Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailwampio adeiladau “hyll” yng nghanol y pentref
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ailwampio adeiladau “hyll” yng nghanol y pentref
Pobl a lleY cyngor

Ailwampio adeiladau “hyll” yng nghanol y pentref

Diweddarwyd diwethaf: 2017/09/05 at 3:32 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Ailwampio adeiladau "hyll" yng nghanol y pentref
RHANNU

Mae newyddion da iawn i drigolion Rhiwabon, gan y cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd cyfres o adeiladau heb eu datblygu, sydd wedi’u lleoli yng nghanol y pentref, yn cael eu hadfywio.

Yn 2004, fe ddechreuodd datblygwr weithio ar dri thŷ wedi’u lleoli ar hen safle Garej Fictoria yn Rhiwabon, ger cornel y Stryd Fawr a Lôn Maes y Llan.

Ond ni chafodd y gwaith ei gwblhau, ac mae’r tai â gwaith ar ei hanner, yn wag hyd heddiw.

Yn y cyfamser, cynhaliwyd gwaith gan Gyngor Wrecsam i ddiogelu’r safle, ond oherwydd cymhlethdodau’n ymwneud â pherchnogaeth a datblygu, nid oedd yn bosibl dymchwel yr adeiladau nac ychwaith eu hailddatblygu’n gyfan gwbl.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Ond diolch i holl waith caled Cyngor Wrecsam, Cyfreithwyr Llys y Goron, Cyngor Cymunedol Rhiwabon a Thai Wales & West, fe fydd y safle rŵan yn cael ei ailddatblygu.

Prynwyd yr adeiladau gan Ystâd y Goron, ac yna fe’u gwerthwyd i Dai Wales & West.

Golyga hyn y bydd y gymdeithas dai yn gallu ailddatblygu’r safle er mwyn adeiladu tai cymdeithasol sydd wir eu hangen yn yr ardal.

“Newyddion da iawn”

Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai Cyngor Wrecsam: “Braf iawn yw clywed am y datblygiadau sydd ar y gweill ar gyfer yr adeiladau hyn.

“Hoffwn ddiolch i’r Adran Tai ac Economi a’r Cynghorydd Davies fel aelod lleol am eu holl waith caled – roedd eu hymdrechion i sicrhau canlyniad cadarnhaol yn angenrheidiol.

“Braf iawn yw gweld hefyd y bydd y safle yn cael ei ailddatblygu er mwyn adeiladu tai cymdeithasol, rwyf yn sicr y bydd galw amdanynt ac fe fydd hyn yn ailfywiogi canol tref Rhiwabon unwaith eto.”

Dywedodd y Cynghorydd Dana Davies, aelod lleol ar gyfer Rhiwabon a Chadeirydd Cyngor Cymunedol Rhiwabon: “Rwyf yn falch iawn o glywed y newyddion da am y safle hwn.

Mae trigolion Rhiwabon wedi gorfod wynebu’r safle hyll hwn am gyfnod hir iawn, ac rwyf i, a sawl un arall rwy’n siŵr, yn falch iawn o weld y bydd yr adeiladau hyn yn cael eu hailddatblygu ac fe wneir defnydd da ohonynt.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym wedi ei derbyn gan Dîm Partneriaeth Tai Cyngor Wrecsam, sydd wedi gweithio’n galed iawn tra’n ymdrin â’r mater hwn.

“Rwyf hefyd yn ddiolchgar ein bod wedi gallu gwneud defnydd o gyllid tai gwag Llywodraeth Cymru a oedd wedyn yn galluogi’r Cyngor i fynd ar drywydd datrysiad cyfreithiol llwyddiannus.”

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Tai Wales & West: “Rydym yn falch iawn o dderbyn y cyfle i drawsnewid y safle hwn i res ddeniadol o dai dwy lofft, er mwyn ceisio diwallu’r angen am fwy o dai fforddiadwy yn Wrecsam.”

I gael mwy o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer Tai Fforddiadwy, cysylltwch ag Adran Dai’r Cyngor ar 01978 298 993.

Mae Cyngor Wrecsam yn cynnig cymhellion i gefnogi perchnogion tai sy’n wag am gyfnod hir, gan gynnwys benthyciadau di-log, cymorth â threfnu contractwyr, a chymorth â gosod a rheoli eiddo. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 019783 315 587 neu e-bostiwch emptyhomes@wrexham.gov.uk.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi'n rhentu eiddo yng Nghymru? Darllenwch hyn... Ydych chi’n rhentu eiddo yng Nghymru? Darllenwch hyn…
Erthygl nesaf 'Tystio'r pŵer hud ein hanthem genedlaethol' ‘Tystio’r pŵer hud ein hanthem genedlaethol’

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Adult Community Learners
Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Ionawr 15, 2026
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd - sesiwn ymgynghori galw heibio
Ysgol Gynradd Maes y Mynydd – sesiwn ymgynghori galw heibio
Busnes ac addysg Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 15, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall Ionawr 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Pobl a lle

Gwaith adnewyddu Marchnadoedd Wrecsam yn cael ei gydnabod yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 15, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Norwich – parcio cyfleus a diogel

Ionawr 14, 2026
Wrexham city centre
Pobl a lle

Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – rhannwch eich barn ar Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Wrecsam

Ionawr 12, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English