Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg

Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 16, 2025 1:30 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
start-up clinics
RHANNU

Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod Clinigau Busnesau Newydd yn dychwelyd i Wrecsam – ond yn wahanol y tro hwn!

Mae’r clinigau, sy’n dechrau ar 22 Gorffennaf, wedi’u cynllunio i gefnogi entrepreneuriaid newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg o unrhyw oedran i ddatblygu a mireinio eu syniadau busnes. Bydd y sesiynau hyn yn cynnig arweiniad ymarferol a chyngor lefel uchel i helpu i osod sylfaen ar gyfer llwyddiant.

Eleni, gallai cyfranogwyr 30+ oed, sydd â syniad busnes hyfyw, gael cyfle i gyflwyno i sicrhau cyllid ymlaen llaw, heb unrhyw ofyniad cyfatebol, yn amrywio o £500 i £1,500.

Bydd y digwyddiad hwn ar 22 Gorffennaf yn cael ei gynnal yn adeilad Banc Datblygu Cymru ar Rodfa Ellice, Parc Technoleg Wrecsam. Mae’n ddigwyddiad trwy’r dydd gyda mynychwyr yn cael apwyntiadau 30 munud.

Dywedodd Nigel Williams, yr aelod arweiniol dros yr economi, busnes a thwristiaeth: “Nod y fenter hon yw grymuso talent leol, meithrin arloesi a throi syniadau gwych yn fentrau llwyddiannus ac mae wedi’i galluogi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

“Os oes gennych syniad busnes hyfyw, ond angen hwb i ddechrau, rwy’n eich annog i gysylltu â’r tîm a gwneud apwyntiad – gallai hyn fod yn ddechrau o ran cael eich syniad busnes oddi ar y dudalen ac i’r byd go iawn.”

Mae cynlluniau cyllid eraill ar gael i unigolion cymwys hyd at 30 oed, a gellir darparu manylion amdanynt.

I gael gwybod mwy neu i drefnu eich apwyntiad, ffoniwch dîm busnes a buddsoddi’r cyngor ar 01978 667000 neu e-bostiwch business@wrexham.gov.uk.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam. Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Erthygl nesaf Ffrinj Wrecsam Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English