Mae Bysiau Arriva Cymru wedi cyhoeddi amrywiad i lwybr eu gwasanaeth bws A4 a 4C yn gwasanaethu Rhos, Penycae (gan gynnwys Ystâd Afoneitha) a Rhostyllen o ddydd Sul, 1 Medi 2024.
Bydd y newid a fwriadwyd yn ailgyflwyno gwasanaeth bws ym mhentref Rhostyllen ar hyd Ffordd Henblas ac Allt y Ficerdy. Ar ôl cyrraedd Johnstown bydd bysiau yn parhau i wasanaethu Stryt Las ond yna bydd y llwybr ar hyd Ffordd y Gardden cyn parhau eu siwrnai tuag at ardal Penycae a Rhosllanerchrugog. Ar y siwrnai yn ôl tuag at Wrecsam, bydd bysiau yn dychwelyd ar hyd Ffordd y Gardden a phentref Rhostyllen.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cludiant Strategol, “rwy’n croesawu cyflwyno gwasanaeth bws presennol yn ôl i strydoedd ac aneddiadau sydd wedi eu gwasanaethu’n flaenorol gan gludiant cyhoeddus.
“Mae’r berthynas waith ragweithiol sydd gennym gyda Bysiau Arriva Cymru wedi nodi cyfle i wella’r llwybr bws, gan wneud gwasanaethau bws lleol yn haws i gael mynediad iddynt o fewn y gymuned leol.”
Ychwanegodd Adam Marshall, Pennaeth Commercial Arriva North West & Wales “Yn dilyn adborth cwsmeriaid ac yn dilyn ystyriaeth gan ein tîm rhwydwaith, gwnaed cynnig i Gyngor Wrecsam yr oeddem yn teimlo fyddai’n gwasanaethu’r preswylwyr lleol yn well drwy wneud rhai mân newidiadau i’r llwybr bws presennol.
“Rydym yn falch fod y Cyngor wedi derbyn ein hawgrym ac yn cefnogi’r newid arfaethedig i’r llwybr bws. Bydd y newid yn dod i rym o ddydd Sul, 1 Medi ac er nad yw amser gwasanaethau bws yn newid, mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein gwefan yn www.arrivabus.co.uk/wales”
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Dewch yn fasnachwr yn Tŷ Pawb
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch