Dysgwch fwy am y gefnogaeth sydd ar gael i chi yn ein sesiwn alw heibio i gael gwybodaeth.
Gofalwr di-dâl yw unigolyn o unrhyw oed sydd yn darparu cymorth a chefnogaeth ddi-dâl i berthynas, partner, ffrind neu gymydog na fyddai’n gallu ymdopi heb gymorth y gofalwr.
Cynhelir Wythnos Gofalwyr rhwng 5 – 11 Mehefin 2023. I ddathlu, rydym ni’n ymestyn ein caffi arferol i ofalwyr di-dâl i gynnwys sefydliadau eraill ac adrannau Cyngor Wrecsam i roi cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr di-dâl.
Cynhelir y sesiwn alw heibio i gael gwybodaeth ddydd Mawrth 6 Mehefin rhwng 11am a 2pm yn yr Hwb Lles. Os ydych hi’n ofalwr di-dâl ac eisiau cymorth, cyngor neu eisiau gwybod beth sydd ar gael i chi, galwch draw i’r Hwb.
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn ein cymdeithas ac maent yn gwneud gwaith anhygoel. Buaswn yn annog unrhyw un sy’n gofalu am anwylyd i ddod draw i’r digwyddiad galw heibio yn rhan o Wythnos Gofalwyr er mwyn dysgu ychydig mwy am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt.”
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, i amlygu’r heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ar draws y DU. Mae hefyd yn helpu pobl nad ydynt yn ystyried bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu i ystyried eu hunain yn ofalwyr ac i gael gafael ar gefnogaeth sydd fawr ei angen arnynt.
Dydd Mawrth, 6 Mehefin rhwng 11am a 2pm, Yr Hwb Lles, Stryt Caer, Wrecsam
Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL