Arestiwyd unigolyn a chyhuddwyd unigolyn arall yn dilyn digwyddiad oddi ar y ffordd gyda cherbydau 4×4 yng nghoedwig Llwyneinion yn y Rhos ddoe. (Hydref 4)
Mynychodd yr heddlu’r safle a thrwy ddefnyddio dull a gyflwynwyd i reoliadau Covid 19 sef, Ymgysylltu, Annog ac Egluro ac fel dewis olaf, Gorfodi, deliwyd â’r digwyddiad. Gwasgarodd y cyfranogwyr unwaith i’r swyddogion siarad â nhw.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r perchennog tir wedi cael ei gyhuddo am droseddau Covid 19, cafodd un modurwr ei arestio am yrru ar gyffuriau ac mae dyn arall yn atebol am faterion yn ymwneud â chyffuriau.
Dywedodd Arolygydd Mike Norbury, “Roedd y digwyddiad hwn yn torri rheoliadau Covid 19. Roedd y bobl a fynychodd yn ymwybodol o’r rheolau.”
“Rydym yn benderfynol o ddiogelu ein cymuned leol a’n prif ddull yw ymgysylltu ac egluro’r hyn all bobl ei wneud, ond byddwn yn cymryd camau gorfodi cadarn os oes angen.”
Mae’r dyn a gafodd ei arestio wedi cael ei ryddhau o dan amheuaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau; ‘Hoffwn ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru am weithredu’n gyflym ac yn effeithiol yma.”
Mae’n amlwg na fydd digwyddiadau o’r fath yn dderbyniol a bydd camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd. Mae’r rheolau yn amlwg iawn ac mae’n gyfrifoldeb arnom ni oll i sicrhau ein bod yn ymwybodol ohonynt, ac yn bwysicach oll, yn glynu atynt.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG