Covid 19
Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar yr wybodaeth a bostiwyd yn y blog hwn ddydd Llun (11.5.20).

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

• Agorodd ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn gynharach heddiw (dydd Gwener, 15 Mai). Ewch yno dim ond os oes wir raid, a chadwch at y rheolau.
• Peidiwch â gyrru i’n parciau’r penwythnos hwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir y dylai pobl yng Nghymru barhau i wneud ymarfer corff yn lleol.
• Byddwn yn treialu defnyddio Zoom er mwyn cynnal cyfarfodydd pwyllgorau.

Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Cyn ymweld â’n canolfannau ailgylchu…

Ail-agorodd ein canolfannau ailgylchu gwastraff cartref yn gynharach heddiw (dydd Gwener, Mai 15).

Caewyd y safleoedd ddechrau mis Ebrill fel rhan o ymateb y cyngor i Covid-19, ond yn dilyn rhai newidiadau bychan i’r cyfyngiadau ar symud yng Nghymru, rydym wedi gallu eu hailagor.

Mae Coronafeirws wedi dod â newidiadau mawr i fywyd bob dydd, a bydd nifer o bobl yn falch o’u gweld yn agor unwaith eto.

Ond, os ydych yn ysu am gael llwytho’r car a dod draw, arhoswch am funud i ystyried hyn…

1. Er bod y safleoedd wedi ailagor, dylech ymweld â nhw ddim ond os ydych wir angen.
2. Os ydych yn ymweld, mae’n rhaid i chi ddilyn y 10 rheol lem yr ydym yn eu gweithredu.

Fel mae’n digwydd, bu’n rhaid i ni gau ein safle ym Mrymbo heddiw oherwydd galw mawr a chiwiau traffig.

Felly parhewch i ddilyn y rheolau ar gyfyngiadau symud yng Nghymru, ac ewch i’r canolfannau ailgylchu dim ond os oes gwir angen gwneud hynny, a dilynwch y rheolau pan fyddwch yno.

Cofiwch….. achub bywydau a gwarchod y GIG sy’n bwysig.

Arhoswch gartref y penwythnos hwn

Mae gwahaniaethau bychain rhwng y cyfyngiadau ar symud yng Nghymru a Lloegr ar y funud.

Ac wrth i ni ddod yn nes at y penwythnos, mae’n bwysig nad oes dryswch.

Yma yng Nghymru, mae’r neges ‘aros adref’ yn dal mewn lle.

Ac er y cewch adael eich cartref bellach i wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn glir y dylai pobl barhau i wneud ymarfer corff yn eu hardal leol.

Felly peidiwch â chael eich temtio i yrru i un o’n parciau i fynd â’r ci am dro neu i fynd i redeg ayyb. Does dim caniatâd i wneud hynny ar hyn o bryd.

Arhoswch yn lleol.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Cyfarfodydd y Cyngor

Fel y rhan fwyaf o gynghorau, rydym wedi bod yn edrych ar ffordd o ddechrau cynnal cyfarfodydd pwyllgorau unwaith eto.

Gohiriwyd cyfarfodydd ddiwedd mis Mawrth fel rhan o’n hymateb i Covid-19, ac yn unol â chynghorau ar draws y DU.

Un o’r sialensiau mwyaf yw cadw pellter cymdeithasol, gan fod cyfarfodydd yn tueddu i ddigwydd ‘yn y cnawd’ – gyda chynghorwyr, staff y cyngor ac eraill yn dod at ei gilydd mewn un ystafell.

Ond mae canllawiau a gyhoeddwyd y mis diwethaf wedi galluogi cynghorau i ystyried ffyrdd o gynnal cyfarfodydd allweddol unwaith eto.

O ganlyniad, rydym yn mynd i ddefnyddio fersiwn busnes Zoom – ap cynadledda poblogaidd – i gynnal tri rhith gyfarfod:

• Y Pwyllgor Archwilio – Mai 28
• Y Bwrdd Gweithredol – Mehefin 9
• Y Pwyllgor Cynllunio – Mehefin 22

Cyn belled ag y bydd technoleg ac ymarferoldeb yn caniatáu, byddwn yn anelu at gynnal y cyfarfodydd hyn yn y ffordd arferol – gan gynnwys y ffordd y caiff y cyfarfodydd eu cadeirio, derbyn cwestiynau ac ati.

Ni fyddwn yn ffrydio’r cyfarfodydd yn fyw ar y cychwyn, ond er mwyn hybu tryloywder, byddwn yn gwahodd y wasg leol i wylio ar-lein.

Wedyn, byddwn yn postio recordiad cyhoeddus ar-lein cyn gynted ag y gallwn.

Mae hyn yn mynd i fod yn faes cwbl newydd i ni, a bydd y cyfarfodydd cyntaf yn ein helpu i ymgyfarwyddo…fel y gallwn yn y pen draw ffrydio’r gweithrediadau’n fyw.

Fel pob cyngor, mae’n rhaid i ni arfer yn gyflym gyda thechnoleg newydd a ffyrdd newydd o wneud pethau.

Ond credwn y bydd y dull hwn yn rhoi ffordd i ni ganiatáu trafodaeth a gwneud penderfyniadau, gan gadw pawb yn ddiogel yr un pryd.

Cofiwch – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Darperir yr wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl ei wneud yn ei gylch drwy :

• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) am tua 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru am tua 12.30pm.
• Briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20