Wrexham town centre

Gall arolwg o fusnesau lleol fod o gymorth i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Wrecsam.

Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi busnesau ar Ffordd Grosvenor sydd yn awyddus i gynnal arolwg ar sut mae cwmnïau cyfagos yn cael eu heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gall y canfyddiadau roi hwb i waith parhaus.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hon yn broblem gymhleth ac nid oes datrysiad hawdd i’w gael.

“Mae’r cyngor yn gweithio’n galed- gyda’r heddlu, GIG, y gwasanaethau brys a’r trydydd sector – i wella’r sefyllfa, ac mae deall safbwynt busnesau lleol yn rhan bwysig iawn o’r gwaith hwnnw.”

“Gobeithiwn y bydd busnesau’n fodlon rhannu eu canfyddiadau â ni ac eisiau gweithio â nhw gymaint â phosib.”

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Mater Cymhleth

Mae partneriaeth unigryw, sy’n manteisio ar adnoddau ac arbenigedd o bob rhan o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, eisoes wedi’i sefydlu yn Wrecsam.

Mae’r bartneriaeth o’r farn bod gweithio ar y cyd ag eraill, i gynnig cyfleoedd gwell i unigolion sydd wedi’u heffeithio gan ddigartrefedd ac yn cam-drin sylweddau, yn allweddol.

Dywedodd y Cynghorydd Jones: “Os allwn fod o gymorth i unigolion i newid eu ffordd o fyw, bydd hynny yn sicr o wella eu sefyllfa – yn ogystal â sefyllfa’r busnesau lleol a’r cyhoedd.

“Mae llawer o ddinasoedd a threfi yn mynd i’r afael â phroblemau sy’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, digartrefedd a cham-drin sylweddau – gan gynnwys ‘sylweddau seicoweithredol newydd’.

“Mae’n rhaid i ni ddarganfod datrysiad sy’n diwallu anghenion pawb – gan gynnwys yr unigolion sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin sylweddau, busnesau lleol a’r cyhoedd.

“Mae’n fater cymhleth iawn ond mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn.”

“Nid ydym yn anwybyddu’r broblem. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd.”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI