Mae’r cogydd enwog Jamie Oliver wedi treulio misoedd yn ymgyrchu i gael y llywodraeth i atal cwmnïau rhag gwerthu diodydd egni i bobl ifanc o dan 16 oed.
Beth am ddarganfod pam eu bod mor ddrwg i’ch iechyd a sut y gallent effeithio addysg eich plentyn.
Os ydych yn yrrwr blinedig neu’n berson yn eich arddegau gyda dant melys mae diod egni wedi’i baratoi ar eich cyfer ond ydych chi’n ymwybodol o’r effaith y mae’r ddiod yn ei gael ar eich corff?
Yn y lle cyntaf mae diodydd egni yn cynnwys lefelau uchel o gaffein ac wedi’u marchnata i wella ein perfformiad corfforol a meddyliol. Swnio fel ychwanegiad da i ddiet tydi??
Y broblem yw bod caffein yn ysbarduno’r ymennydd a’r corff trwy fenthyca egni o’n cronfeydd wrth gefn. Pan fydd yr egni hwn yn dod i ben rydym yn mynd yn swrth ac wedi blino, felly beth fyddwn ni’n ei wneud wedyn? Rydym yn yfed mwy o gaffein i godi ein lefelau egni unwaith eto. Gall hyn arwain at batrwm peryglus a dyma’r rheswm pam fo Jamie Oliver wedi dweud bod y diodydd hyn yn rhai na ellir rhoi’r gorau iddynt ar ôl dechrau eu hyfed yn rheolaidd.
Mae’r GIG yn argymell na ddylai oedolyn yfed neu fwyta mwy na 400mg o gaffein bob diwrnod (mae’n llawer llai ar gyfer pobl ifanc), ond mae cymaint â 500mg o gaffein mewn un ddiod egni! Mae diodydd egni wedi cael eu marchnata i apelio at bobl ifanc gan ddefnyddio lliwiau llachar, blasau poblogaidd a logos atyniadol. Yn gyfreithiol nid oes gofyniad i’r caniau ddangos cyfanswm y caffein ym mhob diod OND yr hyn sydd ar y caniau yw bod y diodydd ddim yn cael eu hargymell ar gyfer pobl ifanc o dan 16 oed!
Yn ogystal â chaffein mae’r diodydd hyn yn cynnwys cyfansymiau helaeth o siwgr – oddeutu 15 llwy de o siwgr mewn can 500ml. Yn y tymor byr, ac yn gymedrol, gall siwgr fod yn adnodd defnyddiol o egni. Ar y llaw arall mae gormod o siwgr yn gallu arwain at y risg o ordewdra, clefyd y galon, diabetes math II a phydru’r dannedd.
Yr oll y mae hyn yn ei ddangos yw bod diodydd egni gyda’u lefelau uchel o siwgr a chaffein ar y pegwn arall yn llwyr o’r hyn yr ydym yn fod i’w hystyried yn ddiodydd iach ac sy’n dda i ni.
Mae Jamie Oliver yn galw ar yr ysgrifennydd iechyd, Jeremy Hunt i wahardd y weithred o werthu diodydd egni i bobl ifanc o dan 16 oed ac wedi creu partneriaeth â’r Undeb Addysg Cenedlaethol i ddangos yr effaith negyddol ar safonau addysg. Mae athrawon wedi datgan bod eu plant “dan ddylanwad” ac yn amhosib eu dysgu, ac wedyn ar ôl i effaith y ddiod ddod i ben maent yn swrth ac yn edrych fel eu bod heb gael noson call o gwsg ers wythnos. Mae hyn yn rhwystredig iawn i’r broses ddysgu.
Os mai egni sydd ei angen arnoch, bydd torri caffein o’ch diet yn ddechrau da ac felly gallwch ddibynnu ar eich adnoddau egni naturiol eich hun. Mae diet cytbwys, cwsg o ansawdd da ac ymarfer corff yn rheolaidd i gyd yn gallu rhoi hwb i’n lefelau egni gan wneud hynny’n effeithiol ac yn naturiol. Un o’r arwyddion cyntaf o ddiffyg hylif yw blinder ond yn lle yfed diod egni sy’n rhoi’r ateb tymor byr i chi beth am yfed dŵr sydd yn llawer mwy buddiol yn yr hirdymor, yn hydradu’r meddwl a’r corff, gwneud i chi deimlo yn llai blinedig ac yn cyfrannu at fyw bywyd iachach.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT