Mae Community Catalysts yn cynnig mentora am ddim i bobl sy’n byw yn ardal Glyn Ceiriog a’r Waun i’w helpu i sefydlu eu mentrau eu hunain fydd yn helpu trigolion hŷn neu rai anabl i wella eu hannibyniaeth.
Maen nhw wedi bod yn gweithio yn ardal Wrecsam yn cefnogi pobl i sefydlu eu busnes eu hunain gyda’r nod o gynllunio gofal personol, creu cyfeillgarwch a rhoi cymorth siopa, garddio, glanhau, helpu gyda TGCh a llawer mwy.
Efallai bod gennych syniad yn barod yr hoffech fynd â fo gam ymhellach neu eich bod am helpu pobl yn eich cymuned i wella ansawdd eu bywyd a chadw eu hannibyniaeth.
Os hynny, beth am ddarganfod mwy drwy alw yn un o’u sesiynau yn Neuadd Goffa Oliver Jones, Dolywern ddydd Iau 12 Awst rhwng 13.30 a 15.00.
Bydd Tom Hughes o Community Catalysts Wrecsam a Davena Davis, Asiant Cymunedol ar gael i ateb eich cwestiynau a’ch helpu i fod yn weithgar yn eich ardal.
Os na allwch ddod ar y dyddiad hwn, gallwch ddarganfod mwy drwy e-bostio tom.hughes@communitycatalysts.co.uk neu gysylltu gyda fo ar 07880 195 114.
Gallwch ddarllen mwy am Community Catalysts yn Wrecsam yma.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN