Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Allech chi wneud cais i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Allech chi wneud cais i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU?
ArallY cyngor

Allech chi wneud cais i Gronfa Adfywio Cymunedol y DU?

Diweddarwyd diwethaf: Mai 12, 2021 9:28 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Could you apply to the UK Community Renewal Fund?
RHANNU

Mae sefydliadau sy’n cefnogi sgiliau, busnesau, cymunedau a chyflogaeth yn Wrecsam yn cael eu hannog i edrych ar Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Cynnwys
  • Cymhwysedd
  • Cyfleoedd allweddol i Wrecsam
  • Ymgeisiwch rŵan

Mae’r gronfa newydd wedi ei sefydlu fel ffynhonnell amgen o arian i gymunedau lleol, gan y bydd Cyllid Strwythurol yr UE yn dod i ben yn 2023.

Bydd y pot yn darparu £220 miliwn o fuddsoddiad ar draws y DU ac mae’n cael ei weld fel prosiect peilot i baratoi ardaloedd ar gyfer lansiad Cronfa Ffyniant a Rennir y DU y flwyddyn nesaf.

Mae cyllid yn cael ei ddyrannu drwy broses ceisiadau ac mae wedi’i gapio ar £3 miliwn fesul lle.

Mae Cyngor Wrecsam rŵan yn cyhoeddi galwad am geisiadau gan sefydliadau a gwasanaethau’r cyngor sydd am ddarparu gweithgareddau o fewn y sir.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Cymhwysedd

Rhaid i brosiectau fod yn unol â phrosbectws y Gronfa Adfer, rhaid iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2022, a rhaid iddynt fod yn gydnaws ag o leiaf un o’r blaenoriaethau buddsoddi canlynol:

  • Buddsoddi mewn sgiliau.
  • Buddsoddiad ar gyfer busnesau lleol.
  • Buddsoddiad mewn cymunedau a lleoedd.
  • Cefnogi pobl i waith.

Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl cefnogi amrywiaeth o brosiectau fydd yn amrywio o ran maint, ond caiff ymgeiswyr eu hannog i fanteisio i’r eithaf a chael y mwyaf o effaith posib, drwy brosiectau mwy o faint (£500,000+).

Mae’r cyngor wedi ei ddynodi fel Awdurdod Arweiniol gan Lywodraeth y DU a bydd yn gyfrifol am dderbyn ceisiadau a dewis y rheiny a fydd yn cael eu hanfon ymlaen er mwyn i Lywodraeth y DU eu hystyried.

Bydd y cyngor hefyd yn talu grantiau i’r prosiectau llwyddiannus ac yn rheoli eu perfformiad.

Cyfleoedd allweddol i Wrecsam

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd, ac mae hyn yn gyfle allweddol i ymgeisio am gyllid gan Lywodraeth y DU.

“Os yw eich sefydliad yn ystyried darparu gweithgareddau a fydd o fudd i Wrecsam, edrychwch yn ofalus ar Gronfa Adfywio Cymunedol y DU. Ac os ydych chi’n meddwl fod eich cynigion yn bodloni’r meini prawf, gwnewch gais os gwelwch yn dda.

“Gallai’r fenter hon wneud gwir wahaniaeth i Wrecsam, a rhaid i ni fanteisio yn llawn ar y cyfle hwn.”

Ymgeisiwch rŵan

Bydd y broses ymgeisio yn fyw o ddydd Llun 10 Mai hyd at hanner dydd, ddydd Gwener 28 Mai.

Bydd y cyngor wedyn yn tynnu rhestr fer o brosiectau ac yn cyflawni’r diwydrwydd dyladwy cyn bod y rhestr derfynol o gynigion yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 18 Mehefin 2021.

I wneud cais a dysgu mwy am y prosiect, edrychwch ar wefan y cyngor.

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Amgueddfa Wrecsam, Archifau a Chaffi Cwrt i Ailagor Amgueddfa Wrecsam, Archifau a Chaffi Cwrt i Ailagor
Erthygl nesaf 3G football pitches Caeau pêl-droed 3G ar gyfer Ysgol Rhosnesni ac Ysgol y Grango

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Yorke Street
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Medi 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English