Mae prosiect newydd yn cael ei lansio gan Amgueddfa Wrecsam a Gwasanaeth Archif. Bwriad “Bywyd Lleol yn ystod y Cyfyngiadau ar Symud” yw cofnodi ar gyfer y dyfodol sut oedd bywyd yn Wrecsam yn 2020.
Mae’r cyfyngiadau ar symud ers 23 Mawrth wedi newid bywyd bob dydd o’r bobl ar y rheng flaen yn ein hysbytai a chartrefi gofal, ac i bobl sy’n gweithio mewn siopau a fferyllfeydd, ac i erddi lle mae pobl yn mynd i ddianc o’r teimlad o fod tu mewn oherwydd y canllaw i aros gartref i arafu lledaenu’r coronafeirws.
Mae Llywodraethau’r DU yn edrych yn betrus ar sut i arwain y wlad allan o’r argyfwng hwn, bydd Amgueddfa ac Archifau Wrecsam yn cofnodi ychydig o brofiadau o fywyd yn ystod y cyfyngiadau ar symud ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gyda help pobl lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau, a busnesau, tra’r ydym yn cofio.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Drwy weithio gyda gwneuthurwyr ffilm a ffotograffwyr lleol, mae’r amgueddfa am geisio creu llyfr lloffion yr 21ain ganrif a fydd yn cynnwys ffotograffau, ffilm, tystiolaeth, archifau a gwrthrychau am fywyd yn Wrecsam ers mis Mawrth 2020.
Y bwriad dros yr wythnosau nesaf yw:
- Casglu lluniau a ffilmiau digidol o fywyd yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau ar symud. Bydd yr amgueddfa yn cyhoeddi manylion ar sut y gallwch fod yn rhan a chyfrannu at y prosiect hwn drwy gyfryngau cymdeithasol a’r wasg.
- Casglwch wrthrychau a gwaith celf sydd yn gysylltiedig â phandemig y coronafeirws. Byddwn yn cyhoeddi manylion cyn gynted ag y bydd yn ddiogel ei wneud.
- Archifo deunyddiau sy’n nodi ymateb swyddogol i’r argyfwng ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dywedodd Steve Bayley, Prif Swyddog, Tai ac Economi “Mae’r Cyngor wedi bod ar flaen y gad wrth ymateb i’r heriau sydd wedi codi gan y coronafeirws. Drwy sicrhau bod y rhai hynny sy’n hunan-ynysu yn cael y ddarpariaeth y maent eu hangen i ddarparu cymorth i fusnesau, a rhoi miliynau o bunnoedd i ryddhau ardrethi busnes i fusnesau ledled Wrecsam. Rydym bellach yn awyddus i gofnodi ac archifo hyn ar gyfer y dyfodol, felly cysylltwch â staff yr Amgueddfa ac Archifau i weld sut y gallwch helpu gyda’r prosiect hwn.”
“Bywyd Lleol yn ystod y Cyfyngiadau Ar Symud…. delwedd o fywyd yn Wrecsam“
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Roedd y staff yn Amgueddfa ac Archifau Wrecsam wedi bod yn cynllunio prosiect am fywyd yn Wrecsam yn 2020. Ychydig a wyddant am y flwyddyn dyngedfennol y byddai. Mae’r prosiect “Bywyd Lleol yn ystod Cyfyngiadau ar Symud” yn cynnig cyfle gwych i bawb gyfrannu i greu delwedd o fywyd yn Wrecsam pan roedd rhaid i ni “Aros Gartref, Gwarchod y GIG ac Achub Bywydau”, a allai helpu cenedlaethau’r dyfodol wrth wynebu heriau tebyg.”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch ar dudalen cyfryngau cymdeithasol y cyngor a’r amgueddfa, a’r wasg leol, neu anfonwch e-bost museum@wrexham.gov.uk.
Gwybodaeth hanesyddol gefndirol
Nid yw pandemig ac epidemig yn rhywbeth newydd yn Wrecsam, er yn aml iawn mae llawer wedi anghofio amdanynt. Yn ôl traddodiad, cafodd Bryn y Cabanau Road yn Hightown ei enwi ar ôl y cytiau pren a adeiladwyd i breswylwyr fyw ac hunan-ynysu yn Wrecsam yn dilyn cychwyn y pla. Sbardunodd y bygythiad o’r colera yn yr 1840au i greu cyngor bwrdeistref i ddelio ag argyfwng iechyd y cyhoedd yn y dref. Yn 1919-20 bu i filwyr a oedd yn dychwelyd adref a’u teuluoedd gael y ffliw Sbaen a bu i ysgolion elfennol gau. Agorwyd Ysbyty Clefyd y Gwres ar gyrion Wrecsam ar Ffordd Croesnewydd. Yn sicr mae teuluoedd ac unigolion sydd dal yn fyw heddiw yn cofio epidemig polio yn ystod y 1950au a’r pandemig ffliw’r Asia yn 1957-58.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19