Awdur: Beth Rogers

  • Canolbwynt Lles newydd Wrecsam i agor yn swyddogol

    Canolbwynt Lles newydd Wrecsam i agor yn swyddogol

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor Wrecsam ac AVOW wedi dod at ei gilydd i greu Canolbwynt Lles newydd yng nghanol tref Wrecsam.

    Nod y Canolbwynt Lles yw ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i bobl gael gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau i gyd o dan un to, gan helpu i rwystro salwch ac annog pobl i fyw bywydau hirach a hapusach.

    Gyda mynediad hawdd at wybodaeth a chyngor yn ogystal â lle a chyfleusterau hygyrch, mae’r Canolbwynt Lles yn lle perffaith i amrywiaeth o grwpiau cymunedol ei ddefnyddio.

    Mae rhai grwpiau cymunedol ac unigolion wedi cael cyfle i ddefnyddio’r cyfleusterau cyn yr agoriad swyddogol.

    Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

    Dywedodd Robin Ranson o Dîm Gwella Iechyd BIPBC: “Roeddwn i’n ddigon ffodus i gael taith o amgylch Canolbwynt Lles Wrecsam pan es i i gyfarfod diweddar yn un o’r ystafelloedd cymunedol. Mae’r adeilad yn edrych y wych, mae’n groesawus iawn ac wedi’i leoli’n gyfleus yng nghanol Wrecsam gyda chysylltiadau cludiant da ac yn hawdd cyrraedd ato ar droed. Mae’r Canolbwynt hefyd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Mae’r ‘stafelloedd sydd ar gael i’w hurio’n edrych yn grêt ac rydym yn awyddus iawn i redeg ein Rhaglen Gwella Iechyd oddi yno gan fod yno gegin ar gyfer ein Rhaglen Coginio a lle ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd yn ogystal â byrddau a chadeiriau ar gyfer sesiynau addysgol.  Gallwn weld ein hunain yn gwneud defnydd da o’r cyfleuster anhygoel hwn yr ydym mor ffodus i’w gael yn Wrecsam ac rydym yn argymell bod eraill yn dod i weld beth y gallai ei gynnig ar gyfer gwasanaethau eu grŵp nhw.

    Dywedodd Wrecsam Ddynamig: ‘Mae ein plant a’n pobl ifanc wedi bod i’r Canolbwynt Lles newydd yn Adeiladau’r Goron ac wedi cael cyfle i brofi’r ystafell synhwyraidd newydd a’r lle chwarae awyr agored a chawson nhw ddim eu siomi. Am le ffantastig. Roedd yn anrhydedd cael profi’r cyfleusterau cyn iddyn nhw agor yn swyddogol.

    Dywedodd Phil, tad dau fachgen ifanc: “Mae’r Canolbwynt Lles yn lle anhygoel i deuluoedd. Roedd y bechgyn wrth eu bodd gyda’r ystafell synhwyraidd a’r ardal chwarae awyr agored a ‘da ni’n edrych ymlaen at weld pa weithgareddau fydd ar gael yn y dyfodol.

    Bydd y Canolbwynt Lles yn agor yn swyddogol ddydd Mercher, 5 Hydref  rhwng 2pm a 5pm. Gwahoddir y cyhoedd i ddod draw i weld beth all y Canolbwynt ei gynnig. Bydd yna arddangosiadau, stondinau gwybodaeth, sesiynau blasu tai chi, amser stori, ystafell synhwyraidd, ardal chwarae awyr agored a gweithgareddau llawn hwyl.

    I gael rhagor o wybodaeth am y Canolbwynt Lles a’r gwasanaethau y gall chwiliwch am Ganolbwynt Lles Wrecsam ar Facebook.

    Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

  • Gofalwyr di-dâl – dweud eich dweud

    Gofalwyr di-dâl – dweud eich dweud

    Ydych chi’n ofalwr di-dâl? Dewch i grŵp ffocws arbennig i ddweud eich dweud am y gwasanaethau a’r wybodaeth sydd ar gael i chi yn Wrecsam.

    Grŵp Ffocws i Ofalwyr Di-dâl

    Dydd Gwener, 9 Medi 11am-3pm

    Canolfan Lles, Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Caer, Wrecsam LL13 8BG

    Archebwch eich lle nawr 

    Ffoniwch: 01978 423114

    E-bost: Enquiries@newcis.org.uk

    Gofalwr yw unrhyw un sy’n gofalu, yn ddi-dâl, am berthynas, partner neu ffrind sy’n fregus, yn wael, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

    Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) wedi eu comisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddarparu gwasanaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae’r Gwasanaeth yn darparu gwybodaeth gyfredol, cefnogaeth un i un, seibiant, cymorth ariannol, hyfforddiant, digwyddiadau cymdeithasol, cwnsela a mwy.

    Am ragor o wybodaeth am NEWCIS ewch i’w gwefan.

    Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

  • Cwrs Dehongli Dementia – Rhaid archebu lle

    Cwrs Dehongli Dementia – Rhaid archebu lle

    Ydych chi’n byw yn Wrecsam neu’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn Wrecsam?  A fyddech yn hoffi deall sut i allu cyfathrebu’n well gyda phobl sy’n byw gyda dementia?

    Mae’r cwrs dehongli dementia wedi’i lunio i helpu pobl i ddeall sut i gyfathrebu â phobl â dementia a chydnabod bod ymddygiadau yn aml yn ffordd o ddweud rhywbeth wrthym.

    Drwy ddeall yr ymddygiad hwn, gallwn leihau’r rhwystredigaeth y mae colli’r gallu i siarad yn gallu ei achosi.

    Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

    Bydd y cwrs yn edrych ar effaith y mae problemau cyfathrebu yn ei gael ar unigolyn ac ar grŵp – nid yn unig o’ch safbwynt chi, ond o safbwynt yr unigolyn hefyd.  Byddwch yn dysgu technegau newydd er mwyn helpu i ddeall y newidiadau bychan y mae’n rhaid i chi eu gwneud i ddeall unigolyn, a byddwch yn magu sgiliau i ddehongli ymddygiadau a’ch galluogi i ddeall beth mae rhywun yn ei “ddweud”.

    Mae 2 sesiwn ar gael fesul diwrnod ym mhob lleoliad:  9.30am – 12.30pm neu 1.30pm – 4.30pm

    Mae’r hyfforddiant hwn ar gael yn benodol i bobl sy’n byw yn Wrecsam neu’n gweithio gydag unigolion sy’n byw yn Wrecsam.

    Dyddiadau’r cwrs

    Mae’n rhaid archebu lle

    19 a 22 Medi 2022:
    Hwb Menter, Sgwâr y Frenhines, Wrecsam, LL11 1AT

    21 Medi 2022: Yn llawn
    Adeiladau’r Goron, 31 Stryt Gaer, Wrecsam, LL13 8BG

    23 Medi 2022:
    Gofal Cartref a Chefnogaeth, Wrecsam, LL11 4YL

    Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
    commissioning@wrexham.gov.uk
    I archebu eich lle

    Ffôn:01978 292000

    Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

  • Mae’r bleidlais ar agor! Mae dau o barciau Wrecsam wedi’u henwebu ar gyfer cystadleuaeth Hoff Barciau’r DU

    Mae’r bleidlais ar agor! Mae dau o barciau Wrecsam wedi’u henwebu ar gyfer cystadleuaeth Hoff Barciau’r DU

    Mae Meysydd Chwarae Cymru yn dathlu parciau’r genedl ac mae dau o barciau Wrecsam wedi’u henwebu!

    Mae Parc Haywards a’r Parciau ymhlith y 364 o barciau a mannau gwyrdd sydd yn y ras i gael eu dyfarnu’n Hoff Barc y DU ar gyfer 2022.

    Mae ein parciau lleol wedi gweithredu fel lloches i gymaint ohonom dros y blynyddoedd diwethaf ac mae gwobr Hoff Barc y DU yn dathlu’r hyn sydd gan y mannau hyn i’w gynnig i’n cymdogaethau a’n cymunedau.

    Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae’n newyddion gwych bod dau o’n parciau anhygoel yn Wrecsam wedi’u henwebu ar gyfer y wobr hon.  Mae mannau gwyrdd yn bwysig i bawb ac yn hanfodol o ran ein lles. Hoffwn annog pawb i gefnogi ein parciau a phleidleisio yn y bleidlais gyhoeddus genedlaethol a drefnwyd gan yr elusen mannau gwyrdd, Meysydd Chwarae Cymru.”

    Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

    Dywedodd Helen Griffiths, Prif Weithredwr Meysydd Chwarae Cymru: “Rydym wrth ein boddau’n gweld bod cannoedd o barciau a mannau gwyrdd wedi’u henwebu ar draws y wlad. Mae’n galonogol clywed y straeon unigol o bwys am y mannau hyn ac mae’r
    broses hon wedi pwysleisio’r pwysigrwydd cyfunol o gael ardaloedd naturiol yn ein cymunedau. Mae ein parciau cenedlaethol wedi bod  mor bwysig yn ystod y pandemig, ac mae’n hanfodol ein bod yn eu dathlu, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae ein plant a’n hwyrion yn haeddu cael yr un mynediad â ninnau at fannau gwyrdd, a chael budd o’r hyn sydd gan fannau gwyrdd lleol i’w gynnig o ran ein hiechyd, ein lles ein hamgylchedd, ac yn y pen draw ein dyfodol.”

    Hoff Barc y DU ar gyfer 2022 – Pleidleisiwch nawr! 

    Mae’r bleidlais nawr ar agor ar Fields in Trust ar lein a bydd yn cau am hanner dydd, ddydd Iau 18 Awst 2022. Bydd y parc sydd â’r mwyaf o bleidleisiau yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn ennill gwobr am yr Hoff Barc Cenedlaethol, a dyfernir gwobr Hoff Barc y DU ar gyfer 2022 i’r prif enillydd.

    Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

  • Mae noson gomedi Tŷ Pawb yn ôl!

    Mae noson gomedi Tŷ Pawb yn ôl!

    Mae’n argoeli i fod yn noson gomedi wych a fydd yn sicr o wneud i chi chwerthin a theimlo ar ben eich digon!

    Mae Nosweithiau Comedi Tŷ Pawb wedi bod yn boblogaidd iawn ac mae’r eitemau ar gyfer y digwyddiad hwn yn addo noson wych arall i bawb.

    Nos Gwener 12 Awst
    7.30pm (eitem gyntaf am 8.00pm)
    Tocynnau: £10

    GWESTAI ARBENNIG: Harry Stachini, Jordan Ducharme, Kevin Caswell-Jones, Joanne Sargingson, Justina Seselskaite

    Tocynnau

    Cofrestrwch rŵan

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] Cofrestrwch rŵan
    [/button]

  • Ymwelwch â Tŷ Pawb i weld un o’r esiamplau gorau sydd wedi goroesi o gelf gwerin Gymreig

    Ymwelwch â Tŷ Pawb i weld un o’r esiamplau gorau sydd wedi goroesi o gelf gwerin Gymreig

    Mae The Tailor’s Tale yn dod ag ymatebion artistig i Gwilt Teiliwr Wrecsam a grëwyd gan James Williams rhwng 1842 a 1852 ynghyd.

    Mae’r cwilt, sydd bellach yn cael ei gadw’n barhaol yn Amgueddfa Sain Ffagan, ond a roddwyd ar fenthyg i Tŷ Pawb ar gyfer yr arddangosfa hon, yn gwrlid clytwaith un haen wedi’i wneud o 4,525 darn o frethyn gwlân unigol.

    Mae’r cwilt yn cynnwys golygfeydd o’r Beibl, fel Adda yn enwi’r anifeiliaid, Cain ac Abel, Jona a’r morfil ac Arch Noa. Mae’r cwilt hefyd yn cynnwys symbolau o Gymru, Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Fe welwch chi hefyd Bont Menai a Thraphont Cefn.

    Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon

    Roedd y cwilt yn grefftwaith arbennig a chafodd ei arddangos yn Arddangosfa Trysorau Celfyddydol Gogledd Cymru yn Wrecsam yn 1876 ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1933, a gynhaliwyd yn Wrecsam.

    Mae’r cwilt bellach yn cael ei ystyried yn un o’r esiamplau gorau sydd wedi goroesi o gelf gwerin Gymreig.

    Mae Adam Jones yn ddylunydd ffasiwn yn Llundain a gafodd ei eni yn Wrecsam; mae’n deiliwr cyfoes sydd wedi cael ei gomisiynu gan Tŷ Pawb i ail-greu Cwilt Wrecsam ar gyfer 2022. Mae cwilt Adam yn cael ei arddangos ar y cyd â dillad o’i gasgliad ei hun.

    Ruth Caswell

    Cafodd yr arddangosfa hon ei chreu a’i gwireddu gan ras a chymhelliant Ruth Caswell, y dylunydd ffasiwn a enillodd wobrau, darlithydd a chefnogwr brwd Tŷ Pawb. Rydym yn cyflwyno The Tailor’s Tale er cof am Ruth.

    Cofrestrwch rŵan

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] Cofrestrwch rŵan
    [/button]

  • Cymorth gyda chostau gofal plant ar gyfer rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio

    Cymorth gyda chostau gofal plant ar gyfer rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio

    Gall mwyafrif rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio gael cymorth y llywodraeth gyda chostau gofal plant.

    O dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru, gallwch hawlio 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar yng Nghymru yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Y nod yw gwneud bywyd ychydig yn haws i rieni drwy gynnig i helpu gyda chostau gofal plant.

    Mae’r cynnig eisoes wedi helpu rhieni dros Gymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg.

    Beth bynnag mae’r cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli allan ar eich hawl i gymorth gan y llywodraeth gyda gofal plant.

    Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

    Mae ceisiadau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru ar agor rŵan ar draws Cymru.

    Os ydych chi’n ddarparwr gofal plant, gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chanllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru. 

    Beth sydd wedi’i gynnwys yn y cynnig?

    Mae Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn golygu mod mwyafrif rhieni plant 3 i 4 oed yn gallu hawlio arian tuag at gostau gofal plant.

    Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yng Nghymru ar gyfer rhieni cymwys.

    Mae’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar yr wythnos a mwyafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.

    Mae ar gael am 48 wythnos y flwyddyn, sy’n golygu fod y cynnig yn gallu helpu gyda gofal plant dros ychydig o wyliau’r haf.

    Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y Cynnig Gofal Plant i Gymru a gwneud cais yma.

    Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

  • Gwaith celf newydd ar gyfer Wal Pawb Tŷ Pawb

    Gwaith celf newydd ar gyfer Wal Pawb Tŷ Pawb

    Mae ‘Wal Pawb’ yn gomisiwn blynyddol o chwe gwaith celf i’w harddangos ar draws dau fwrdd poster triphlyg.

    Mae’r chwe gwaith celf newydd ‘Wal Pawb’ wedi cael eu creu gan yr artist, Alan Dunn. Maent yn “ddathliad o fasnachwyr, aelodau’r gymuned a staff Tŷ Pawb y tu ôl i’r llenni.”

    Mae’r chwe dyluniad newydd wedi cael eu dylunio dros 12 mis mewn cydweithrediad gydag artistiaid Natasha Borton a Meilir Tomos, marchnadwyr, staff ac ymwelwyr Tŷ Pawb.

    Cofrestrwch i gael newyddlen Tŷ Pawb yn syth i’ch blwch negeseuon

    Dywedodd Alan Dunn, “Fe ddechreuais ymweld â Tŷ Pawb ym mis gorffennaf 2021 gan fy mod eisiau crwydro ar ôl Covid i ddathlu bwyd a dychwelyd i gymdeithasu ‘go iawn’.  Ers hynny at y gwaith terfynol, cefais anrhydedd o weithio’n agos gyda’r artistiaid Natasha Borton a Meilir Tomos a thrwyddyn nhw, fe gwrddais i ag amrywiaeth aruthrol o bobl ar draws Wrecsam, o fasnachwyr, staff ac ymwelwyr Tŷ Pawb.  Cefais fy nharo ar unwaith gan egni a brwdfrydedd y dref (bryd hynny) oedd yn fy atgoffa o fy ninas enedigol sef Glasgow, ac yna Lerpwl lle rwyf wedi byw ers dros 25 mlynedd – dim llinellau rhwng artistiaid, cerddorion beirdd neu weithredwyr cymunedol.  Roeddwn i eisiau dal y cyfan mewn pedwar gair a chwe llun.

    Un diwrnod, roeddwn i’n eistedd yn cael paned o goffi o ‘Curry on the Go’ ac fe glywais i rywun yn dweud ‘supercalifragilisticexpialidocious’ a disgynnodd y prosiect i’w le – fe fyddem ni’n creu PEDWAR GAIR o Gymraeg, Saesneg, Portiwgaleg a Phwyleg oedd yn drawstoriad o fwyd, cerddoriaeth, barddoniaeth a’r holl straeon bach o Wrecsam mai dim ond ychydig fydd yn eu hadnabod.  Roeddem ni eisiau i’r dyluniadau fod yr un mor feiddgar, fel llawes recordiau a hysbysfyrddau ar gyfer y bandiau rydym ni’n eu caru, gyda goleuadau dramatig, ystumiau sêr roc a chanolbwynt ar steil ‘Sgt Pepper’ sydd yn dathlu masnachwyr, aelodau’r gymuned a staff tu ôl i’r llenni yn Tŷ Pawb.”

    www.typawb.wales/wal-pawb
    Cofrestrwch rŵan

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] Cofrestrwch rŵan
    [/button]

  • Peidiwch â cholli eich cyfle!  Grantiau ar gael i helpu grwpiau cymunedol yn Wrecsam

    Peidiwch â cholli eich cyfle! Grantiau ar gael i helpu grwpiau cymunedol yn Wrecsam

    Ydych chi’n dymuno sefydlu grŵp newydd i oedolion yn eich cymuned leol?

    Allech chi gynnal clwb cinio?

    Ydi grŵp rydych chi’n mynd iddo yn ystyried ehangu?

    Wel, gall y Grant Cynhwysiant Cymunedol eich helpu chi!

    Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn helpu i ariannu llawer o wahanol brosiectau a grwpiau i oedolion ar draws Wrecsam.   O glybiau cinio, Ioga a dosbarthiadau celf i wylio adar a dawnsio llinell.

    Mae’r grant yn anelu i gefnogi gweithgareddau yn y gymuned i sefydlu neu ehangu grwpiau a chlybiau cinio, swper a brecwast sy’n cefnogi annibyniaeth ac iechyd a lles unigolion sy’n byw yn eu cymuned.

    Adnewyddwch eich casgliadau bin gwyrdd ar gyfer 2022/23 nawr – bydd y casgliadau’n dechrau ym mis Medi!

    Mae rhai sydd wedi derbyn y grant yn y gorffennol yn cynnwys Clwb Garddwyr Springfield a Garddwyr Cymunedol Owrtyn.

    Dywedodd Garddwyr Cymunedol Owrtyn, “Mae’r grant wedi ein helpu i ffurfio cysylltiadau cryf ar draws y gymuned gydag aelodau o amryw wahanol grwpiau pentrefi eraill a sefydliadau, e.e. pwyllgor neuadd bentref Owrtyn, Overton Oracle, cyngor cymuned Owrtyn, Sefydliad y Mercher Owrtyn, clwb bowlio Owrtyn, Lleng Brydeinig Owrtyn, Blues and Roots Festival, Ffair y Pentref a busnesau lleol.

    Mae wedi ein helpu i ddatblygu’r integreiddio yn y pentref rhwng pentrefwyr hŷn ac iau trwy sicrhau aelodau o amrywiaeth o oedrannau. Mae wedi ehangu, ymestyn a datblygu ymdeimlad o gymuned i bob un o’n haelodau, ac o ganlyniad, mae amgylchedd y pentref wedi’i wella a’i gynnal.”

    Yn dilyn llwyddiant y Grant Cynhwysiant Cymunedol ers 2012, rydym nawr yn ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn croesawu ceisiadau gan gynlluniau sy’n cefnogi oedolion hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu a/neu gorfforol a phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â gofalwyr anffurfiol.

    Ers 2012 mae’r Grant wedi helpu bron i gant o grwpiau yn y Fwrdeistref Sirol.

    Dywedodd Mr Phil Coops, “Mae cyllid o’r Grant Cynhwysiant Cymunedol wedi’i wneud yn bosibl i grwpiau bach gael offer a deunydd a sicrhau eu bod ar gael i’w defnyddio gan y gymuned gyfan mewn modd nad oedd ar gael o’r blaen. Gallwn nawr helpu’r aelodau hŷn yn yr ardal gofio eu blynyddoedd blaenorol a chofio’r gorffennol fyddant yn ei fwynhau.

    “Mae’r broses ar gyfer cael y grant yn eithaf syml i’w llywio ac roedd y staff bob amser ar gael i helpu pe bai yna unrhyw broblemau. Fel grŵp, maent wedi bod yn amhrisiadwy yn ein helpu i ymgymryd â’n cais llwyddiannus a phrosiect i’r gymuned.”

    Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r grantiau eisoes wedi cefnogi llawer o weithgareddau cymunedol ar draws Wrecsam a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu grŵp cymunedol neu sy’n dymuno datblygu grŵp presennol i gysylltu â’r tîm comisiynu.”

    Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer sesiynau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau.  Gwahoddir cynigion gan unigolion neu sefydliadau ar gyfer gweithgareddau megis:

    Cinio cwmni da
    Rhannu hobïau
    Dysgu sgiliau newydd
    Menter gymdeithasol / cwmni cydweithredol

    Gallwch wneud cais ar-lein

    Neu anfonwch e-bost at: CIG@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wyboda

    Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd”] TALU NAWR [/button]

  • Gwyliwch: Wythnos Gweithredu dros Ddementia (Cyfweliad Rosemarie a Pat)

    Gwyliwch: Wythnos Gweithredu dros Ddementia (Cyfweliad Rosemarie a Pat)

    Trawsgrifiad o Gyfweliad Rosemarie a Pat 

    LG:

    Helo bawb. Mae’n ail ddiwrnod Wythnos Weithredu Dementia ac mi gawsom ni ddechrau da i’r wythnos ddoe a dw i’n gwybod y bydd heddiw llawn cystal. Mae gennym ni ddwy westai arbennig heddiw. Dwbl trwbl a dwbl yr atebion gwych hefyd dw i’n siŵr. Yn ymuno â mi heddiw mae Rosemarie a Pat Williams sydd am sôn ychydig am eu hanes nhw gyda dementia. I’r rheiny ohonoch a fethodd y fideo ddoe, pwrpas y gyfres yma ydy gofyn i bump unigolyn gwahanol, neu chwech gyda’r merched hyfryd yma, yr un tri chwestiwn i ddangos, pan ydych chi’n cwrdd ag un person sy’n byw â dementia, eich bod ond yn cwrdd ag un person sy’n byw â dementia. Y ffordd yr ydw i’n gobeithio dangos hyn ydy trwy ddangos pa mor wahanol ydy atebion pawb yn ystod y cyfweliadau yma. Felly heb oedi mwy, diolch yn fawr i chi am ymuno â ni heddiw ferched. Y cwestiwn cyntaf ydy, soniwch wrthym ni ychydig amdanoch chi eich hunain. Sut ydych wedi dod i gysylltiad â dementia a beth yw eich stori?

    RW:

    Daeth y syniad o’r eglwys mewn gwirionedd. Eglwys Y Santes Anne ym Mharc Caia. Roedden nhw’n chwilio am rywun i gynrychioli llais pobl â dementia. Mae Pat wedi gweithio yn y gymuned erioed ac rydw i wedi gwneud tipyn yn y gymuned, felly penderfynodd y ddwy ohonom ni fynd draw i gyfarfod lle roedden nhw’n ceisio galluogi plwyfi i fod yn fwy cyfeillgar i ddementia.  Roedd Pat yn meddwl ei bod yn mynd yno i wneud te a helpu pobl.

    Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

    PW:

    Roeddwn i’n meddwl mai mynd i wirfoddoli i ddod yn ffrindiau gyda rhywun ag Alzheimer’s oeddwn i a mynd â nhw allan am goffi yn y prynhawn. Dyna beth oeddwn i’n ei feddwl. Ges i dipyn o sioc pan gyrhaeddon ni a chael gwybod bod yn rhaid i ni wneud prosiect.

     

    RW:

    Penderfynon ni y byddem yn gofyn i bobl eu hunain, felly fy wnaethom ni ofyn i bobl ym mhlwyf y Santes Anne beth oedden nhw’n feddwl fyddai’n help. Doedden ni ddim eisiau ei gyfyngu i’r eglwys yn unig, rydym am gynnwys y gymuned ehangach. Felly fe wnaethom ni wahodd grŵp arall o bobl draw i ddysgu mwy am beth oedd anghenion pobl. I bobl sy’n ofalwyr i bobl â dementia. I’r bobl eu hunain. Mi gawsom ni syniadau gwych yn cael eu cyflwyno ac un peth, fel y dywedodd Pat, yr oedd wir ei angen oedd canllaw syml. Mae llwyth o wybodaeth ar gael ond dydy o ddim wedi cael ei roi at ei gilydd, felly fe wnaethom ni gael grŵp o bobl at ei gilydd i ofyn iddyn nhw. Fe wnaethom ni ychydig o waith ymchwil am beth yr hoffai pobl ei weld mewn canllaw. Rhoddodd bobl yr atebion hynny i ni ac fe gawsom y syniad o’i alw yn “Atgofion” sy’n deitl addas iawn. Fe wnaethom ni gwrdd â phobl ddiddorol dros ben ar hyd y ffordd a roddodd wybodaeth i ni. Ar yr ugeinfed, mi fyddwn ni’n lansio “Atgofion”. Rydym ni’n creu canllaw lleol syml ac rwyt ti’n iawn Luke, rydym ni’n wedi sylweddoli nad ydy dementia yn diffinio pobl. Mae pobl yn unigolion ac mae profiadau pob unigolyn i gyd yn amrywiol ac yn wahanol. Trwy gynnwys pobl a chytuno nad yw dementia yn diffinio unrhyw un, mae rhywfaint o lawenydd i’w gael mewn bywyd. Y man cychwyn yw lansio pamffledyn “Atgofion” a fydd yn mynd i Wrecsam.

     

    PW:

    O a) Sut mae rhywun yn gwybod eu bod yn dioddef o ddementia? I gael mynediad at asesiad ac yna gwahanol wasanaethau a allai fod o gymorth i’r person â dementia. Hefyd, i’r gofalwyr. Yn arbennig y gofalwyr, oherwydd maen nhw dan bwysau anferthol wrth ofalu am rywun â dementia. Mae’n mynd â’u hamser ac mae’n waith gwirioneddol flinedig. Yn enwedig os nad ydyn nhw’n cael unrhyw ofal seibiant chwaith. Cafodd hynny ei grybwyll llawer yn y gwasanaethau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – gofal seibiant. Dydyn nhw ddim yn ei gael o. Mae angen gofal seibiant ar bobl, hyd yn oed os yw’n golygu mynd i ganolfan ddydd i roi amser i’r gofalwr fynd i siopa neu gael gwneud eu gwallt neu rywbeth. Hyd yn oed clwb cinio un diwrnod yr wythnos.

     

    RW:

    Sori Luke. Rydym yn edrych ar gael y canllaw yma, a fydd yn cael ei lansio ar yr ugeinfed. Yna ar ôl “Atgofion”, bydd prosiect camau nesaf lle rydym yn mynd i ofyn i bobl ddod ymlaen eto mewn ffordd sy’n sicrhau cynhwysiad cymdeithasol, i gael pobl at ei gilydd i oresgyn ynysrwydd.  I chwalu rhai o’r mythau tebyg i, wel, “’dydy pobl ddim yn eich ‘nabod chi pan ewch chi  i’w gweld nhw”. Wel, mae pobl yn teimlo’n dda iawn ar ôl i chi ymweld â nhw fel y gwyddoch chi fel llysgennad. Rydym ni’n ceisio cael gwared ar rywfaint o’r stigma sydd o’i gwmpas. Mae llawer o stigma yn gysylltiedig â dementia ac iechyd meddwl. Ond trwy fod yn fwy agored amdano, trwy wrando ar beth mae pobl yn ei ddweud a fyddai’n eu helpu, gallwn ni ddatblygu cynllun o bethau i’w gwneud dros y deuddeng mis nesaf mewn gwirionedd.

     

    LG:

    Mae hynny’n wych. Mae’r prosiect yma yn arbennig. Soniodd fy nghydweithiwr, Delyth, wrthyf i ychydig am beth oeddech chi’ch dwy yn ei wneud, ac mae hwnnw’n rheswm arall pam yr ydw i mor falch bod y ddwy ohonoch wedi gallu ymuno â mi heddiw. Oherwydd i bobl fel chi, efallai y bydd y cwestiwn yma ychydig bach yn haws i chi. Yn amlwg, rydych chi’n rhan o hyn, ond fel Cefnogwr Cyfeillion Dementia, dw i’n mynd allan i gynnal sesiynau ymwybyddiaeth. Dw i’n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd fel Wythnos Weithredu Dementia ac rydych chi o’ch dwy yn mynd allan gyda’r syniad gwych yma am bamffledyn. Gyda hyn i gyd yn digwydd, dw i’n meddwl y ca’ i ateb da gennych chi i’r cwestiwn yma, pa mor bwysig ydych chi’n teimlo ydy’r pethau fel y rhai yr ydym ni i gyd yn eu gwneud, ac sy’n digwydd yn y gymuned, pa mor hanfodol ydy bod pethau fel hyn yn digwydd?

     

    RW:

    Dw i’n meddwl ei fod o’n bwysig.

     

    PW:

    Mae’n rhaid iddo fod, oherwydd mae cymaint mwy o bobl yn dioddef o ddementia rŵan. Mae cynnydd yn y bobl sy’n dioddef o ddementia ac mae’n mynd i waethygu gan fod pobl yn byw yn hirach.

     

    RW:

    Mae’n digwydd i ni gyd. Does dim pwynt edrych dros ein hysgwydd a dweud “Hi drws nesaf, neu fo i lawr y ffordd”. Os meddyliwch chi am y peth, gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, ac wrth edrych ar y ddemograffeg, mae’n digwydd i ni gyd. Rydym i gyd yn gynwysedig. Rydym i gyd yn ‘nabod rhywun, mae gennym i gyd ffrind neu berthynas sy’n cael ei effeithio gan ddementia, felly ein pwrpas ni mewn gwirionedd ydy cefnogi pobl i osgoi arwyddion o ddementia trwy fyw bywydau llesol. Rydym ni’n gobeithio y bydd ein prosiect, wyddoch chi, mae llawer o bethau’n digwydd, llawer o brosiectau eraill. Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y gallwn ei gynnig a, gobeithio, y bydd pobl eraill yn dewis cymryd rhan os liciwch chi. Rydym ni eisoes wedi cael cynnig gwirfoddolwyr i ddod draw i wneud pethau. Rydym ni’n gwybod fod cerddoriaeth yn codi ysbryd pobl. Efallai i chi weld y côr ar y teledu – y côr dementia. Roedd hwnnw’n wych.

     

    LG:

    Gyda Vicky McClure. Oedd, roedd o’n wych.

     

    RW:

    Pwy a ŵyr? Efallai y cawn ni gôr dementia yn Wrecsam, pam ddim?

     

    LG:

    Does dim rheswm dros beidio cael un.

     

    RW:

    Nac oes. Wyddoch chi, mae llawer o bobl â llawer o ddoniau i’w rhannu, gan gynnwys pobl â dementia. Mae gan bobl lawer o ddoniau ac mae cerddoriaeth yn un ohonyn nhw. Dim ond un ffordd yw hon, mae llawer o ffyrdd eraill i gyffwrdd â phobl felly rydym yn dysgu gyda’n gilydd. Mae llawer o bethau i ni gyd eu dysgu.

     

    LG:

    Yn bendant.

     

    PW:

    Cynlluniau rhwng cenedlaethau, siarad gyda phlant ysgol am eu profiadau o’r rhyfel neu siarad am eu profiadau bywyd a gall hen bobl wneud hynny’n dda. Hyd yn oed os ydyn nhw’n dioddef o ddementia, maen nhw’n dal i gofio pethau felly. Maen nhw’n trosglwyddo eu gwybodaeth ymlaen hefyd i bobl iau.

     

    LG:

    Yn bendant, ac mae hynny’n arwain at un o’r prif negeseuon – sef bod mwy i’r person na’r dementia. Yn union fel mae’r ddwy ohonoch chi newydd ei ddweud, efallai bod y bobl yma wedi brwydro mewn rhyfel. Mae ganddyn nhw stori i’w dweud y tu ôl i’r clefyd.  Nid y clefyd sy’n gwneud yr unigolyn. Rydw i wedi siarad gydag un o’r gofalwyr yn y gymuned ac fe ddywedodd o’r un fath. Dydy pobl ddim yn siarad gyda’r person, maen nhw’n siarad gyda’r clefyd ac nid dyna ddylem ni ei wneud. Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i wneud pethau fel hyn ac yn ystod y sesiynau yma, rydym ni’n cael pobl i feddwl am y camau positif i’w cymryd wrth ddod ar draws rhywun sy’n byw gyda dementia i wneud eu bywydau ychydig yn haws. I’r bobl sy’n gwrando, beth fyddech chi’n ei awgrymu fel camau positif?

     

    RW:

    Gwrando, dw i’n meddwl. Fel y dywedais ti Luke, mae’n ymddangos nad ydy pobl yn gwrando ar beth sy’n mynd ymlaen felly dydyn nhw ddim yn rhyngweithio yn iawn, ac ambell waith mae’n nhw’n siarad at bobl yn hytrach na gwrando yn ofalus iawn. Fel y dywedaist ti, mae gan bawb stori i’w hadrodd ac mi allwn ni gysylltu â hanes y person hwnnw. Mi wnes i ymweld â rhywun yn ddiweddar oedd yn ffermwr, Ken, sydd wedi cael bywyd cyfoethog gyda’i fferm a’i deulu a’i gymuned ac mae ganddo fo lawer ar ôl i’w roi. Rydym ni’n meddwl am bobl o safbwynt corfforol a meddyliol, ond mae angen meddwl amdanyn nhw o safbwynt ysbrydol hefyd, y tic yna sydd y tu mewn i ni gyd ac fe oleuodd ei lygaid i fyny. Roedd yn wên i gyd pan oedd rhywun yn cysylltu gyda fo ar lefel ddynol. Gwrando, mae’n rhywbeth y gallwn ni i gyd ei wneud. Mae am ddim. Dim ond amser ydy o.

     

    PW:

    Dw i’n meddwl hefyd bod angen i deuluoedd beidio dadlau gyda’r person â dementia. Dw i wedi bod i sawl tŷ ac mae’r person hŷn wedi dweud “Dw i eisiau mynd i’r fan a fan”, “O, na fedri di ddim mynd, dwyt ti ddim wedi bod yno ers blynyddoedd” yn hytrach na chytuno a dweud “O ie, beth am fynd yno nes ymlaen. Bwyta dy swper yn gyntaf ac mi awn ni yno wedyn”, oherwydd mi fyddan nhw wedi anghofio amdano wedyn.  Peidiwch â dadlau gyda nhw, oherwydd mae hynny’n aflonyddu eu meddyliau nhw ac mae’n gwneud i chi fod yn aflonyddgar hefyd. Nid yw’n llesol i’r naill na’r llall ohonoch.

     

    LG:

    Na, mae’r ddau bwynt yna yn rhai pwysig a diolch am eu rhannu. Diolch i chi am eich amser heddiw. Mae wedi bod yn wych. Mae’n rhaid i mi gael dymuno pob lwc i chi gyda’r pamffledyn. Os oes angen gwirfoddolwr arnoch chi, rhowch waedd ac mi dorchaf fy llewys i helpu.

    RW:

    Mi wna i roi dy enw i lawr Luke.

     

    LG:

    Rho fy enw i lawr, mi fydda i’n siŵr o dorchi fy llewys. Mi fyddwn i wrth fy modd yn dod i’ch helpu chi. Foneddigion a boneddigesau, rydw i wedi cael dwy westai ardderchog heddiw fel yr ydych chi wedi clywed drosoch eich hunain, ac mae hyn yn helpu’r hyn yr ydym yn ei wneud yr wythnos yma. Diolch o galon i chi Rosemarie a Pat am eich amser heddiw a diolch i chi am wrando. Daliwch ati i wisgo’ch bathodyn Cyfeillion Dementia gyda balchder ac fe welwn ni chi y tro nesaf. Diolch yn fawr bawb. Diolch i chi’ch dwy.

     

    RW:

    Diolch. Cymerwch ofal, hwyl!

    Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]