Mae nifer ohonom wedi ymweld â’r Amlosgfa yn Pentre Bychan, un ai i fynd i angladd aelod agos o’r teulu neu ffrind neu i dalu teyrnged a chofio’r rhai sydd wedi eu hamlosgi yma.
Mae mwyafrif yr ymwelwyr yn bobl gyfrifol a pharchus sy’n trin yr amlosgfa a’r tiroedd gydag urddas ond mae lleiafrif bychan sy’n cymryd mantais o’r awyrgylch tawel.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Bu i’r digwyddiad diweddaraf arwain at gwynion am iaith anweddus, ac, yn anffodus, aderyn yn cael ei lladd.
Mae achosion o’r fath yn brin ond hoffai staff atgoffa pawb nad yw’r amlosgfa a’r tiroedd yn le ar gyfer ymddygiad o’r fath. Nid yn unig ei fod yn amharchus ond mae hefyd yn anghyfreithlon ac mae’r mater bellach yn nwylo’r heddlu.
Os ydych yn gweld unrhyw beth sy’n achosi pryder i chi wrth ymweld â’r ardal cysylltwch ag aelod o staff ar y safle a byddant yn fwy na bodlon eich helpu.
Mae’r amlosgfa yn cynnal dros 1700 o amlosgfeydd y flwyddyn ac mae nifer o bobl yn dychwelyd i ymweld â man gorffwys eu hanwyliaid i nodi achlysuron. Defnyddiant yr ymweliad fel amser i fyfyrio a chofio a gwerthfawrogant yr awyrgylch.
Mae’r tiroedd yn ymestyn am 40 erw ac yn cael eu cynnal fel coetir lled naturiol (gan gynnwys tri phwll a nant Pentrebychan,) ac mae’n hafan i fywyd gwyllt. Mae’r mathau o anifeiliaid sy’n byw yn nhiroedd yr amlosgfa’n cynnwys crehyrod, moch daear, boncathod, nadroedd, hwyaid a thylluanod.
Mae’r tiroedd hefyd yn cynnwys un padog heb ei bori a gedwir fel dôl wyllt a choedardd.Mae rhan o Glawdd Offa’n mynd trwy diroedd yr amlosgfa.
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylchedd a Thechnegol: “Roedd y digwyddiad a nodwyd yn arbennig o ofidus i ymwelwyr a staff. Mae’n le ar gyfer parch ac urddas a dylem oll gofio ei bod yn ardal ble mae nifer yn ei dewis fel man gorffwys terfynol ar gyfer eu hanwyliaid.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF