Daeth Arwyr o bob rhan o’r bydysawd i gampws Prifysgol Glyndŵr dros y penwythnos ar gyfer Comic Con Cymru.
Daeth miloedd o bob rhan o Brydain a hyd yn oed dramor i weld â chwrdd â’u hoff arwyr. Yn amlwg, mae digwyddiad Wrecsam yn boblogaidd iawn gyda mynychwyr Comic Con sy’n ystyried digwyddiad Cymru yn un o’r gorau ym Mhrydain.
Roedd teimlad bywiog a lliwgar i’r digwyddiad gyda nifer o’r ymwelwyr yn gwisgo’n arbennig ar gyfer yr achlysur ac yn edrych yn cŵl fel eu hoff arwr.
Cymerodd nifer o enwogion eu lle i gael eu lluniau wedi eu cymryd ac ysgrifennu llofnodion gydag actorion o Pirates of the Caribbean, Game of Thrones, Lord of the Rings, Torchwood a sêr o’r byd Reslo gan gynnwys y ffefryn Sting.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Ein ffefryn oedd Flash Gordon, neu Sam J Jones, a gymerodd gornel gyfan ac roedd wrth ei fodd yn siarad gyda dilynwyr hen ac ifanc. Rydym yn cyfeirio’n arbennig ato gan ei fod wedi achub pawb.
Gallai ymwelwyr hefyd fanteisio ar yr ystafelloedd gemau am ddim a oedd yn boblogaeth iawn gyda’r genhedlaeth iau. Roedd digonedd o fwyd a diod ac roedd y sesiynau Holi ac Ateb dan eu sang gyda chefnogwyr brwd yn eiddgar i holi eu hoff gymeriadau.
“buddion economaidd aruthrol”
Mae’r digwyddiad yn dod a mwynhad i bawb a hefyd yn dod a buddion economaidd aruthrol i Wrecsam gyda phobl yn teithio o leoedd fel Ffrainc, Gwlad Belg, Gogledd Iwerddon, de Cymru, Llundain, Telford, Lerpwl, Portsmouth, Bangor, St Helen’s, Manceinion, Derby, Leamington Spa a Swydd Amwythig.
Amcangyfrifir fod y digwyddiad yn dod ag £1 miliwn i economi Wrecsam wrth i bobl deithio i’r ardal, defnyddio bwytai a llety yn ystod eu hymweliad.
Mae digwyddiadau fel rhain yn rhoi Wrecsam ar y map ac mae’r profiad a gawsant yn golygu y byddant yn dod yn eu holau gan fod Comic Con Cymru yn Wrecsam bellach yn cynnal dau ddigwyddiad y flwyddyn yn sgil y galw gan y cyhoedd.
Diolchwn i drefnwyr Comic Con am ganiatáu i ni grwydro ar hyd y safle dros y penwythnos ac am y gwaith trefnu gwych a oedd yn golygu ein bod yn gwybod beth oedd yn digwydd, pryd ac ymhle.
COFIWCH EICH BINIAU
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.