Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lle Y cyngor
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam
Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor
Clwb Celf Haf i bobl ifainc 11 i 16
Clwb Celf Haf i bobl ifainc 11 i 16
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl
Pobl a lle

Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl

Diweddarwyd diwethaf: 2017/09/14 at 4:30 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl
RHANNU

Mae arddangosfa newydd yn agor ar 22 Medi yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam sy’n tynnu sylw ar y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cynnwys
“Yr unig arddangosfa am y ffrynt hwn yn ystod y digwyddiadau i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014–18”“dedicated team of volunteers”

Union gan mlynedd cyn i bum bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig wersylla ger Deir El Belah, yn agos at y rheng flaen, yn yr hyn sydd bellach yn Lain Gaza, ond a oedd ar y pryd hynny’n ffin rhwng yr Aifft a’r Ymerodraeth Ottoman. Er nad oedd y swyddogion a’r milwyr yn gwybod sut y byddent yn creu hanes dros yr ychydig fisoedd i ddod, roeddent wedi bod mewn ysbryd da ers i’r Cadfridog Edmund Allenby, eu prif swyddog newydd, gyrraedd ym mis Mehefin. Gallent weld fod ganddo’r penderfyniad, y cymhelliant a’r rhagoriaeth dactegol i sicrhau y byddai ymgyrch yr hydref yn gweld y Cynghreiriaid yn dod â’r sefyllfa ddiddatrys i ben ac yn gwthio’r byddinoedd Twrcaidd yn eu holau.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU

“Yr unig arddangosfa am y ffrynt hwn yn ystod y digwyddiadau i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014–18”

Mae Gwres y Gad, arddangosfa ‘Ffenestr i’r Byd’ ddiweddaraf Amgueddfa Wrecsam sy’n cofio hanes ymgyrch y Cynghreiriaid yn yr Aifft a Phalestina ac yn tynnu sylw at y gwaith neilltuol a wnaed gan gatrodau Cymreig ar y ffrynt hwnnw. Er gwaethaf pwysigrwydd ei lwyddiant i ysbryd y cyhoedd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac effaith trechu’r Ymerodraeth Ottoman ym 1918 ar hanes yn ystod yr 20fed ganrif, Gwres y Gad yw’r unig arddangosfa am y ffrynt hwn yn ystod y digwyddiadau i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf yn 2014–18.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae’r arddangosfa hon yn seiliedig ar, ac wedi ei hysbrydoli gan gasgliad wrth gefn Amgueddfa Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig sy’n cael ei gadw yn Amgueddfa Wrecsam. Dyma rai o uchafbwyntiau’r arddangosfa:

• Baner yr Undeb a chwifiwyd dros Bencadlys y Cadfridog Allenby yn Jerwsalem
• Croes Victoria a gyflwynwyd i’r Corporal John Collins, 25ain Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, am ddewrder yn ystod Brwydr Gaza.
• Paentiad Frank Brangwyn ‘Entry of the Welsh Troops into Jerusalem’ ar fenthyg gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru
• Detholiad o fedalau dewrder yn gysylltiedig â’r ymgyrch – wedi eu harddangos am y tro cyntaf yng Nghymru diolch i’r Casgliad Ward
• Llyfrau brasluniau’r Is-gapten Richard Lunt Roberts, a wasanaethodd gyda’r 6ed Bataliwn rhwng cyrraedd yng Ngallipoli ym mis Hydref 1915 hyd at ddiwedd y rhyfel

“dedicated team of volunteers”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Dirpwy Arweinydd y Cyngor:

“Yr arddangosfa hon yw’r ddiweddaraf yn rhaglen Wrecsam o ddigwyddiadau i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf. Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gydnabod cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru i’r prosiect hwn. Ynghyd â’r arddangosfa yn Amgueddfa Wrecsam, bydd arddangosfa deithiol yn teithio i Gaerdydd ac Aberhonddu. Mae yna hefyd dîm pwrpasol o wirfoddolwyr sy’n archwilio’r archifau yn ymwneud â’r ymgyrch a byddant yn rhannu eu hymchwil dros y misoedd nesaf.”

Ychwanegodd Jonathon Riley, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig:

“Yn ystod 2017, mae sylw wedi canolbwyntio ar aberth Catrodau Cymreig yn Passchendaele ar Ffrynt y Gorllewin. Ni ddylem anghofio, serch hynny, fod cymaint o Gymry wedi brwydro a marw yn y Dwyrain Canol yn ystod 1917 ag yn Ffrainc a Fflandrys. Wrth i Drydedd Brwydr Ypres gau ym mis Tachwedd 1917, agorodd Trydedd Brwydr Gaza. Yn wahanol i Passchendaele, roedd Trydedd Gaza yn frwydr a drodd y fantol: agorwyd y ffordd i gipio Jerwsalem a diwedd rheolaeth Ottoman yn y Lafant ac Arabia. Gwnaeth ein bataliynau Tiriogaethol a chatrodau Iwmyn yn Adrannau 53 (Cymreig) a’r 74 (Iwmyn) gyfraniad hanfodol tuag at fuddugoliaeth – un y mae’r arddangosfa hon yn iawn i’w gofio.”

Dywedodd y Cyng David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam:

“Mae hon yn arddangosfa briodol iawn i anrhydeddu’r rhai a frwydrodd a hefyd y rhai hynny a wnaeth yr aberth eithaf. Mae hefyd yn rhan bwysig iawn o hanes y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac rwy’n gwybod y bydd llawer ohonoch yn mynd draw i weld yr arddangosfa hon.”

Fel cyflwyniad i’r arddangosfa, mae cyflwyniad ffilm ar hanes y Rhyfel Byd Cyntaf a’r ymgyrch yn Sinai a Phalesteina a gynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa hon gan Charley Wiles ac Adam Cooke o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam. Bydd ymwelwyr hefyd yn gallu clywed barddoniaeth a ysgrifennwyd gan aelodau o’r gatrawd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf wedi eu hadrodd gan gyn-filwyr o’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig diolch i gymorth Calon FM.

Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng 22 Medi, 2017 a 6 Ionawr, 2018. Mae mynediad am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Amgueddfa Wrecsam ar 01978 297 460 neu anfonwch e-bost at: museum@wrexham.gov.uk

Teitl Saesneg swyddogol y gatrawd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y Royal Welsh Fusiliers. Caiff y sillafiad hwn ei ddefnyddio yn yr arddangosfa. Mabwysiadwyd sillafiad y fersiwn Saesneg ‘Welch’ yn swyddogol ym 1920.

Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl Amgueddfa yn cofio’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn yr Aifft a Phalestina 100 mlynedd yn ôl

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau

COFRESTRWCH FI

Rhannu
Erthygl flaenorol “Ar beth mae fy Nhreth Cyngor i’n cael ei wario?” - fe gewch chi wybod mwy yma! “Ar beth mae fy Nhreth Cyngor i’n cael ei wario?” – fe gewch chi wybod mwy yma!
Erthygl nesaf Emz Cakes: Chloe Farr Emily Jones Emma Wilson Mae mwy na chacennau yn Emz Cakes

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 23, 2025
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 23, 2025
Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam
Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 23, 2025
Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Busnes ac addysg Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 22, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Pobl a lleY cyngor

Cronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi £3.5 miliwn o ddiogelu plant rhag camdriniaeth ac esgeulustod

Gorffennaf 23, 2025
Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Pentref Wrecsam – Cornel Wrecsam ar y Maes 

Gorffennaf 23, 2025
Be sy 'mlaen 'Y Gromen' ym Mhentref Wrecsam
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Be sy ‘mlaen ‘Y Gromen’ ym Mhentref Wrecsam

Gorffennaf 23, 2025
Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Baneri Gwyrdd yn chwifio unwaith eto ym mharciau Wrecsam

Gorffennaf 22, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English