Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Am y record – roedd hwn yn ddiwrnod gwych!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Am y record – roedd hwn yn ddiwrnod gwych!
Pobl a lle

Am y record – roedd hwn yn ddiwrnod gwych!

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 30, 2018 3:03 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Am y record - roedd hwn yn ddiwrnod gwych!
RHANNU

Daeth chasglwyr recordiau allan mewn niferoedd mawr ddydd Sadwrn diwethaf i weld ffair recordiau gyntaf Tŷ Pawb!

Cynnwys
  • Lle y mae’n rhaid i chi ymweld
  • Nadolig enfawr ar y ffordd

Trefnwyd y ffair gan VOD Music o’r Wyddgrug, un o brif storfeydd record Gogledd Cymru.

Mae digwyddiad Sadwrn wedi cael ei enwi fel llwyddiant ysgubol gan y trefnwyr, gyda mwy na 750 o bobl yn mynychu.

Roedd y ffair yn cynnwys 36 o stondinwyr yn gwerthu recordiau o bob gener gerddoriaeth yn ogystal â DVD’s, CD’s a chofnodau cerddoriaeth eraill.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Am y record - roedd hwn yn ddiwrnod gwych!
Am y record - roedd hwn yn ddiwrnod gwych!
Am y record - roedd hwn yn ddiwrnod gwych!

Lle y mae’n rhaid i chi ymweld

Dywedodd trefnydd y didgwyddiad, Colin Trueman (Vod Music): “Cawsom ein llethu gan y gefnogaeth anhygoel i Ffair Recordiau Sadwrn diwethaf yn Tŷ Pawb a hoffwn ddiolch i holl staff Tŷ Pawb, stondinau bwyd, marchnad ac ymwelwyr wrth gwrs am wneud ein ymweliad cyntaf yn ddiwrnod cofiadwy. Gafodd pawb argraff fawr iawn o’r lleoliad a hyblygrwydd y gofod, yr awyrgylch gwych (prysur iawn) a’r ffordd yr oedd yr holl ddigwyddiadau stondinau, celfyddydau a chymunedol wedi’u cyfuno gyda’i gilydd o dan un to.

“Y peth gwirioneddol braf oedd clywed gan llawer o ymwelwyr mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ddod yma ac y byddent yn awyddus i ddod yn ôl eto yn fuan.

“Diolch yn derfynol i Halycon Dreams ac i bawb a ddaeth i chwarae recordiau. Mae cerddioriaeth yn ymwneud â chymuned yn dod â phobl at ei gilydd ac rydym yn gobeithio bod yn ôl yma cyn bo hir.”

Nadolig enfawr ar y ffordd

Dywedodd Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau, y Cyng. Hugh Jones: “Mae’n wych gweld bod Tŷ Pawb nawr yn cyflawni ei botensial yn gyson fel canolfan gymunedol fywiog yn Wrecsam a lleoliad a fydd yn tynnu siopwyr ac ymwelwyr o bob cwr o’r wlad.

“Yn ogystal â’r ffair recordiau hynod lwyddiannus, roedd y ddigwyddiad sinema plant ar nos Wener yn llawn hefyd. Mae dydd Sadwrn bellach wedi dod yn arbennig o brysur fel cyrchfan teuluol gyda phob math o ddigwyddiadau, crefftau a cherddoriaeth yn digwydd ochr yn ochr â’r siopa gwych a profiad bwyta a gynigir gan ein masnachwyr, ac wrth gwrs y celf hyfryd yn yr orielau.

“Mae llawer mwy o weithgareddau ar gyfer pob oedran yn cael eu cynllunio ar gyfer y Nadolig a byddwn yn annog pawb i gasglu copi o’r rhaglen o Tŷ Pawb, neu i lawrlwytho copi ar-lein.”

Gweler y rhaglen Nadolig llawn yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Christmas Recycling Presents Gifts Sut i ailgylchu’n llwyddiannus dros y Nadolig eleni
Erthygl nesaf Dewch i fwynhau clasuron Nadolig yn Tŷ Pawb Dewch i fwynhau clasuron Nadolig yn Tŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English