Bydd arddangosfa newydd yn agor yn Nhŷ Pawb ym mis Ionawr yn edrych ar hanes Wrecsam fel tref farchnad a lle’r adeilad yn ei threftadaeth o farchnadoedd fel cam i’r dyfodol.
Bydd “We Can Only See Today” yn dod ag amgylchedd y farchnad i’r oriel, drwy gomisiwn newydd sbon gan y pâr o arlunwyr o Wakefield, Yoke. Bydd nifer o’r prosesau creu i’w gweld drwy gydol cyfnod y sioe, yn ogystal â darnau o hanes y marchnadoedd.
Bydd yr arddangosfa’n ystyried sut y daeth pethau newydd a dieithr yn bethau hen a gwerthfawr; sut mae newid yn dod yn normal a’r dieithr yn dod yn annwyl. Mae newid yn dangos na allwn ni ond cael cipolwg ar y gorffennol a’r dyfodol ac yn ein hatgoffa mai ond heddiw allwn ni ei weld yn iawn.
Dan ddylanwad hanes marchnadoedd Wrecsam a’r rhai sydd yn Nhŷ Pawb heddiw, mae’r arddangosfa yn tyrchu i’r straeon a’r hanesion am ei datblygiad. O’r ffeiriau symudol hyd at ei safle heddiw lle mae diwylliant a masnach yn cwrdd. Mae gwaith Yoke yn dilyn ymchwil ac amser a dreuliwyd yn Wrecsam i geisio dehongli’r berthynas unigryw hon rhwng diwylliant a masnach a rhannu syniadau gyda’r gynulleidfa.
Mae Yoke yn trafod gyda masnachwyr yn Nhŷ Pawb ynglŷn â sut y gallan nhw gyfrannu at We Can Only See Today.
Mae Yoke yn brosiect cydweithio rhwng yr arlunwyr Annie Nelson a Chris Woodward. Mae eu gwaith nhw’n defnyddio sawl arddull ac amrywiaeth eang o ddeunyddiau fel defnydd, pren, cerameg a chyfryngau print i greu cerfluniau, gosodiadau ac ymyraethau.
Dywedodd Yoke: “Rydym wir yn edrych ymlaen at greu arddangosfa newydd sbon sy’n cyfleu hanes toreithiog marchnadoedd Wrecsam. Rydym ar hyn o bryd yn brysur yn dylunio’r profiad y bydd cynulleidfaoedd yn ei gael o farchnadoedd yn yr oriel fel gweithiau celf a’r gweithiau celf a fydd yn rhan o’r marchnadoedd ar ôl yr arddangosfa.”
Bydd seremoni i gloi We Can Only See Today yn cael ei chynnal lle bydd y gwaith celf yn cael ei dynnu o’r oriel a’i osod yn ardal y marchnadoedd, fel baneri defnydd a fydd yn cael eu gosod ym mylchau pren y stondinau a chloch newydd sbon wedi’i dylunio gan Yoke i nodi dechrau a diwedd pob diwrnod yn steil marchnadoedd go iawn.
Yn natur masnach, bydd pawb sy’n ymweld â’r arddangosfa yn derbyn tocyn i’w gyfnewid yn y seremoni gloi am ddarn o sebon brics coch. Bydd y sebon hwn yn cael ei dorri a’i becynnu yn rhan o’r seremoni gloi.
Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfarwyddwr Artistig Tŷ Pawb: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gyda Yoke ar We Can Only See Today. Fe fyddan nhw’n dod â’u profiad helaeth i Dŷ Pawb. Bydd yr arddangosfa’n cynnwys y marchnadoedd fel rhan o’r cynnig diwylliannol ehangach a bydd yn fan cychwyn i integreiddio’r celfyddydau a’r farchnad yn fwy wrth i ni barhau gyda’n rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd.
Mae We Can Only See Today yn cael ei gefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol yn rhan o raglen gelfyddydau barhaus Tŷ Pawb.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD