Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 19-20 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4
Y cyngorPobl a lle

Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 20, 2024 11:26 am
Rhannu
Darllen 4 funud
ECO 4
RHANNU

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda Chymru Gynnes i ddatblygu trefniant ble y bydd Cymru Gynnes yn rheoli’r holl ymholiadau sy’n ymwneud â cheisiadau cyllid ECO 4 ar ran Cyngor Wrecsam.

Mae Safonau Masnach Wrecsam bellach wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau o alwyr diwahoddiad yn ymwneud â grantiau ECO 4. 

Yn gyffredinol mae’r adroddiadau hyn yn ymwneud ag unigolion yn curo ar ddrysau eiddo ac yn honni ei bod yn gweithio ar ran Cyngor Wrecsam, ac nid yw hyn yn wir. Byddai Safonau Masnach bob amser yn eich cynghori i fod yn hynod o ofalus wrth ddelio gydag unrhyw alwyr diwahoddiad yn eich eiddo. Cyn rhuthro i roi gwybodaeth bersonol cymerwch eich amser i ystyried beth sy’n digwydd a dilysrwydd y sawl sydd ar garreg eich drws. 

Os oes gennych unrhyw amheuon ynglŷn â galwr diwahoddiad eglurwch wrthynt nad oes gennych ddiddordeb a chysylltwch â rhif di-argyfwng yr Heddlu ar 101 i ddweud ynglŷn â’r digwyddiad. Os ydych yn amau, cadwch nhw allan. Neu gallwch hefyd gysylltu â Chymru Gynnes ar 01656 747 622

Beth yw cyllid ECO 4?

Mae Rhwymedigaeth Cwmni Ynni 4 (ECO 4) yn rhwymedigaeth ar gyflenwyr ynni sy’n helpu perchnogion tai neu rentwyr preifat i ostwng eu biliau ynni ac allyriadau carbon trwy osod mesurau arbed ynni.

Bydd rhentwyr preifat angen cytundeb eu landlord i wneud unrhyw waith ac i fodloni’r meini prawf cymhwyso angenrheidiol. 

Bydd y cynllun yn parhau tan fis Mawrth 2026 ac yn canolbwyntio ar ostwng tlodi tanwydd mewn aelwydydd incwm isel a rhai diamddiffyn sy’n byw mewn tlodi tanwydd a/neu sydd â phroblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl sy’n cael eu gwaethygu oherwydd eu bod yn byw mewn amodau oer.

Mae’r holl gontractwyr yn rhai a gymeradwywyd gan Trustmark a’u harchwilio’n drwyadl gan Gymru Gynnes, bydd rhestr wedi ei gyhoeddi ar safle Cymru Gynnes ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol arall am y Cynllun.

Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys ar gyfer cyllid ECO, gallwch wneud cais trwy un o’r contractwyr a gymeradwywyd a restrir ar wefan Cymru Gynnes, yn seiliedig ar ba fesurau yr hoffech eu gosod.

Bydd y contractwr a gymeradwywyd yn cysylltu â chi i gynnal arolwg a chanfod pecyn o welliannau sy’n addas a gyfrer eich eiddo.

Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • Insiwleiddiad atig
  • Insiwleiddiad to ar oleddf
  • Insiwleiddiad to fflat
  • Insiwleiddiad gofod mewn to
  • Insiwleiddiad wal geudod
  • Insiwleiddiad wal allanol
  • Insiwleiddiad wal mewnol
  • Insiwleiddiad llawr (lloriau caled neu loriau crog)
  • Pympiau gwres yr awyr
  • Pympiau gwres o’r ddaear
  • Boeleri nwy
  • Boeleri trydan
  • Boeleri biomas
  • Rheolyddion gwres
  • Gwresogyddion stôr trydan
  • Paneli solar ffotofoltäig
  • Drysau allanol perfformiad uchel
  • Gwydr ffenestri
  • Atal drafft

I wybod mwy ewch i Wefan Cymru Gynnes.

Os ydych angen mwy o gyngor ynglŷn â rhywbeth sydd wedi digwydd ac rydych yn teimlo eich bod wedi eich camarwain cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08082231133 (Llinell Gymorth Saesneg) neu 08082231144 (Llinell Gymorth Gymraeg)

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen:

Wedi cael e-bost gan y DVLA? – TWYLL ydyw

Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a  materion diogelu’r cyhoedd eraill

Rhannu
Erthygl flaenorol Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam Arddangosfa Nyrsio Dros Dro yng Nghanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam
Erthygl nesaf Ymunwch â ni am ddiwrnod o agosatrwydd yn Wrecsam! Ymunwch â ni am ddiwrnod o agosatrwydd yn Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English