3G football pitches

Yn ystod cyfarfod nesaf y Bwrdd Gweithredol bydd yr aelodau yn ystyried cymeradwyo creu caeau 3G yn Ysgol Rhosnesni ac Ysgol y Grango.

Mae’r cynigion yn rhan o gynlluniau i sefydlu Wrecsam yn gartref pêl-droed ysbrydol Cymru drwy greu canolfan bêl-droed ymhob ardal ysgol uwchradd yn Wrecsam.

Rydym ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i fwrw ymlaen â’r cynlluniau ac mae’r cynnig diweddar o £200,000 gan y Gymdeithas, a fydd yn cael ei gyfateb gennym ni, yn ein galluogi ni i ailwampio cyfleusterau dwy o’r tair ysgol uwchradd sydd ar ôl.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Rydym ni’n gobeithio datblygu cyfleusterau yn Ysgol Bryn Alyn yn y dyfodol, ond bydd angen buddsoddiad mwy ar gyfer hyn gan nad oes cyfleusterau yno’n barod ac felly bydd hynny’n rhan o’r cynigion pan fydd y cylch ariannu nesaf yn cael ei gyhoeddi.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i gefnogi gwelliannau i gaeau 3G

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn parhau i gefnogi gwelliannau i gyfleusterau er mwyn i bobl ifanc yn Wrecsam gael mynediad at gyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae’r gymdeithas wedi dyfarnu £200,000, os bydd cyllid cyfatebol yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol, i ariannu dau gae arall.

“Hoffaf ddiolch i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru am eu hymrwymiad i Wrecsam ac i sicrhau bod mynediad at bêl-droed ar gael i fwy a mwy o bobl ifanc.

“Gobeithio na fydd yn rhaid aros llawer hirach i fwrw ymlaen â chynlluniau er mwyn i ysgolion fel Ysgol Bryn Alyn fanteisio ar gae pêl-droed 3G.”

Bydd y cynlluniau’n cael eu trafod am 10am ar 18 Mai, ac fe allwch chi wylio’r cyfan ar-lein yma.

Llun o gae pêl-droed 3G yn Ysgol Clywedog.

😷 Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.👈

Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF