Dilynwch ar Facebook a chyfrannwch fwyd os allwch chi…
Mae Banc Bwyd Wrecsam wedi diolch i bobl a busnesau lleol am eu cefnogaeth, wrth i’r elusen barhau i ddarparu pecynnau bwyd angenrheidiol.
Mae’r banc bwyd bob amser yn chwilio am gyfraniadau er mwyn helpu pobl sy’n ei chael yn anodd gyda’r argyfwng costau byw, ac yn postio diweddariadau rheolaidd ar ei dudalen Facebook.
Dywedodd Suzanne Nantcurvis, sy’n helpu i reoli Banc Bwyd Wrecsam: “Rydym bob amser yn croesawu cyfraniadau ac yn addo eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl er mwyn helpu pobl mewn argyfwng.
“Rydym yn postio diweddariadau ar ein tudalen Facebook am yr eitemau sydd eu hangen fwyaf, ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n rhannu ein negeseuon, ac yn cyfrannu bwyd pan allent.
“Rhai wythnosau rydym yn gweld ein bod angen mwy o eitemau tun fel pwdin reis, cawl neu domatos, ac ar wythnosau eraill efallai ein bod angen mwy o sudd ffrwythau, llaeth hir-oes neu fisgedi.
“Rydym yn ddiolchgar am unrhyw beth y gall pobl ei gyfrannu, gan fod nifer o aelwydydd yn dibynnu ar y banciau bwyd hyn i’w helpu i oroesi’r cyfnodau anodd hyn.”
Pethau ymolchi ac eitemau eraill nad ydynt yn fwyd
Yn ogystal â bwyd, mae’r elusen hefyd yn darparu pethau ymolchi a hanfodion eraill.
Dywedodd Mrs Nantcurvis: “Gall bethau fel siampŵ, sebon, powdr golchi a chlytiau babi fod yn anfforddiadwy i nifer o bobl sy’n ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ond mae’r eitemau hyn yr un mor hanfodol.
“Felly rydym yn apelio’n rheolaidd am y mathau hyn o eitemau drwy ein tudalen Facebook ac yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniadau all pobl eu rhoi.”
Y llynedd, sefydlodd Gyngor Wrecsam weithgor trawsbleidiol arbennig er mwyn cefnogi cymunedau lleol drwy’r argyfwng costau byw, ac mae’r cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r banc bwyd.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, sy’n cadeirio’r grŵp: “Rydym wedi cefnogi’r banc bwyd gyda chyllid o £70,000 dros y 12 mis diwethaf, ac mae’r arian wedi’i wario’n dda.
“Mae’r argyfwng costau byw yn dal i barhau ac yn effeithio aelwydydd ar draws Wrecsam a gweddill y DU.
“Mae banciau bwyd yn chwarae rhan allweddol i helpu sicrhau y gall pobl barhau i roi prydau bwyd maethlon ar y bwrdd yn ystod cyfnodau anodd, ac maent yn profi i fod yn rhaff bywyd gwirioneddol.
“Os allwch chi fforddio cyfrannu i Fanc Bwyd Wrecsam, gwerthfawrogwn petaech yn gwneud hynny. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd a theuluoedd sydd angen cefnogaeth.”