Mae adroddiadau diweddar am blant yn taflu cerrig ac achosi trallod i’r elyrch sydd ym Mharc Stryt Las wedi cael eu derbyn.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Arweinydd y Cyngor ac aelod lleol ar gyfer yr ardal, “Mae bob amser yn braf gweld yr elyrch yn y parc, ond yn ddiweddar rydym wedi cael ein hysbysu ynghylch achosion o blant yn taflu cerrig atynt ac yn achosi trallod i’r adar yn gyffredinol.
“Hoffwn atgoffa pawb fod elyrch wedi’u diogelu, fel yr holl adar eraill yn y DU.
“Gofynnaf i rieni sicrhau bod eu plant yn ymwybodol o hyn, a’r pleser y gall elyrch ei roi i ymwelwyr i’r ardal.
“Mae’r mater wedi cael ei adrodd i’r tîm plismona lleol a bydd unrhyw achosion pellach yn cael eu harchwilio ganddynt.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Croeso i Wrecsam i Feirniaid Prydain yn ei Blodau