Mae perchnogion cŵn yn caru eu hanifeiliaid anwes ac maent yn mynd a nhw am dro yn aml er mwyn iddynt fod yn iach ac mewn cyflwr da.
Yn anffodus, nid pob perchennog sydd yn caru eu hamgylchedd gymaint ac maen nhw’n gadael i’w cŵn faeddu heb godi’r baw!
Yn ogystal â chario bygiau, a allai arwain at haint, asthma a hyd yn oed dallineb, gall pob math o fwydod a bacteria fyw mewn pridd ymhell ar ôl i’r baw ci bydru.
Mae’n iawn felly bod y math yma o ymddygiad yn golygu dirwy ac fe allai gostio isafswm o £100 neu hyd yn oed erlyniad i droseddwyr.
Mae glanhau ar ôl eich ci yn hawdd, ac nid yw ysgarthion ffres yn heintus. Gellir taflu baw cŵn mewn bagiau mewn biniau sbwriel cyffredinol. Os nad oes bin gerllaw, dylid cael gwared ag o yn gyfrifol pan fyddwch yn ôl gartref.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae llawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled y fwrdeistref sirol sy’n poeni, nid yn unig am eu cŵn, ond am eu hamgylchoedd a mwynhad eraill o’r lle hefyd.
“Rydym ni’n cael adroddiadau am faw cŵn a lle y bo’n bosibl, rydym yn ceisio adnabod y rhai sy’n gyfrifol ac yna’n rhoi dirwyon heb oedi.”
Mae yna Orchmynion Rheoli Cŵn ar waith ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, i reoli ymdriniaeth ac ymddygiad cŵn. Mae’r gorchmynion yn ymdrin â baw cŵn ac yn gwahardd cŵn o fannau chwarae plant, caeau chwaraeon a lawntiau bowlio.
Mae hi hefyd yn drosedd i beidio â chario bag i’w ddefnyddio ar ôl i’ch ci faeddu.
Gallwch roi gwybod am faw ci ar-lein.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar fêps mewn ffordd gyfrifol
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch