Awdur: Ollie Williams

  • Dysgu’r iaith yn rhad ac am ddim

    Dysgu’r iaith yn rhad ac am ddim

    Mae dysgu iaith newydd yn rhywbeth y mae llawer ohonom yn awyddus i’w wneud er mwyn ehangu ein gorwelion a hybu ein sgiliau.

    Gall fod yn anodd dod o hyd i’r amser a’r arian am hyn gyda chymaint o bethau eraill yn digwydd yn ein bywydau. Fodd bynnag, mae yno ffordd newydd sbon i bobl feithrin y sgiliau ieithyddol sydd eu hangen arnynt drwy gael gwersi Cymraeg anffurfiol bob wythnos yn rhad ac am ddim.

    Yn Nhŷ Pawb bydd dysgwyr yn medru rhoi cychwyn ar feistroli’r Gymraeg heb dalu’r un geiniog, gyda gwersi a gweithgareddau bob dydd Sul rhwng 10am-12pm a 1pm-3pm.

    Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda gwers anffurfiol am awr i ddysgu’r hanfodion, ac wedyn bydd awr i ymlacio a chwarae gemau, neu gael llymaid bach yn Blank Canvas, wrth siarad Cymraeg a gwrando ar bobl eraill yn siarad.

    PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

    Mae bod yn amlieithog yn gaffaeliad mawr, ac mae siarad Cymraeg yng Nghymru’n fanteisiol o ran gwaith a chyfleoedd, a meithrin dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Wrecsam a’r genedl gyfan.

    Lansiodd Llywodraeth Cymru ei ymgyrch ‘Cymraeg 2050’ yn ddiweddar gyda’r gobaith o weld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ymhen oddeutu deng mlynedd ar hugain. Nid oes dim i atal pobl rhag dysgu’r iaith ryfeddol hon a gwella eu sgiliau. Ceir tystiolaeth fod pobl ddwyieithog yn aml yn well am ddatrys problemau, amldasgio a gwneud penderfyniadau, ac mae mwy a mwy o bobl yn dysgu Cymraeg – dim ond rhai o blith llu o resymau dros roi cynnig arni!

    Cynhelir y sesiwn cyntaf ddydd Sul, Medi 2 a chynhelir un bob wythnos wedi hynny – os oes arnoch angen mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292144 neu e-bostiwch TyPawb@wrexham.gov.uk.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

  • Ai dyma’r siop mwyaf ecogyfeillgar yn Wrecsam?

    Ai dyma’r siop mwyaf ecogyfeillgar yn Wrecsam?

    Yn y cyfnod diweddar, bu’n rhaid i fusnesau feddwl am ffyrdd newydd o weithredu mewn modd mwy ecogyfeillgar, ond mae un siop goffi yn Wrecsam yn gadael cwmnïau eraill llawer mwy ymhell ar eu holau gyda dull arloesol.

    Symudodd Blank Canvas i hwb celfyddydau gwerth miliynau o bunnoedd Wrecsam yn Ebrill, wedi bod â safle blaenorol yng ngorsaf bysiau’r dref. Credai’r cyd-berchennog, Andy Gallanders, fod yr uned wedi cyflawni ei photensial. Bellach, yn Tŷ Pawb, maent yn un o’r prosiectau newydd mwyaf cyffrous yng Ngogledd Cymru.

    “Mae wedi bod yn dda iawn. Mae’n deg dweud fod y safle newydd yn cael ei draed dano yn ara deg.

    “Rydan ni wedi bod yn gefnogol o’r prosiect ers ei gyhoeddi gwpl o flynyddoedd yn ôl, ac roedden ni’n gwybod ein bod ni’n awyddus i fod yn rhan ohono. Roedden ni’n ymwybodol y byddai heriau, ond ar yr un pryd rydan ni’n gwybod mai dyma’r math o gyfleuster y mae ar Wrecsam ei angen”.

    Mae sawl lle i brynu coffi ar wasgar ar draws y dref – yn fusnesau bychain, lleol neu yn siopau cadwyn cenedlaethol – ond mae Blank Canvas yn sicr wedi mynd at eu gwreiddiau moesegol a gwneud hanes yn y broses gyda’u cwpanau coffi sy’n compostio’n llwyr. Mae’r hanes wedi cyrraedd penawdau cenedlaethol yn y misoedd diwethaf a bellach mae’r bois o Dŷ Pawb yn arwain y ffordd wrth warchod y blaned.

    PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

    “Hyd y gwyddwn i, ni ydi’r unig siop goffi yn Wrecsam gyfan i gynnig cwpan a chaead sydd ill dau yn compostio gant y cant” datgelodd Andy.

    “Gyda llawer o gwpanau ecogyfeillgar, dim ond un neu ddwy ffatri yn y DU sy’n eu prosesu, ac mae’r tebygolrwydd y caiff y gwpan yna ei danfon i’r lle cywir yn filiwn i un. Gyda’n cwpanau ni, o leia eich bod chi’n gwybod – o’i roi mewn bin – y bydd yn pydru, felly unwaith yr oeddem ni’n gwybod fod y cwpanau yma yn compostio, fe ddewision ni nhw dros frandiau eraill y gellir eu hailgylchu ond sy’n dal i orfod mynd drwy’r un broses.”

    Nid yn unig y broblem gyda chwpanau – a fydd hefyd yn cael eu defnyddio yn eu siop arall, Bank Street Coffee, o’r wythnos nesaf ymlaen – y mae Blank Canvas yn ceisio cael gwared arni. Ers peth amser, maent hefyd wedi bod yn cymryd camau i wneud yn siŵr eu bod yn cael y defnydd gorau o bopeth, gan gynnwys eu hen ffa coffi a’u ffynhonnell o laeth.

    “Mae’r llaeth yn dod o Tomlinson’s ym mhentre’r Mwynglawdd, ac mae gennym ni berthynas waith wych â’r tîm yn fan’no. Mi wnaethom ni ddewis y llaeth yna am ein bod ni’n awyddus i’w gael mewn cydau yn hytrach na’r cynhwysyddion plastig, yn bennaf am ei fod o’n golygu llai o sbwriel ac felly llai o dirlenwi.

    “Rydan ni’n rhoi’r gwaddol coffi i ffwrdd am ddim am fod maethynnau yn dal i fod ynddo. Mi wnaethom ni ddod at ein gilydd un diwrnod a gofyn – pam ein bod ni’n gwneud yr holl bethau yma pan y gallwn ni gymryd camau ychwanegol? Ers gwneud hynny mae’n cwsmeriaid ni wedi gweld gwahaniaeth.

    Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

    “Rydan ni’n cael ein coffi o rostfa o’r enw Neighbourhood. Tydyn nhw ddim yn fusnes Masnach Deg, ond maen nhw’n talu prisiau gwell na Masnach Deg yn uniongyrchol i ffermwyr. Dyna un o’r rhesymau dros eu dewis nhw”.

    Mae Andy a’i bartner busnes, Phil, ill dau yn falch o fod yn rhan o’r gymuned yn Wrecsam, ac maent yn ymwneud â llawer o ddigwyddiadau yn y dref. Maent yn ymwybodol iawn o fanteision bod mewn lleoliad mor arbennig. Mae gan Ogledd Cymru lu o opsiynau a chyfleoedd, rhywbeth y maent yn hapus iawn i fod yn ffynnu yn ei ganol.

    “Rydan ni mor lwcus yng Ngogledd Cymru fod gennym ni, o fewn deng neu ugain munud, y gorau o ddau fyd – y tiroedd amaethyddol hyfryd, ac yna Lerpwl a Manceinion ar yr ochr arall. Mae hynny’n golygu y gallwch chi gael gafael ar gynnyrch gwych yn hawdd iawn.

    “Rydan ni hefyd yn cael ein siocled poeth gan hogyn sydd wrthi yn yr Eglwys Wen – eto, lawr y ffordd. Mae o’n gynnyrch gwych ac rydan ni’n gwybod gan bwy mae o’n dod, ac yn nabod y teulu. Rydach chi wir yn teimlo eich bod chi’n rhan o’r gadwyn fawr yma”.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

  • 5 ffordd rhwydd o ddechrau defnyddio’r cwmwl ar unwaith

    5 ffordd rhwydd o ddechrau defnyddio’r cwmwl ar unwaith

    Efallai y byddwch yn synnu i ddysgu eich bod eisoes yn defnyddio’r Cwmwl mewn rhyw ffordd yn eich busnes, ac efallai’n gwneud hynny’n anfwriadol.

    Os ydych chi’n defnyddio e-bost, y cyfryngau cymdeithasol, marchnata e-bost neu’n storio ffeiliau ar-lein… rydych chi eisoes yn defnyddio’r Cwmwl.

    Mae’r cwmwl yn anferth ac mae’n gallu bod yn frawychus i geisio ei ddeall. Fodd bynnag, does dim angen iddo fod mor gymhleth â hynny. Gall y cwmwl (yn ei holl ffurfiau) gefnogi busnesau o unrhyw faint a gall gynnig manteision gwirioneddol heb wneud newidiadau mawr ym mhrosesau eich busnes.

    Dyma rai ffyrdd syml y gallwch ddefnyddio’r cwmwl i arbed arian i’ch cwmni, gwella diogelwch ar-lein a chynyddu cynhyrchiant gweithwyr.

    Copi wrth gefn o’ch data

    Cyn i chi wneud unrhyw newidiadau i brosesau eich busnes, mae’n werth ystyried sut gall y cwmwl helpu i ddiogelu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn barod. Gall defnyddio’r cwmwl i gadw copi wrth gefn o’ch data helpu os yw eich system yn methu neu os oes llifogydd yn y swyddfa, er enghraifft. Mae cadw copi wrth gefn ar y cwmwl yn rhoi tawelwch meddwl bod gennych ffordd ddiogel a rhwydd o gadw eich busnes i fynd, hyd yn oed os oes trychineb.

    Gweithio o unrhyw le

    Does dim angen swyddfa foethus neu fan gweithio personol arnoch i gynnal busnes effeithiol. Mae defnyddio lle storio ar-lein, fel Dropbox neu Google Cloud Storage, yn golygu bod eich ffeiliau a’ch dogfennau wedi eu storio yn y cwmwl, yn hytrach na’n lleol ar gyfrifiadur penodol.

    CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .

    Mae’r cwmwl yn eich galluogi i weithio pan fydd yr awen yn eich taro neu pan fo angen gweithio’n hyblyg y tu hwnt i’r oriau swyddfa 9 tan 5 arferol. P’un ai os ydych chi’n teithio i gyfarfod, bod angen ffeiliau arnoch ar gyfer cyfarfod munud olaf gyda chleient, neu pan fydd staff yn gweithio gartref, mae’r cwmwl yna i chi. Mae’n hawdd cael mynediad ato a gall pob aelod o staff weithio ar yr un dudalen drwy gysoni’n awtomatig.

    Cynlluniau twf hyblyg

    Er bod cynllunio ar gyfer y dyfodol yn bwysig, gall fod yn anodd mesur pa mor gyflym fydd y busnes yn tyfu. Mae ceisio amcangyfrif graddfa’r twf a chydbwyso eich uchelgais gyda’ch gallu yn nhermau amser, gofod ac adnoddau yn gallu bod yn anodd. Gall y cwmwl helpu i leihau’r pwysau yma trwy roi mynediad at adnoddau a llwyfannau o feintiau gwahanol (i gynyddu neu i leihau yn ôl eich anghenion) heb unrhyw fuddsoddiad o flaen llaw.

    Symleiddio rheoli prosiectau

    Os ydych chi’n cael trafferth rheoli mwy nag un prosiect neu gadw llygad ar lawer o dasgau gwahanol neu statws amserlenni gweithwyr gwahanol, yna mae llwyfannau rheoli prosiectau’r cwmwl yn cynnig ffordd wych o gadw’r holl wybodaeth hon mewn un lle sy’n hawdd i’w reoli. Mae llwyfannau fel Basecamp yn ffordd wych o wella cydweithrediad staff, cadw golwg ar dasgau, a helpu chi i gyflawni eich targedau.

    Integreiddio eich llwyfannau

    Mae’r byd yn symud fwyfwy at y cwmwl, felly nawr yw’r amser delfrydol i fynd i’r afael â normaleiddio’ch defnydd o’r cwmwl yn eich busnes. Efallai y cewch eich synnu gan y gwahanol adnoddau a systemau y gallwch chi eu hintegreiddio i arbed amser wrth gyfuno gwahanol brosesau. Sylweddolodd LilBits, sy’n fusnes adnoddau synhwyrol, y gallen nhw arbed “oriau ac oriau” o waith trwy gysylltu eu systemau MailChimp, Shopify a CRM yn y cwmwl. Faint o amser allech chi ei arbed trwy gyfuno rhai o’ch systemau?

    Os hoffech chi ragor o gyngor i helpu eich busnes i symud i’r cwmwl, cofrestrwch gyda gwasanaethau Cyflymu Cymru i Fusnes er mwyn cael mynediad at ddigwyddiadau rhad ac am ddim ac arweiniad un i un gan ein Cynghorydd Busnes Digidol.

    Gan Cyflymu Cymru i Fusnesai.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_61″] DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB [/button]

  • Y ffordd rhad ac am ddim orau i roi hwb i’ch busnes

    Y ffordd rhad ac am ddim orau i roi hwb i’ch busnes

    Mae 51% o fusnesau yn tyfu’n gyflymach gyda gwefan, felly pam nad ydych chi ar-lein eto?

    Mae’n anodd dadlau gyda’r ffeithiau, yn 2018 os ydych am roi hwb i’ch busnes am gost mor isel ag sy’n bosibl, mae angen i chi fod ar-lein.

    Fodd bynnag, i rai, gall hon fod yn dasg frawychus neu heriol, neu efallai nad ydych yn gwybod lle i ddechrau! Yn ffodus, mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yma i’ch helpu.

    Mae eu gweithdy ‘Llwyddo gyda Gwefannau’ yn parhau drwy Ogledd Cymru a bydd yn dod i Wrecsam fis nesaf.

    Byddwch yn dysgu gwybodaeth hanfodol gan y siaradwyr profiadol, o ddylunio gwefan a fydd yn cynhyrchu gwerthiant, ysgrifennu cynnwys sy’n sefyll allan ac awgrymiadau SEO fel bod eich gwefan yn ymddangos yn uchel mewn peiriannau chwilio.

    PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

     

    “Gweithdy Rhagorol”

    Gan fod y gweithdy wedi rhedeg ers peth amser bellach, mae adborth da wedi dod gan y rhai mae wedi’u helpu, gydag un sylw yn dweud bod y cwrs yn “rhoi mewnwelediad da ac roedd yr hyfforddwr yn barod i helpu”. Gallwch weld drosoch eich hun faint gallwch fanteisio, yn Wrecsam ar 27 Mehefin ym Mhrifysgol Glyndŵr.

    Felly os hoffech fanteisio a lansio eich busnes i’r lefel nesaf drwy fynd amdani ar-lein, cysylltwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau neu cliciwch yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]

  • Hysbysebion Hoci Wrecsam sy’n Anelu at Lwyddiant y Gymanwlad

    Hysbysebion Hoci Wrecsam sy’n Anelu at Lwyddiant y Gymanwlad

    Dros y blynyddoedd mae Wrecsam wedi meithrin rhai o bencampwyr chwaraeon gorau Cymru, ac nid yw 2018 yn wahanol.

    Yr wythnos hon mae Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal ar Arfordir Aur Awstralia, ac mae yna ddau gystadleuydd o Wrecsam yn cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd.

    Bydd yr hen law, Xenna Hughes, a’r newydd-ddyfodiad, Izzie Howell, yn ceisio gwneud eu marc yr ochr arall i’r byd ar ol enill yn erbyn India yn ei gem cyntaf, 3-2.

    “Mae’n deimlad arbennig iawn ac mae’n bleser gen i gynrychioli Wrecsam”

    17 mlwydd oed yw Izzie Howell ac mi fydd hi’n cystadlu dros Gymru yn y gemau am y tro cyntaf. Wedi ei geni a’i magu yn Wrecsam, mae gan Izzie ddyfodol disglair o’i blaen yn chwarae hoci, ar ôl treulio’r tair blynedd ddiwethaf yn Neston.

    Meddai Izzie: “Ymunais â Chlwb Hoci Wrecsam pan oeddwn i’n 12 oed, a bu i’r clwb fy nghefnogi i hyfforddi a chwarae dan yr adrannau iau a’r adran merched.

    “Pan oeddwn i’n rhan o’r timau iau rydw i’n cofio mynd i nifer o dwrnameintiau a chystadlaethau bychain; roeddwn i hefyd yn rhan o Dîm Gogledd Cymru am flynyddoedd lawer.

    “Roedd chwarae dan yr adrannau oed gwahanol a’r timau rhanbarthol yn fy nghadw i’n brysur, ond roedd hefyd yn gyfle i mi ddatblygu ac rydw i’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd hynny.”

    Gall bywyd seren chwaraeon ymddangos yn hudolus ar yr olwg gyntaf, ond mae’r sêr hoci yma wedi gweithio’n galed iawn ac wedi aberthu llawer er mwyn cyrraedd yr Arfordir Aur.

    Gyda sesiynau hyfforddi yn ne Cymru a theithiau hir pob wythnos er mwyn troedio’r cae, dyma rai o athletwyr mwyaf ymroddedig y wlad.

    “Mae’n bleser gen i gynrychioli Wrecsam gan fod llawer o bobl yr ardal wedi fy nghefnogi a dal yn fy nghefnogi. Hoffaf wneud hyn er eu mwyn nhw a dangos bod gwaith caled, er gwaethaf gorfod teithio ar y trên i Gaerdydd yn aml, yn talu ar ei ganfed.

    “Mae fy ngobeithion ar gyfer y gemau yn eithaf realistig; hoffaf chwarae’n dda, dysgu cymaint â phosibl yn dactegol ac ennill cymaint o brofiad rhyngwladol â phosibl.

    “Rydw i’n ceisio canolbwyntio ar beidio â chael fy llethu gan y profiad a chwarae’r gorau y gallaf, gan gyfrannu at y tîm mewn ffordd gadarnhaol”.

    Mae’n bosibl y bydd Izzie yn wynebu, Malaysia, De Affrica neu Lloegr yn ei gêm gyntaf dros ei gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad ar ol chwarae ei gem cyntaf yn erbyn India ar Dydd Iau.

    Ond, beth bynnag y canlyniad, mi fydd yn gyflawniad gwych i ferch ifanc o Wrecsam a fydd yn cychwyn yn y brifysgol ym mis Medi ac yn parhau â’i gyrfa.

    “Rydw i’n gorfod atgoffa fy hun i ymgolli yn y profiad a mwynhau pob eiliad”

    Mae saith mlynedd ers i Xenna, sydd bellach yn 25 mlwydd oed, gystadlu dros ei gwlad am y tro cyntaf, a dyma fydd yr ail dro iddi gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ac uchafbwynt ei gyrfa.

    Meddai Xenna: “Digon posib mai Gemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur fydd uchafbwynt fy ngyrfa. Er mai’r rhain yw’r ail gemau i mi gymryd rhan ynddyn nhw rydw i’n cofio clywed yng Nglasgow 2014 y bydd y gemau nesaf yn cael eu cynnal yn Awstralia, a bu i mi osod nod o gyrraedd yno gyda thîm Cymru.

    “Rydw i wedi bod yn gweithio tuag at y nod yma ers pedair blynedd, ac mae’r holl waith caled a’r ymarfer wedi bod yn werth y drafferth.”

    Ar ôl cystadlu yng Nglasgow, a dod yn 9fed gan guro Trinidad a Thobago, mae Xenna yn gobeithio gwneud yn well, gan ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen ei wneud.

    “Fy ngobeithion ar gyfer y gemau yw canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd y funud ohono drwy sicrhau fy mod yn chwarae’r gorau y gallaf a chadw at y cynllun.

    “Rydw i’n gorfod atgoffa fy hun i ymgolli yn y profiad a mwynhau pob eiliad, gan ei fod yn gyfle anhygoel i ni ddangos i wledydd eraill yr hyn rydym ni’n gallu ei wneud, a deall pa mor bell yr ydym ni wedi dod fel tîm.

    Mae Cymru wedi dod o bell, a Xenna hefyd. Mae Xenna yn ferch i’r arwr pêl-droed, Mark Hughes, ond mae hi wedi llwyddo i ymryddhau o’r label hwnnw a chreu enw iddi hi ei hun fel arwres hoci ac ysbrydoliaeth i ferched ifanc Wrecsam.

    “Ar ddechrau fy ngyrfa hoci cefais wahoddiad i ymarfer unwaith yr wythnos yn Wrecsam gyda bechgyn a merched eraill – roedden nhw’n chwaraewyr rhyngwladol ac roeddwn i wedi synnu at gae hoci Wrecsam gan fy mod wedi arfer efo caeau tywod. Roeddwn i wrth fy modd yn ymarfer yno oherwydd fy mod i’n cael aros yn nhŷ nain a taid”.

    “Rydw i wrth fy modd yn cael cynrychioli fy ngwald fel chwaraewr o ogledd Cymru, gan mai dim ond llond llaw ohonom ni sy’n dod o’r gogledd. Rydw i’n falch o gael cynrychioli bro fy mebyd yn ogystal â’m gwlad.”

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Wrecsam i wneud cais am Gwpan y Byd

    Wrecsam i wneud cais am Gwpan y Byd

    Ar y cyd â’n partneriaid, rydym ar fin gwneud cais i ddod ag athletwyr gorau byd i’r ardal, wrth i ni drefnu i ddod â Chwpan Rygbi Cynghrair y Byd 2021 i Wrecsam.

    Ar ôl derbyn caniatâd gan bob parti i fwrw ymlaen, fe allai’r Cae Ras ar Ffordd yr Wyddgrug fod yn gartref unwaith eto i’r gemau mwyaf yn y gystadleuaeth fawreddog sydd â chynulleidfa ar hyd a lled y byd.

    Byddwn yn llunio’r cais ar y cyd â Chlwb Pêl-droed Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr ac fe fydd Crusaders Gogledd Cymru, Rygbi Cymru, Ian Lucas AS, Lesley Griffiths AC, gwesty’r Ramada Plaza a Grosvenor Pulford yn cefnogi’r cais.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Mae’r Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden, y Cynghorydd Andrew Atkinson wedi canmol y cais “Dwi’n credu ei fod yn syniad ardderchog dod â digwyddiad chwaraeon gwych fel hyn i Wrecsam. Fe gawsom achlysur gwych a chafwyd cefnogaeth gref i’r digwyddiad a gynhaliwyd yma yn 2013, ac rwy’n gobeithio gweld Rygbi’r Gynghrair yn ôl yn yr ardal.

    “Fe fyddai’r manteision economaidd a chwaraeon yn hwb mawr i’r sir a dwi’n credu y gallai adael gwaddol mawr.”

    Fe ddefnyddiwyd y Cae Ras yn ystod twrnamaint 2013 pan chwaraewyd gêm grŵp a rownd yr wythnos olaf yno a chafodd y chwaraeon lawer o sylw yn yr ardal. Yn y gêm honno fe chwaraeodd Cymru yn erbyn yr UDA, ac yna fe chwaraeodd yr UDA yn erbyn y cewri o Awstralia o flaen torf o dros 5,000 o gefnogwyr.

    Gallai fod yn ŵyl wych o rygbi gyda thwristiaid yn heidio i’r ardal yn eu cannoedd a miloedd, fe allai fod yn hwb enfawr i’r economi leol ac fe allai uno’r gymuned trwy chwaraeon. Fe wyliodd dros 18miliwn o bobl dwrnamaint 2013 ar draws y byd ac fe roddwyd Wrecsam ar fap Rygbi’r Gynghrair.

    Rhagor o newyddion am y cais i ddod yn fuan.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Sut i enill hefo OPC (SEO)

    Sut i enill hefo OPC (SEO)

    Nid yw 75% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yn sgrolio heibio tudalen gyntaf chwiliad, felly pam fod risg yn colli allan?

    Un o’r rhannau pwysicaf o fod ar-lein yw’r busnes mewn gwirionedd, y mwyaf gweladwy ydych chi a’r uchaf rydych chi’n ymddangos yn eich peiriant chwilio, y mwyaf o draffig fyddwch chi’n ei gynhyrchu i’r safle.

    Mae hon yn rhan hollbwysig o’ch strategaeth farchnata ond i lawer – yn enwedig y rhai sy’n ansicr wrth lansio eu hunain ar-lein – gall hyn ymddangos yn frawychus.

    Fodd bynnag, ym mis Ebrill gallwch ymunwch â gweithdy Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cyngor ymarferol ac arbenigol wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i ddeall sut i ddefnyddio SEO i roi eich busnes ar frig canlyniadau peiriant chwilion fyma yn Wrecsam.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

    Bydd y gweithdy hwn yn rhoi dealltwriaeth i chi o’r ffordd mae peiriannau chwilio yn graddio eich tudalennau gwe, pam mae hi mor bwysig i chi ddefnyddio arferion gorau SEO, a sut i weithredu cynllun SEO gan ddefnyddio technegau ar y dudalen ac oddi arni.

    Byddwch yn dysgu:

    • Sut mae peiriannau chwilio yn graddio eich gwefan
    • Offer sylfaenol i fonitro a gwella eich gweithgareddau SEO
    • Sut i nodi geiriau allweddol/ymadroddion gorau ar gyfer eich busnes
    • Sut i greu cynllun gweithredu SEO a strategaeth hirdymor
    • Awgrymiadau a thechnegau effeithiol ynghylch gwella eich SE
    • Sut i fesur beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio.

    Felly manteisiwch ar y cyfle gwych hwn a ddarperir gan y rhai sy’n gwybod i gael y gorau o’ch presenoldeb ar-lein a datgloi’r potensial di-ben.

    Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Amgylcheddwyr blaengar yn lansio digwyddiad rhwydweithio

    Amgylcheddwyr blaengar yn lansio digwyddiad rhwydweithio

    Lansiodd yr Athro Chris Baines, un o amgylcheddwyr annibynnol mwyaf blaenllaw’r DU ac Is-Arlywydd yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, Rwydwaith Busnes Amgylchedd newydd i Wrecsam ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam ar 9 Chwefror.

    Gyda chynulleidfa o dros 50 o bobl o dros 30 sefydliad ar draws ardal Wrecsam, amlinellodd yr Athro Baines ei achos busnes ar gyfer gwarchod natur ar ein stepen drws.

    Dywedodd: “Mae’r Ystâd Ddiwydiannol yn un o’r rhai mwyaf yn Ewrop, ond mae hefyd yn cynnwys rhwydwaith pwysig o gynefinoedd bywyd gwyllt sy’n cefnogi ystod eang o anifeiliaid.

    “Mae rhywogaethau pwysig sydd i’w canfod yma yn cynnwys llygoden bengron y dŵr, y dyfrgi, rhywogaethau amrywiol o’r ystlum, gloÿnnod byw o’r math Gwibiwr Brith a’r math Gwibiwr Llwyd, madfall ddŵr gribog, y dylluan wen a Glas y Dorlan. Mae cornicyllod yn nythu ar doeon yr unedau diwydiannol hyd yn oed.”

    CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

    Roedd Makena Lohr, o’r Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy hefyd yn esbonio yn y digwyddiad sut y gall mannau gwyrdd wella lles yn y gweithle ac arddangos prosiect Coedwig GIG a’r momentwm mae’n ennill ar draws y DU: “Mae cyfoeth o dystiolaeth yn cysylltu mannau gwyrdd gydag iechyd a lles gwell. Mae Coedwig GIG yn gweithio gyda sefydliadau gofal iechyd i agor eu mannau gwyrdd i gymunedau lleol ac i hybu gwell defnydd o’r amgylchedd naturiol gan staff a chleifion.”

    Ar lefel fwy lleol, dywedodd Jonathan Hulson o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, wrth y gynulleidfa am Brosiect Tirluniau Byw Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam: “Mae Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam yn cynnig cyfle gwych i integreiddio busnes, diwydiant a phobl yn iawn gyda bywyd gwyllt mewn amgylchedd waith ac mae potensial i fod yn safle batrwm, ar gyfer integreiddiad llwyddiannus y tri philer o ddatblygiad cynaliadwy: Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol, a allai fod o help yn gosod Cymru ar flaen datblygiad cynaliadwy o’r fath yn Ewrop.”

    Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

    Esboniodd Kieran Foody, Rheolwr Amgylcheddol Rowan Foods ar yr ystâd ddiwydiannol sut mae eu cwmni wedi elwa o weithio gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar y prosiect ac amlinellodd Ed Lawrence o United Utilities y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau i’w helpu i ddiogelu ansawdd dŵr.

    Mae’r grŵp rhwydweithio newydd hwn wedi cael ei sefydlu gan Dîm Busnes a Buddsoddi Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac wedi derbyn nawdd ar gyfer y prosiect hwn drwy Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

    Bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ym mis Medi, am ragor o wybodaeth ar hyn a rhwydweithiau busnes eraill ar draws Wrecsam cysylltwch â’r Tîm Busnes a Buddsoddi ar 01978 667300 neu anfonwch neges e-bost i business@wrexham.gov.uk

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

  • Cymryd Eich Busnes i’r Lefel Nesaf

    Cymryd Eich Busnes i’r Lefel Nesaf

    Ydych chi’n berchen ar fenter fach neu ganolig yng Wrecsam? Hoffech chi ddatblygu’ch busnes ymhellach? Os felly, mae gennym ni’r union beth i chi.

    Os hoffech chi fod ar eich ennill gyda’ch marchnata digidol, drwy ddenu cwsmeriaid a chleientiaid newydd na feddylioch chi erioed y bysech chi’n eu cael, yna gall gweithdy rhad ac am ddim Busnes Cymru fod yn berffaith ar eich cyfer chi.

    Mae’r gweithdai yn cael eu cynnal o fis Ionawr tan ddiwedd mis Mawrth, mewn lleoliadau amrywiol gyda lle i niferoedd cyfyngedig mewn rhai gweithdai. Byddwch yn dysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar eich strategaeth farchnata a gwasgu’r holl botensial posibl allan o’ch cynulleidfa.

    PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

    Byddwch hefyd yn dysgu sut y gall offer marchnata digidol eich helpu chi ymgysylltu â’ch marchnad darged, sut i ddatblygu strategaeth a fydd yn cynhyrchu gwerthiannau a’r hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio.

    Dyma weithdy profedig sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gyda 97% o’r mynychwyr yn dweud bod y gweithdy wedi bod o fudd iddyn nhw a rhai yn datgan eu bod nhw wedi “mwynhau ac elwa llawer ar y cwrs” a oedd yn “llawn gwybodaeth, gyda chynnwys a darpariaeth wych”.

    Os yw’ch busnes chi wedi ei gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau neu Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, yna fe allwch chi fanteisio ar gefnogaeth un-i-un wedi ei theilwra, cynllun wedi ei lunio yn arbennig ar eich cyfer, adolygiad o’ch gwefan ac awgrymiadau ar sut i wella a chynyddu gwelededd eich gwefan. Byddwch hefyd yn derbyn cyngor ar y pecynnau a’r dechnoleg sy’n gallu’ch helpu chi i fod ar eich ennill a gweld gwelliannau yn gyflym.

    Mewn byd sy’n newid yn barhaus, mae marchnata hefyd yn newid ac felly mae’n bwysig eich bod chi ar flaen y gad ac yn dal i ymgysylltu â’ch cynulleidfa a derbyn cyngor arbenigol sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

    Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

    [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

  • Hyfforddwr Pêl-Droed Wrecsam yn Ceisio Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Hyfforddwr Pêl-Droed Wrecsam yn Ceisio Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

    Mae atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn bwysig mewn unrhyw dref neu ddinas, ond yn Wrecsam mae un hyfforddwr yn ceisio mynd i’r afael â’r mater drwy chwaraeon.

    Mae Andrew Ruscoe yn hyfforddwr pêl-droed llwyddiannus sydd wedi helpu i godi Brickfield Rangers yn Wrecsam a’i gynllun BR in the Community o dîm cyffredin i dîm pwerus yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.

    Mae’r hyfforddwr 31 oed wedi ei eni a’i fagu yn Wrecsam, a bu’n chwarae i Brickfield, Cefn Druids a Chester City yn ei ddydd.

    Mae’n teimlo y gall chwaraeon chwarae rôl hanfodol o ran llywio pobl ifanc oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac – fel rhan o BR in the Community – mae’n cyflwyno prosiect pêl-droed ar gyfer ysgolion.

    “Nid oes bai ar neb, ond rwy’n meddwl bod plant yn cael eu harwain i ymddwyn yn wrthgymdeithasol weithiau”, meddai Andrew.

    “Felly rwy’n meddwl mai dyma’r amser gorau i ddechrau cyflwyno’r math yma o waith mewn ysgolion lleol.

    “Os gall lywio rhai plant drwy eu cynnwys mewn gweithgareddau pêl-droed, yna rwy’n barod i wneud hynny. Bydda i’n gwneud hynny i ysgolion am ddim.”

    Ffordd wych o gynnwys plant

    Ysgol Gynradd Brynteg yw un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan.

    Meddai’r athro Blwyddyn Chwech, Shaun Valentine: “Mae’n rhaid mai dyma’r trydydd neu’r pedwerydd tro i Andy ddod i’n hysgol ac mae o bob amser yn wych, ond roedd yn grêt ei gael yn yr ystafell ddosbarth am ran o’r sesiwn y tro hwn hefyd.

    “Rydyn ni’n methu aros i gael bod yn rhan o’r prosiect ac yn teimlo bod defnyddio diddordeb mewn pêl-droed yn ffordd wych o gynnwys plant yn y drafodaeth ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, am nad yw’n rhywbeth y bydden ni’n ei gynnwys yn y cwricwlwm fel arfer.

    “Roedd y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn ennyn diddordeb y plant yr holl amser, tra’n cyfleu negeseuon pwysig iddyn nhw – nid yn unig o ran beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol – ond hefyd yr effeithiau posibl ar y gymuned.”

    Gwreiddiau cymunedol

    Nid dyma’r tro cyntaf i Andrew ddefnyddio pŵer pêl-droed i helpu pobl a chymunedau.

    Yn ogystal â helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Andrew yn cynnal prosiectau i helpu i fynd i’r afael â materion iechyd, hyrwyddo pêl-droed i ferched, pêl-droed cerdded a llawer mwy.

    A bellach mae 32 o dimau yn cynrychioli Brickfield. Er na ddaeth heb rywfaint o ofid, meddai cefnogwr CPD Wrecsam.

    “Gall clybiau fel Brickfield Rangers ddarparu llawer”, meddai Andrew.

    “Dywedodd llawer ar y dechrau na fyddai cynllun pêl-droed yn gymuned a thîm amateur trydedd haen yn gweithio, ond fe ddywedais i y byddai ac rwyf wedi profi y byddai.

    “Rwy’n teimlo angerdd i roi yn ôl i bobl a’r gymuned.”

    Mae Brickfield wedi ennill gwobr Clwb Cymunedol Cymreig y Flwyddyn yn y gorffennol, ac mae Andrew wedi ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng ngwobrau chwaraeon Cyngor Wrecsam yn 2016, ynghyd â Gemma Owen o Racecourse Foundation CPD Wrecsam.

    Am wybod mwy am BR in the Community? Cliciwch yma