Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Wrecsam i anrhydeddu a thynnu sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, ac rydym yn edrych am fwy o grwpiau, busnesau neu sefydliadau i gymryd rhan.
Nod y digwyddiad yw dathlu gwaith Strydoedd Mwy Diogel sydd wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal ag arddangos yr holl waith da sy’n cael ei wneud gan gwmnïau, sefydliadau ac elusennau lleol i gefnogi a grymuso merched yn Wrecsam.
Mae’n cael ei gynnal ddydd Iau, 8 Mawrth yn Tŷ Pawb rhwng 10am a 1pm.
Ar y dydd bydd llawer o weithgareddau a chynigion ynghyd â stondinau, adloniant a bwffe yn rhad ac am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry Jones, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddigwyddiad ledled y byd sy’n hyrwyddo cyflawniadau merched, mwy o gydraddoldeb rhywiol a grymuso. Thema 2024 yw ysbrydoli cynhwysiant ac rydym yn awyddus i allu cynrychioli cymaint o sefydliadau Wrecsam ag sy’n bosib.
Amserau digwyddiadau:
10am – Araith agoriadol gan y Cyng Bev Parry-Jones
10:45am – Duo Plus
11:30yb – Demo Zumba – Freedom Leisure
12 canol dydd – Cinio Bwffe
12:30 yp – Yasmine Latkowski (www.yasminelatkowski.com) ‘Caneuon Arabeg, Cymraeg a Saesneg’
1pm – Araith gloi – Digwyddiad ar gau
Sefydliadau sydd wedi cadarnhau eu presenoldeb yw:
- Uned Diogelwch Trais Teuluol
- RASASC
- Cheri Mills Coaching
- MPCT
- Heddlu Gogledd Cymru
- Freedom Leisure and Zumba Demo
- Tîm Pobl Ifanc Egnïol
- Dechrau’n Deg
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
- Ysgolion Iach
- Coleg Cambria
- Diogelwch Cymunedol
- BAWSO
- Cymunedau i gwaith
- CPD Wrecsam
- Oedi’n dda yn Nghymru
- Senedd yr Ifainc
- Gofal Cartref Phoenix
- Recriwtio HGC
- We mind the Gap
- Siop Gwyboadeth
- Rhuban Gwyn
- Canolbwynt Amlddiwylliannol
- Prifysgol Wrecsam
- Pallam Arts