Mae cyfle ffantastig i gael prentisiaeth mewn gofal cymdeithasol gyda ni yma yn Wrecsam.

Bydd bore gwybodaeth yn y Neuadd Goffa ddydd Mercher 12 Gorffennaf rhwng 9.30am a 12.30pm pan allwch chi gael rhagor o wybodaeth amdano.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Rydym yn chwilio am rywun dros 18 oed sy’n ofalgar ac yn amyneddgar ac sy’n hoffi i bob diwrnod fod yn wahanol ac yn aml yn heriol.

A yw’r disgrifiad hyn yn swnio’n debyg i chi? Yna darllenwch ymlaen:
Byddwch yn cael eich talu wrth i chi ddysgu a byddwch yn ennill sgiliau a dealltwriaeth ym maes Gofal Cymdeithasol i’ch helpu i gael gyrfa lwyddiannus.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda ITEC Wrecsam sy’n cynnig ystod o hyfforddiant perthnasol a phrofiad i’ch caniatáu chi i fod yn hollol gymwys yn y sector gofal cymdeithasol.

Mae croeso i chi bicio draw i’r digwyddiad yn y Neuadd Goffa a chael sgwrs gyda phobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Wyddoch chi ddim, efallai mai dyma fydd eich cam cyntaf i yrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.

COFRESTRWCH FI