Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
FideoPobl a lle

Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 6, 2026 2:50 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

Mae cynllun peilot a allai wneud teithio i’r ysgol yn fwy diogel ac yn haws i blant mewn rhan brysur o Wrecsam wedi cael ei ymestyn ar ôl arwyddion cynnar o lwyddiant.

Mae Cyngor Wrecsam, mewn partneriaeth â Letman Associates, wedi bod yn treialu menter ‘Strydoedd Ysgol’ yn Ysgol Gynradd Gymunedol Fictoria.

Roedd hyn mewn ymateb i nifer o broblemau parcio a thraffig y tu allan i’r ysgol, gwaith dosbarth gyda disgyblion, arolygon gyda rhieni a gwarcheidwaid, a sgyrsiau gyda thrigolion lleol.

Yn rhan o’r treial, cyflwynwyd cyfyngiadau traffig wedi’u hamseru i gyfyngu ar nifer y cerbydau oedd yn gyrru ac yn parcio ger yr ysgol ar ddechrau’r dydd, ac amser mynd adref, yn ogystal â system unffordd ar Poyser Street i’r gorllewin (rhwng Hampden Road a Victoria Road) 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gydag arwyddion dargyfeirio ar waith.

Ar ôl rhai arwyddion cynnar calonogol, mae’r treial bellach wedi’i ymestyn a bydd yn parhau trwy Orchymyn Rheoleiddio Traffig Arbrofol, a fydd yn cael ei blismona a’i gefnogi gydag arwyddion.

Bydd y drefn gyfreithiol newydd hefyd yn ymestyn y system unffordd i gynnwys Hampden Road ac Edward Street. Bydd y gorchymyn ar waith am hyd at 18 mis.

Mae ‘Strydoedd Ysgol’ yn fenter genedlaethol sy’n anelu at wella diogelwch y tu allan i ysgolion trwy leihau traffig a pharcio peryglus neu ddifeddwl.

Dyma’r treial ‘Strydoedd Ysgol’ cyntaf yn Wrecsam, ac mae’n cael ei ariannu gan gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.

Cynyddodd teithio llesol i’r ysgol o 66% cyn y treial Stryd Ysgol i 75% yn ystod y cyfyngiadau traffig, yn ôl data a gasglwyd drwy gynllun WoW Living Streets, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae dadansoddiad o ddata ymgysylltu ôl-weithredu yn dangos bod 73% o ymatebwyr yn teimlo y gallent gerdded i’r ysgol yn ddiogel yn ystod y treial, o gymharu â 31% cyn y treial.

Nododd 17% o ymatebwyr y gallent feicio’n ddiogel cyn y treial, ond cynyddodd hyn i 68% ar ôl dechrau’r treial.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam â chyfrifoldeb dros ddiogelwch ar y ffyrdd: “Rydyn ni wedi bod yn treialu’r trefniadau newydd y tu allan i Ysgol Gynradd Fictoria, ac mae arwyddion cynnar wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Rydyn ni wedi cael plant a’u teuluoedd yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy diogel wrth groesi’r ffordd, ac mae athrawon a staff hefyd yn teimlo’n obeithiol. O ganlyniad, rydym wedi penderfynu ymestyn y treial er mwyn caniatáu inni ddadansoddi’r effaith ymhellach.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros addysg: “Rydyn ni eisiau gwneud gatiau’r ysgol yn lle mwy diogel ac iach i blant, ac os yw’r cynllun peilot yn llwyddiant, gallai baratoi’r ffordd ar gyfer treialon tebyg mewn ysgolion cynradd eraill yn Wrecsam.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Strydoedd Ysgol wedi cael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o’r DU gyda chryn lwyddiant, ac mae’r cyfnod treialu cychwynnol yn Fictoria wedi bod yn galonogol dros ben.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Be Mighty Recycle Top Banana Bydd wych, ailgylcha – arbed arian, gwastraffu llai!
Erthygl nesaf Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English