Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
Pobl a lle

Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 6, 2026 4:10 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Datganiad ar anfon HMS Dragon i Gyprus
RHANNU

Mae disgwyl i HMS Dragon, dinistriwr amddiffyn awyr Math 45 datblygedig y Llynges Frenhinol adael ei chanolfan ym Mhortsmouth yn fuan a mynd i Gyprus er mwyn amddiffyn yr ardal rhag bygythiad ymosodiadau Iran.

Nodwyd cysylltiad byr ond cryf y llong â Wrecsam yn swyddogol ym mis Mai 2024 pan oedd pwysigion o Wrecsam yn bresennol mewn seremoni lle lleolwyd y llong ym Mhortsmouth i drosglwyddo cysylltiad yn swyddogol o Gaerdydd i Wrecsam.

Ers hynny, mae criw HMS Dragon wedi bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau yn Wrecsam ac ar ran Wrecsam, gan gynnwys:

  • Ymweliad â’r ddinas i nodi 80 mlynedd ers glaniadau D-Day.
  • Helpu i godi arian ar gyfer apêl y pabi a chymryd rhan yng ngorymdaith Sul y Cofio.
  • Derbyn Rhyddid y Ddinas.

Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones “Roedd rhai o’r criw yn Wrecsam mor ddiweddar â’r penwythnos diwethaf i chwarae gêm bêl-droed elusennol yn erbyn Clwb Pêl-droed Cyn-filwyr Wrecsam, gyda’r arian a godwyd yn mynd tuag at elusen SANDS.

“Ar yr achlysur hwnnw, ac ar achlysuron di-ri eraill, mae wedi bod yn bleser llwyr siarad ag aelodau dewr criw HMS Dragon, yn ddynion a menywod, sy’n gwasanaethu arni.

“Mewn cyfnod mor fyr, mae cysylltiadau cryf wedi’u ffurfio rhwng Wrecsam a’r llong, ac rwy’n dymuno taith ddiogel a llwyddiannus i’r criw cyfan.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae’r lluoedd arfog yno i’n cadw ni i gyd yn ddiogel – maen nhw’n amddiffyn rhyddid i lefaru a democratiaeth, ac mewn cyfnod o ryfel mae angen i ni gofio pa mor ffodus ydyn ni i’w cael.

“Dylem hefyd gofio, y tu ôl i bob aelod o’r criw, y bydd teulu gartref a fydd yn poeni ac yn gweddïo y byddant yn dychwelyd yn ddiogel, ac mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg bryderus hon.

“Ar ran y Cyngor a phobl Wrecsam, hoffem fynegi ein diolchgarwch i bawb o fewn y lluoedd arfog, a byddwn yn dilyn y newyddion am HMS Dragon drwy gydol ei thaith, ac yn gobeithio croesawu’r criw yn ôl yn Wrecsam yn fuan iawn.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun peilot 'Strydoedd Ysgol' wedi'i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol Cynllun peilot ‘Strydoedd Ysgol’ wedi’i ymestyn ar ôl arwyddion cynnar calonogol
Erthygl nesaf Over 120 stakeholders  took the train journey to London to lobby for improved rail connections. Dangos eich cefnogaeth ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd i Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Hydref 21, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English