Wel, rydyn ni’n cychwyn ar bumed wythnos y gwyliau haf ac mae yna’n dal lawer i’w fwynhau ar draws y sir.
Dyma bum peth i chi eu mwynhau gyda’r plant yr wythnos yma:
- Dewch i greu archarwr pren!
Ddydd Llun, 21 Awst, 10.30am-12pm, bydd Amgueddfa Wrecsam yn darparu popeth fydd arnoch ei angen i baentio, gludo a baeddu eich dwylo wrth greu eich archarwr eich hun. Addas ar gyfer rhai 0-3 oed ac yn costio £1 yn unig. Cysylltwch â 01978 297460 i gael gwybod mwy. - Llwybr Coed a Chelf ar Gylchoedd Pren
Dewch draw i Barc Bellevue ddydd Mawrth, 22 Awst, i greu celf ar gylchoedd pren a darganfod coed Bellevue. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 1.30 tan 3.30pm ac mae’n addas ar gyfer pob oed. Pris £2.50. Cysylltwch â 01978 297300 i gael gwybod mwy. - Parti pen-blwydd 10 mlwyddiant
Mae Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Gymunedol Gwersyllt yn dathlu ei 10 mlwyddiant ddydd Mercher, 23 Awst! Dewch draw rhwng 1pm a 4pm am brynhawn llawn hwyl. Ffoniwch 01978 722880 i gael gwybod mwy. - Crefftau a chwedlau canoloesol
Gwrandewch ar straeon a chwedlau canoloesol ddydd Iau, 24 Awst, ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr. Bydd cyfle hefyd i greu crefftau canoloesol! Dewch draw rhwng 11am a 3.30pm i roi cynnig arni. Ffoniwch 01978 763140 i gael mwy o fanylion. - Llyfrau Tu Chwith Allan
Mae gwahoddiad i blant 7-10 oed i weithdy ysgrifennu creadigol Llyfrgell Wrecsam ar thema anifeiliaid ddydd Gwener, 25 Awst i fod yn greadigol! Mae’r gweithdy’n cael ei gynnal o 1pm tan 2.30pm ac mae’n costio 50c yn unig. Mae’n hanfodol archebu lle. Ffoniwch 292090 i gael gwybod mwy.
Y tro nesaf: Creu crefftau!