Bu Cyngor Wrecsam yn y llys yn gynharach y mis hwn i erlyn preswylydd oedd wedi anwybyddu hysbysiad atal ar ôl cwynion am gyfarth ei gi.
Plediodd Mr Christian o Pen-y-Maes Avenue, Wrecsam yn euog i bob un o’r pum achos o dorri Hysbysiad Atal a chafodd ei ddedfrydu gan y llys ynadon i ddirwy o £1250, yn ogystal â thâl ychwanegol o £500 i’r dioddefwyr a £180 arall o gostau.
Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Atal ym mis Chwefror 2023 yn dilyn nifer o gwynion am gi’n cyfarth yn ormodol yn ystod y dydd a’r nos. Yr hysbysiad oedd atal y niwsans sŵn a’i atal rhag digwydd eto.
Wrth grynhoi, soniodd cyfreithiwr y Cyngor am yr effaith sylweddol oedd y sŵn wedi ei gael ar y preswylwyr lleol. Roedd hyn yn cynnwys y niwed mawr a achoswyd i breswylwyr, yn cynnwys nosweithiau digwsg, gorfod symud allan i gael noson iawn o gwsg, a gorfod cymryd meddyginiaeth i ymdopi â chysgu gartref.
Diolchodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio Strategol a Gwarchod y Cyhoedd i’r holl breswylwyr am eu hymdrechion i gefnogi’r ymchwiliad i’r cyfarth, oedd wedi cael effaith ddifrifol ar eu bywydau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Meddai: “Ni ddylid cymryd cyfrifoldebau bod yn berchen ar gi yn ysgafn. Rhaid ystyried gofalu am y ci ac ystyried y cymdogion pan fyddwch yn penderfynu cael anifail anwes. Rhaid i chi allu gofalu am y ci a sicrhau nad yw eich cymdogion yn cael eu heffeithio gan eich dewis. Mae’r erlyniad hwn yn anfon neges glir bod Cyngor Wrecsam yn barod i gymryd camau gorfodi pan fo angen.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.