Cyflawniad gwych gan fod 1,000 o goed wedi’u plannu yn Nyfroedd Alun. Mae gwirfoddolwyr wedi rhoi cefnogaeth wych ym Mharc Gweledig Dyfroedd Alun a newydd orffen plannu’r coed ar hyd y fynedfa i mewn i Barc Gwledig Dyfroedd Alun. 🙂
Mae hyn yn dod â’r cyfanswm i 1,000 o goed wedi’u plannu yn y Parc yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae’r coed wedi cael eu plannu fel rhan o brosiect arloesol a newydd – Y prosiect Isadeiledd Gwyrdd Wrecsam sydd â’r bwriad i wella mannau gwyrdd ar draws Wrecsam. Mae’r prosiect yn annog y gymuned leol i gymryd rôl gweithredol wrth ofalu am ein hamgylchedd.
“Cyflawniad Gwych i Ddyfroedd Alun”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn gyflawniad gwych i Ddyfroedd Alun a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith caled hwn. Mae’n gweddu’n berffaith gyda’n datganiad o argyfwng hinsawdd diweddar a bydd yn helpu i leihau allyriadau carbon yn ychwanegol i wella golygfeydd hyfryd ein parciau gwledig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Jacinta Challinor, Swyddog Isadeiledd Gwyrdd “Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect ehangach i wella bioamrywiaeth ar draws Wrecsam ac i leihau llygredd sŵn ac aer sy’n effeithio’r ardal leol.”
Mae gwirfoddolwyr o’r gymuned leol, ysgolion lleol a Chyfeillion Dyfroedd Alun wedi gweithio gyda’n swyddog coed a Cheidwaid i blannu’r coed. Rydym yn ddiolchgar iawn o’r cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Ymddiriedolaeth Coetir sydd wedi ein galluogi i greu cysylltiad cynefin hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt mewn blynyddoedd i ddod.
Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect Isadeiledd Gwyrdd Wrecsam a sut y gallwch fod yn rhan, cysylltwch â’r swyddog prosiect jacinta.challinor@wrexham.gov.uk
Darllenwch sut y bu i blant Ysgol Gwenfro gymryd rhan yn y Prosiect Isadeiledd Gwyrdd:
https://newyddion.wrecsam.gov.uk/disgyblion-o-ysgol-gynradd-gwenfro-yn-plannu-perllan/
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN