Ydych chi’n teithio i’r gwaith ar eich pen eich hun yn y car, neu ar gludiant cyhoeddus?
Oeddech chi’n gwybod bod pobl sy’n teithio i’r gwaith fel arfer yn arbed dros £1,000 drwy rannu ceir?
Mae Liftshare.com yn wefan am ddim lle gallwch ddod o hyd i bobl i rannu siwrneiau gyda nhw – rhannu’r siwrnai, rhannu’r gost.
Nid arbed arian yw’r unig fantais i rannu siwrneiau. Dyma rai o’r manteision:
Lleihau allyriadau CO2
Mae llai o geir ar y ffyrdd yn golygu llai o CO2 a nod Liftshare yw arbed biliwn o filltiroedd – gallwch fod yn rhan o hynny drwy rannu eich siwrnai.
Beth am fynd gam ymhellach? Mae cerdded neu feicio i’r gwaith yn opsiwn di-garbon!
Lleihau straen
Casáu bod yn sownd mewn traffig? Mae’n digwydd i bawb. Gallwch osgoi’r tagfeydd a lleihau’r straen wrth deithio trwy rannu car.
Parcio
Mae rhannu eich siwrnai yn y car yn golygu rhannu’r straen, pwysau parcio a’r gost ddyddiol hefyd.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd: “Mae llawer o fanteision i rannu eich siwrnai i’r gwaith ac mae Liftshare yn ffordd wych o wneud y cyfan yn hawdd iawn. Mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ac mae gan bawb ran yn hynny o beth. Rydw i’n eich annog chi i gael golwg ar y wefan lle gallwch ymuno am ddim ac efallai y gwelwch chi ffordd hawdd o arbed cannoedd o bunnoedd.”