Ysgol Bryn Alyn yw’r ysgol gyntaf yn Wrecsam i gael pecyn casglu sbwriel AM DDIM am fabwysiadu Ardal Di-Sbwriel.
Yr wythnos ddiwethaf, ymwelodd Arweinydd Prosiect Caru Cymru Cyngor Wrecsam, Emma Watson â’r ysgol – ynghyd â Swyddog Cadwch Gymru’n Daclus Wrecsam, Shane Hughes – i ddanfon y pecyn, sy’n cynnwys 10 casglwr sbwriel, festiau llachar, cylch bagiau a sachau sbwriel gwyrdd hawdd eu hadnabod.
Cyfarfu Emma a Shane â staff a disgyblion wedi iddynt gofrestru i gofnodi faint o sbwriel maent yn ei gasglu drwy ap a gynlluniwyd yn arbennig i olrhain casglu sbwriel.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Meddai Emma:
“Fel rhan o’r fenter Caru Cymru newydd, lansiodd Cadwch Gymru’n Daclus yr ymgyrch Ardal Di-Sbwriel i annog ysgolion a disgyblion i gadw eu cymunedau’n ddi-sbwriel ac i helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd.
“Drwy’r ymgyrch, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi cynnig pecynnau casglu sbwriel am ddim i’r 100 ysgol gyntaf i gofrestru yng Nghymru, ond yn Wrecsam, mae pecynnau casglu sbwriel am ddim ar gael i bob ysgol sy’n mabwysiadu Ardal Di-Sbwriel.”
“Ni allai fod yn haws cymryd rhan, ac rydym yn gofyn i ysgolion ar draws y sir fabwysiadu eu Hardal Di-Sbwriel eu hunain drwy gofrestru eu diddordeb.”
Gall ysgolion gofrestru eu diddordeb drwy fynd ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH