi bwyd, gallwch glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleustra, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.  Cliciwch yma i weld y rhestr gynhwysfawr.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu

Ymunwch â’r sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha – pam na wnewch chi rannu eich awgrymiadau i safio bwyd?

Gymru, achub dy groen! Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd – Bydd Wych. Ailgylcha. – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchufood wastegwastraff bwydrecycling
Rhannu
Erthygl flaenorol Parked car Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru’n cydweithio i fynd i’r afael â pharcio anghyfrifol yng nghanol y ddinas
Erthygl nesaf Old Roof Tiles Building House Safonau Masnach Wrecsam yn cyflwyno rhybudd i breswylwyr sydd yn ystyried gwneud gwaith ar y to.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English