Mae’n nesáu unwaith eto.. Yr un cwestiynau yn mynd rownd a rownd yn ein pennau… “Beth wnawn ni efo nhw am chwech wythnos?” neu “Sut yn y byd fedrwn ni eu diddori nhw?”
Wel mae’r ateb yma ar eich stepen drws ond mae’n debyg eich bod wedi anghofio am rai o’r pethau amrywiol llawn hwyl y gallwn eu gwneud yn Wrecsam efo’n plant.
Dyma un ohonyn nhw…
Cofio’r pethau hynny gyda ffrâm fetel, dwy olwyn, sedd, a dolenni dwylo a theiars rwber? Beiciau? Da chi’n gwybod, y rhai sy’n mynd yn rhydlyd yn eich sied? Wel, tynnwch y llwch oddi arnyn nhw ac ewch allan i weld rhai o’r golygfeydd anhygoel sydd i’w cael yn Wrecsam.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Y lle i fod…
Iawn, rydach chi wedi hel y llwch. Mae dad, mam a’r plant i gyd ar feics. Mae’r teiars wedi eu pwmpio a’r helmedi ymlaen. Ble ewch chi rŵan?
Yn amlwg, Parc Gwledig Dyfroedd Alun yw’r lle i fod i deuluoedd y gwyliau haf yma gydag amrywiaeth o lwybrau i feicwyr eu mwynhau. Gan ddechrau yn y ganolfan ymwelwyr, mae lôn feics dwy filltir o hyd a llwybr cerfluniau sy’n cynnig mannau beicio diogel oddi ar y ffordd i deuluoedd.
Ac yn ogystal â chadw pawb yn ddiddig, mae beicio yn ymarfer corff bach ei effaith ac yn ffordd ddelfrydol i wella a chynnal eich cryfder a’ch lefelau ffitrwydd. Felly ewch allan i’r awyr iach ac ymhyfrydu yn yr hyn sydd gan natur i’w gynnig.
Mae’r parc hefyd yn darparu ar gyfer plant ac oedolion gydag amryw o anableddau drwy’r Prosiect Pŵer Pedal. Rheolir y prosiect gan Groundwork Gogledd Cymru ac maent yn defnyddio ystod o feiciau o amgylch cylched un milltir o hyd. I archebu lle, ffoniwch Pŵer Pedal ar 01978 757524.
Ac os ydych chi’n teimlo’n hyderus…
X-up? Indian air? Turndown?… Iawn, beth am 360?
Os yw unrhyw beth o’r uchod yn gwneud synnwyr i chi, mae’n debygol eich bod yn adnabod eich beic BMX. Ac hyd yn oes os yw’r triciau hyn yn anghyfarwydd i chi, rhaid i bawb ddechrau yn rhywle… felly rhowch gynnig arni’r haf hwn!
Mae gan Gefnau Ponciau ei drac BMX ei hun ac mae pobl wrth eu boddau arno. Mae’n agored i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn, felly rhowch gynnig arni… rydych yn sicr o gael amser beicdigedig!
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB