Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arweinwyr cymunedol a busnes Wrecsam i helpu i oruchwylio buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau gan Lywodraeth y DU
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Arweinwyr cymunedol a busnes Wrecsam i helpu i oruchwylio buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau gan Lywodraeth y DU
Pobl a lle

Arweinwyr cymunedol a busnes Wrecsam i helpu i oruchwylio buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau gan Lywodraeth y DU

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 25, 2024 10:50 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Tourism
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam yn gwahodd arweinwyr cymunedol a busnes i ymuno â ‘Bwrdd Tref / Dinas’ newydd i helpu i oruchwylio rhaglen fuddsoddi 10 mlynedd a ariennir gan Lywodraeth y DU.

Mae Wrecsam yn un o 55 o drefi/dinasoedd ar draws y DU a ddewiswyd i gymryd rhan yn y fenter Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi.

Mae’n golygu y gallai’r ddinas dderbyn hyd at £20 miliwn dros y 10 mlynedd nesaf i helpu i gyflawni blaenoriaethau lleol.

Bydd y bwrdd newydd yn goruchwylio’r gwaith drwy ddatblygu ‘Cynllun Hirdymor ar gyfer Wrecsam’, ac mae swyddogion y cyngor bellach yn gweithio i recriwtio aelodau cyn y dyddiad cau sef 1 Ebrill.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym am gael amrywiaeth o arweinwyr cymunedol a busnes deinamig i eistedd ar y bwrdd hwn a helpu Wrecsam i wneud y gorau o’r cyfle gwych hwn.

“Bydd y bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac yn gosod yr agenda strategol – gan nodi pa flaenoriaethau lleol y bydd y cyllid yn cael ei fuddsoddi ynddynt.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth y DU a’n AS Sarah Atherton am ei chefnogaeth ar y prosiect hwn, yn ogystal â swyddogion y cyngor, partneriaid a phawb arall sy’n gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae llawer yn digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd – gyda llygaid y byd arni, llwyddiant ym maes chwaraeon a phrosiectau adfywio mawr – ac mae hwn yn gyfle euraidd arall i adeiladu ar yr hyder hwnnw a chadw’r momentwm.”

Dywedodd AS Wrecsam, Sarah Atherton:“Mae’r Gronfa Trefi gwerth £20 miliwn yn dangos eto ymrwymiad Llywodraeth y DU i Wrecsam.

“Ar hyn o bryd, mae llawer iawn o waith cynllunio ar gyfer adnewyddu canol ein dinas ac rwy’n awyddus i weld hyn yn cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl.

“Mae hwn yn gyfle gwych i drawsnewid Wrecsam er gwell ac rwy’n awyddus i weithio law yn llaw â’r bwrdd a phob rhan o’n cymuned i yrru cynnydd yn ei flaen.”

Mae disgwyl i’r aelodaeth derfynol gael ei chadarnhau gan Fwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ym mis Ebrill.

Gallwch ddarllen mwy am fenter y Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi ar wefan Llywodraeth y DU.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ymunwch â ni am ddiwrnod o agosatrwydd yn Wrecsam! Ymunwch â ni am ddiwrnod o agosatrwydd yn Wrecsam!
Erthygl nesaf wellbeing hub Dewch i’n gweld ni yn ystod mis ymwybyddiaeth o Awtistiaeth eleni

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English