Bydd arddangosfa milwrol arbennig yn agor i’r cyhoedd at Techniques tar ddydd Iau, Awst 23 Techniquest Glyndwr – yn yr hen adeilad TJ Hughes.
Cynhyrchwyd yr arddangosfa gan haneswyr yr Awyrlu Brenhinol, a bydd yn cynnwys arddangosfeydd am hanes Gorsaf yr Awyrlu Brenhinol a fu yn Wrecsam yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Bydd hefyd yn cynnwys arddangosfeydd am bobl o Wrecsam sydd wedi gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol gyda rhagoriaeth.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd hyn yn cynnwys arbenigwyr brwydrau’r ail Ryfel Byd, Awyr-Lefftenant David Lord, y cyflwynwyd Croes Fictoria iddo ar ôl iddo farw wrth hedfan dros Arnhem ym 1944, ynghyd ag eraill o Wrecsam a oedd yn bwysig mewn digwyddiadau eraill yn ystod y rhyfel, yn amrywio o’r Ddihangfa Fawr i gyrch enwog yr Awyrlu Brenhinol ym 1943 ar safle rocedi cyfrinachol yr Almaen, Peenumunde.
Fel rhan o Arddangosfa Hanesyddol yr Awyrlu Brenhinol, bydd yr Awyrlu Brenhinol hefyd yn darparu cydweithwyr o’r Archifau Cenedlaethol a all eich cynorthwyo i ddysgu mwy am berthnasau a fu’n gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol dros y 100 mlynedd diwethaf.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION