Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arian sylweddol i addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd ac allyriadau carbon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Arian sylweddol i addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd ac allyriadau carbon
Busnes ac addysgPobl a lle

Arian sylweddol i addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd ac allyriadau carbon

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 1, 2022 8:38 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Climate change
RHANNU

Mae partneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! a Groundwork Gogledd Cymru wedi sicrhau £75,215 gan Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect i addysgu pobl ifanc am newid hinsawdd, allyriadau carbon a chymryd balchder yn eu hamgylchedd lleol.

Cynnwys
  • Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! – Prosiect WILD WATCH
  • Groundwork Gogledd Cymru – Cymunedau mwy Gwyrdd (Prosiect Ieuenctid)

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! – Prosiect WILD WATCH

Bydd y ‘Prosiect WILD WATCH’ yn caniatáu i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! weithio gyda dysgwyr ym mlynyddoedd 5 a 6. Bydd y prosiect yn annog trafodaethau ynghylch newid hinsawdd, allyriadau carbon ac edrych ar yr effaith mae wedi ei gael ar ein bioamrywiaeth lleol. Bydd ‘Wild Watch’ yn edrych ymhellach ar effeithiau eraill ar fioamrywiaeth yn ogystal â pham ei fod yn bwysig, a sut y gall deall bioamrywiaeth helpu i liniaru newid hinsawdd.

Mae’r prosiect yn anelu i sicrhau y bydd gan bobl ifanc well dealltwriaeth o sut y gallant chwarae eu rhan i’w amddiffyn trwy wneud newidiadau sy’n cefnogi a gwella’r amgylchedd naturiol a bywyd gwyllt. Nod y prosiect yw creu cenhedlaeth o bobl ifanc sy’n teimlo gwell cysylltiad â natur ac yn teimlo’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â mwynhau a chefnogi natur mewn hinsawdd sy’n newid.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Groundwork Gogledd Cymru – Cymunedau mwy Gwyrdd (Prosiect Ieuenctid)

Bydd Groundwork Gogledd Cymru yn ceisio cefnogi cymunedau trefol i gynnal, adfywio a datblygu balchder yn eu hamgylchedd naturiol lleol.

Mae’r prosiect Cymunedau mwy Gwyrdd yn raglen ymgysylltu sy’n canolbwyntio ar wirfoddolwyr i alluogi pobl i gysylltu â’u man gwyrdd lleol i gefnogi datblygiad hyder, hunan-barch, lles, ac ail-gysylltu â mannau gwyrdd yn eu hardaloedd lleol.

Bydd rhai 14-18 oed mewn addysg yn cael y cyfle i fynychu sesiynau strwythuredig sy’n addysgu am effeithiau amgylcheddol a gwelliannau i fioamrywiaeth eu hardaloedd lleol.

Bydd rhai 18-24 oed yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn rhaglen wyth wythnos i ddatblygu sgiliau a fydd yn cefnogi eu datblygiad personol. Byddant yn cynllunio a chyflawni gwelliannau cymunedol wrth ddysgu am liniaru newid hinsawdd a’r effeithiau amgylcheddol y bydd y mannau gwyrdd yn eu cynnig i’w cymunedau.

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r bartneriaeth hon gyda Xplore! a Groundwork Gogledd Cymru a fydd yn caniatáu i gymaint o bobl ifanc ddysgu am effeithiau niweidiol newid hinsawdd ac allyriadau carbon ar yr amgylchedd naturiol. Rydym eisiau diolch i Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru am gefnogi’r gwaith pwysig hwn yn ein cymuned.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae cymaint o fanteision o gael balchder yn eich amgylchedd. Beth sy’n arbennig o bwysig yw sut y bydd y Prosiect WILD WATCH a’r Prosiect Ieuenctid Cymunedau mwy Gwyrdd yn cefnogi iechyd a lles pobl ifanc sy’n cymryd rhan, gan hybu eu hyder a’u hunan-barch, yn ogystal â datblygu cymunedau cryf.”

Dywedodd Karen Balmer, Prif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru “Mae’n wych ein bod yn gallu darparu’r cyfle hwn i’n cenedlaethau’r dyfodol ddysgu am liniaru newid hinsawdd a’r effeithiau amgylcheddol ar fannau gwyrdd. Bydd y sesiynau hyn nid yn unig o fudd i unigolion a’u dyfodol ond i’r cymunedau ble maent yn byw hefyd.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Don't Blow Christmas Peidiwch â Diffodd y ‘Dolig – Lansio Ymgyrch Nwyddau Trydanol Ffug
Erthygl nesaf 73 Degrees 73 Degree Films yn Lansio Sioe Fyw a Phodlediad Newydd i Gefnogi Cais Wrecsam ar gyfer Dinas Diwylliant 2029

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English