Nid dim ond eliffantod a rhinoserosiaid sydd angen ein help i ddiogelu’r rhywogaeth. Ar hyn o bryd, yma yn Wrecsam ac ar draws y DU, mae un aderyn sy’n wynebu dyfodol ansicr iawn ac sy’n mynd yn brin ofnadwy.
Cydnabyddir y Gylfinir fel un o rywogaethau o adar mwyaf eiconig y wlad. Mae ganddo gân amlwg sydd, ers llawer o flynyddoedd, wedi nodi dechrau’r gwanwyn. Heddiw, yn anffodus, mae tystiolaeth yn dangos bod Cymru wedi colli dros 80% o boblogaeth yr aderyn ers y 1990au. Efallai bod cyn lleied â 400 o barau bridio ar ôl yng Nghymru, ac maen nhw ar “Restr Goch” Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a’r UD. Heb ymyrraeth, gellid eu colli’n gyfan gwbl o fewn 15 mlynedd.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
“Dim ond ychydig o gofnodion”
Maen nhw fel arfer yn bridio ar dir fferm ac ar un adeg roedden nhw’n eithaf cyffredin yn Wrecsam. Dim ond rhywfaint o gofnodion ohonyn nhw ar dir isel sydd o amgylch yr Afon Dyfrdwy ac Alun bellach, gyda’r rhan fwyaf o gofnodion bridio yn dod o dir uwch.
Yn ffodus, mae camau wedi’u rhoi ar waith, gyda Grŵp Gweithredol y Gylfinir Gogledd Cymru wedi’i ffurfio, ac mae angen eich help i sicrhau bod yr aderyn hardd hwn yn goroesi.
“Felly, sut allwn ni helpu?”
I ddechrau, mae’n hanfodol canfod lle mae’r Gylfiniriaid ar hyn o bryd, ac mae angen cofnodion i nodi lle maen nhw yn ystod y tymor bridio (rhwng mis Ebrill a mis Mehefin). Os byddwch chi’n gweld neu’n clywed unrhyw ylfiniriaid, gwnewch nodyn o’ch lleoliad a dweud wrth yma. Does dim angen i chi fod yn adarwr arbenigol – mae Gylfiniriaid yn hawdd i’w nodi, a bydd taflen ffeithiau a ffurflen gofnodi ddefnyddiol ar gael yn fuan i’w gwneud yn broses hawdd.
Edrychwch ar y fideo ysbrydoledig hwn am Wlad y Gylfinir – prosiect i helpu poblogaethau’r Gylfinir
Os hoffech chi gael gwybodaeth bellach am yr arolwg, cysylltwch ag un o’r canlynol:
rhun.jones@denbighshire.gov.uk
Emma.Broad@wrexham.gov.uk
sarah.slater@flintshire.gov.uk
Yn ogystal, mae sgwrs â darluniau yn Llyfrgell Llangollen ddydd Llun 26 Mawrth rhwng 6.30 a 7.30, wedi’i drefnu gan Ardal o Harddwch Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Os hoffech chi gael gwybodaeth bellach am y digwyddiad hwn, cysylltwch â Rhun Jones, rhun.jones@denbighshire.gov.uk neu ffoniwch 01824 712795.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.