Rydym yn chwilio i ddiwygio ein Fforwm Mynediad Lleol a bellach yn chwilio am aelodau ar draws bwrdeistref sirol Wrecsam i gynrychioli eu cymunedau a sefydliadau am y materion pwysig sy’n ymwneud â hawliau tramwy cyhoeddus, rheoli tir a chadwraeth harddwch naturiol ardaloedd penodol.
Bydd barn y fforwm yn dylanwadu ar faterion lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a bydd yn cynnwys trafodaethau gydag awdurdodau lleol, llywodraeth a chyrff eraill, megis Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dylai aelod fforwm gynrychioli:
- defnyddwyr o dir mynediad agored a hawliau tramwy lleol
- perchnogion a meddianwyr tir mynediad a thir gyda hawliau tramwy
- diddordebau eraill sy’n berthnasol yn yr ardal
Os ydych yn disgyn i unrhyw un o’r categorïau uchod ac os hoffech fynychu ein cyfarfod cyntaf ym mis Ionawr lle byddwn yn darparu gwybodaeth am y grŵp ac yn rhoi cyfle i chi ystyried a hoffech gymryd rhan wrth symud ymlaen, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â laf@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech ddarllen Digwyddiad Glanhau Blynyddol Stryt Las