Ydych chi’n rhedeg grŵp chwaraeon? Ydych chi’n cyfrannu at redeg un?
Os ydych, ni ddylech golli allan ar hyn.
Mae rownd arall o geisiadau ar gyfer arian Cist Cymunedol yn agored gan Chwaraeon Cymru, gyda cheisiadau’n cau ddydd Mercher, 17 Ionawr.
Mae yna lawer o grwpiau chwaraeon yn Wrecsam sy’n cynnig cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon fel pêl-droed, rygbi, bocsio, athletau, tennis a llawer mwy.
A ydych chi’n aelod o un o’r grwpiau chwaraeon cymunedol yma?
Os ydych chi, yna peidiwch â cholli’r cyfle i gael mwy o gyllid a allai eich helpu chi ym mhob ffordd, o gyfarpar hyd at hyfforddiant.
Mae’r rhaglen eisoes wedi gweld mwy na £50,000 yn cael ei roi i grwpiau ers mis Ebrill y llynedd.
Os yw eich grŵp chi’n benodol yn hyrwyddo chwaraeon i ferched neu bobl anabl neu’n hyrwyddo bod yn rhan o gymdeithas, fe allech chi gael hyd yn oed mwy o arian.
Gall chwaraeon “ddod â phobl at ei gilydd”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae ‘na nifer o grwpiau chwaraeon ac athletau da sy’n gwneud gwaith arbennig yn eu cymunedau.
“Maen nhw’n helpu pobl i fod yn iach a byw’n iach a hefyd yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd, rhoi cyfle iddyn nhw wneud ffrindiau newydd ac i gymdeithasu.
“Fe fyddwn i’n annog unrhyw grwpiau chwaraeon sy’n credu y gallen nhw elwa o gymorth grant i gysylltu a manteisio ar y cyfle hwn.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Louise Brady, Rheolwr Cynorthwyol Datblygu Chwaraeon yng Nghyngor Wrecsam, ar 01978 297359 neu drwy e-bost at louise.brady@wrexham.gov.uk
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT