Os oes gennych chi ddiddordeb mewn nyrsio, y GIG neu hanes lleol beth am alw heibio i Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar Stryt Caer i weld arddangosfa o fathodynnau nyrsio ac eitemau eraill.
Mae’r casgliad yn eiddo i breswylydd lleol sydd wedi bod yn casglu eitemau ers dros 30 o flynyddoedd, ar ôl cael ei ysbrydoli gan gasgliad arall a phrynu ei fathodyn cyntaf.
Mae’r casgliad yn cynnwys enghreifftiau o ysgolion nyrsio ac ysbytai lleol, y Groes Goch, bathodynnau undebau a bathodynnau a roddwyd i nyrsys am eu gwaith yn y rhyfel.
Mae gan bob bathodyn ei stori ei hun ac mae’r geiriau a’r delweddau a ddefnyddiwyd yn ffurfio rhan o hanes eu sefydliad. Fedrwch chi weld bathodyn Ysgol Nyrsio’r Rhyl (yn Ysbyty Alexandra) yng nghanol y casgliad? Mae ganddo ben llwynog, pedol ceffyl ac adenydd….
Yn 1898 addawodd Dug San Steffan roi £10,000 tuag at godi’r ysbyty os yw ei geffyl, “Flying Fox” yn ennill ei ras nesaf yn Sandown Park. Enillodd y ceffyl ac anfonwyd telegram at y fetron gyda’r geiriau: “The ten will be sent.”
Mae cyfeirlyfr ar gael ar gais i gael mwy o wybodaeth am yr holl fathodynnau a’u harwyddocâd.
Meddai’r Cyng. Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam: “Rwyf wedi cael cyfle i weld y casgliad yn ddiweddar a gallaf ddweud wrthych ei fod yn gasgliad rhyfeddol sy’n addurniadol yn ogystal â bod yn giplun o hanes diddorol nyrsio dros y blynyddoedd.”
Mae Canolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, o 9am tan 5pm.