‘Dw i’n gwybod sut i ailgylchu plastig, caniau, papur a chardbord yn barod’ medde chi, ond y cwestiwn go iawn ydi ‘ydych chi’n gwybod sut ac yn lle y gallwch chi ailgylchu’r HOLL wahanol fathau o blastig, caniau, papur a chardbord?’
Hyd yn oed gyda’r bwriadau gorau i ailgylchu, oherwydd bod ‘na gymaint o wahanol fathau o ddeunyddiau ar gael efallai nad ydych chi’n sylweddoli eich bod chi’n gallu ailgylchu rhai pethau – nail ai wrth ymyl y palmant neu yn eich canolfan ailgylchu leol.
Felly beth am ddechrau gyda phlastigion!
Plastig
Mae yna lwythi o wahanol fathau o blastigion, ac yn aml iawn rydym ni’n gofyn i ni’n hunain ‘pa blastigion dw i’n gallu eu hailgylchu?’
Y newyddion da ydi bod llawer o’r eitemau plastig hyn yn eitemau y gellir eu hailgylchu yn Wrecsam… a’r rhan fwyaf ohonyn nhw wrth ymyl y palmant.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Pa eitemau plastig ydw i’n gallu eu hailgylchu wrth ymyl y palmant?
Yn syml gallwch ailgylchu POB potel blastig a PHOB mathau o hambyrddau bwyd, potiau a thybiau plastig ar ochr y ffordd yn Wrecsam. Bydd dilyn hyn yn eich cadw chi ar y trywydd cywir.
Ond, i’ch helpu chi ddeall pethau ychydig yn well, dyma enghreifftiau o’r eitemau cartref y gallwn ni eu hailgylchu:
• Potiau iogwrt
• Tybiau menyn/margarin
• Tybiau prydau parod
• Poteli siampw
• Poteli gel cawod
• Poteli cynnyrch glanhau cegin/ystafell ymolchi (yn cynnwys gyda chwistrell)
• Tybiau ffrwythau (ond nid y ffilm na’r papur swigod)
• Y bocsys clir y cewch chi fwyd Tsieineaidd/Indiaidd ynddyn nhw
• Poteli ysgytlaeth
• Hambyrddau cig
• Tybiau hufen ia
• Tybiau siocled mawr (Quality Street, Celebrations ac ati)
Ond gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n lân, heb unrhyw weddillion bwyd na diod ynddyn nhw, cyn eu rhoi yn y cynwysyddion ailgylchu.
Pa eitemau plastig ydw i’n gallu eu hailgylchu yn y ganolfan ailgylchu?
Gallwch ailgylchu’r holl bethau uchod yn ein canolfannau ailgylchu yn Wrecsam, yn ogystal â nifer o eitemau plastig caled na fedrwch chi eu hailgylchu wrth ymyl y palmant. Er enghraifft:
• Teganau
• Bocsys bwyd
• Dodrefn gardd plastig
• Potiau blodau plastig
• Cesys CD/DVDs
• Bocsys storio a bocsys rhwyllog plastig
• Biniau plastig
• Casgenni dŵr
Cofiwch am….
Y siop ailddefnyddio
Os ydych chi’n bwriadu gwaredu eitemau plastig fel dodrefn gardd neu deganau, a’u bod nhw mewn cyflwr da, yna beth am eu rhoi i’r siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Lôn y Bryn? Y ogystal ag ailgylchu’r eitemau mi fyddwch chi hefyd yn helpu elusen leol.
Mae’r siop yn cael ei rhedeg gan Hosbis Tŷ’r Eos, ac mae gan bob un o’n tri chanolfan ailgylchu lefydd arbennig i chi roi eitemau i’w hailddefnyddio…os nad ydych yn siŵr lle mae’r rhain, gofynnwch i un o’n cynorthwywyr ddangos i chi.
Caniau
Yn ogystal â chaniau arferol, wyddoch chi eich bod chi hefyd yn gallu ailgylchu ffoil glân, hambyrddau ffoil ac erosolau ar garreg y drws? Ar ben hynny, fe allwch chi hefyd roi caeadau metel poteli gwydr yn eich cynhwysydd ailgylchu caniau.
Os oes gennych chi boteli gwin gyda chaeadau metel mae croeso i chi adael y caeadau arnyn nhw a’u roi yn y cynhwysydd gwydr yn ôl yr arfer – byddwn yn eu gwahanu yn ystod y broses ddidoli.
Beth ddylwn i ei wneud gyda chaeadau tuniau?
Unwaith y mae’ch tun metel yn wag ac yn lân, un peth fedrwch chi ei wneud i’n helpu ni ydi rhoi caeadau’r tuniau y tu mewn i’r tun pan fyddwch chi’n eu hailgylchu. Wrth i ni wasgu’r tuniau metel yn y ganolfan ailgylchu, yn aml iawn mae’r caeadu sy’n rhydd yn llithro allan o’r swp oherwydd eu maint, felly mae eu rhoi y tu mewn i’r tuniau yn help garw.
Papur a chardbord
Mae’r papur a’r cardbord y gallwch chi eu hailgylchu wrth ymyl y palmant yn cynnwys:
• Papur parsel brown
• Cardbord
• Catalogau
• Cardiau Nadolig heb addurniadau (fel gliter) a ffoil arnyn nhw
• Papur llungopïo
• Cyfeiriaduron
• Amlenni (gyda a heb ffenestri)
• Pamffledi
• Cylchgronau
• Papur newydd ac atodiadau
Yn anffodus ni allwn ailgylchu unrhyw bapur gyda deunyddiau fel cwyr, plastig neu ffoil arnyn nhw (fel papur lapio neu gardiau Nadolig neu ben-blwydd metelaidd), felly mae’n bwysig cofio am hyn cyn i chi brynu’r eitemau yma.
Mae’n well cadw draw oddi wrth bapur gyda ffoil, gliter, laminiadau neu unrhyw ychwanegiadau plastig arnyn nhw er mwyn i ni fedru eu hailgylchu.
Tynnwch bopeth allan o focsys cardbord
A ‘da ni’n golygu popeth! Felly fe ddylech chi dynnu unrhyw dâp, styffylau, papur swigod, haenau plastig ac ati oddi ar eich bocs cardbord cyn ei ailgylchu.
Yn anffodus, dydyn ni ddim yn cofio gwneud hyn bob tro – ‘da ni’n tynnu ein heitem allan o’r bocs heb feddwl am y deunyddiau sydd ar ôl ynddo.
Dros y blynyddoedd mae criwiau’r canolfannau ailgylchu wedi dod ar draws dillad, matiau, bwyd, plastigau cymysg a hyd yn oed coeden Nadolig wedi’u gadael y tu mewn i focsys cardbord!
Gwasgwch y bocsys yn fflat
Hefyd, os byddwch chi’n gwasgu’ch bocsys yn fflat cyn eu hailgylchu yn eich bag glas/bocs uchaf y bin olwynion, bydd gennych chi fwy o le i weddill eich cardbord a’ch papurau.
Mae hyn hefyd yn gadael i ni gasglu’r deunyddiau ailgylchu yn llawer iawn mwy effeithiol, felly mae pawb yn elwa.
Os ydi’ch bocs/bag yn llawn, fe allwch chi roi cardbord a phapurau mewn cynwysyddion eraill sydd gennych chi – a bydd ein criw ailgylchu yn mynd â’r papur/cardbord gan adael eich cynwysyddion ar ôl i chi eu defnyddio eto.
Cofiwch, os ydych chi’n defnyddio eich cynwysyddion eich hun, peidiwch â chymysgu deunyddiau e.e. peidiwch â llenwi bag at ei hanner gyda phapur/cardbord ac yna rhoi eitemau plastig er y top. Gwahanwch y deunyddiau yn ôl yr arfer: rhowch bapurau/cardbord mewn un cynhwysydd ac eitemau plastig mewn un arall.
A chofiwch, fe allwch chi fynd ag unrhyw eitem ychwanegol sydd gennych chi i’r ganolfan ailgylchu.
Mae bin penodol ym mhob canolfan ailgylchu ar gyfer cardbord gwrymiog brown, ac mae yna finiau eraill ar gyfer papurau cymysg i chi roi’ch holl bapurau, papurau newydd, cylchgronau a phecynnau cardbord eraill. Felly mae’n syniad da i chi wahanu eich cardbord gwrymiog brown ymlaen llaw.
Ydych chi wedi dysgu rhywbeth newydd? Naill ffordd neu’r llall, diolch i chi am dreulio amser yn meddwl am ailgylchu a pharhau i wneud eich rhan chi er budd Wrecsam 🙂
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH